Teithiau cerdded gwahanol i’r teulu

Mae ein ap yn llawn dop o syniadau am weithgareddau i’r teulu y gallwch eu gwneud ar hyd y llwybr

Mae wedi’i gynllunio i ddod â’r llwybr yn fyw gan ddefnyddio realiti estynedig, ffilmiau 3D a gemau i ysbrydoli teuluoedd i ddarganfod y llwybr a chael hwyl yr un pryd.

Gallwch chi hyd yn oed rannu eich profiadau arbennig ar y llwybr gyda’n cerdyn post electronig integredig i rannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Mae rhai agweddau ar yr ap wedi’u cynllunio i weithio’n benodol gyda byrddau gwybodaeth sydd wedi eu gosod yn y saith lleoliad.

Rhowch gynnig ar syniadau un o'n "teithiau teulu gyda gwahaniaeth" i brofi'r llwybr mewn ffordd unigryw a hwyliog

• Y Gogarth, Llandudno, Arfordir Gogledd Cymru
Afon Fenai, Ynys Môn
• Borth y Gest, Penrhyn Llŷn
• Cei Newydd, Ceredigion
• Saundersfoot, Sir Benfro
Traeth Pentywyn, Bae Sir Gaerfyrddin
• Bae Caerdydd,  Caerdydd, Arfordir De Cymru


Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n lawrlwytho’r ap gartref cyn i chi gychwyn ar eich taith – mae ar gael o’r siopau ap ar gyfer Apple iOS a dyfeisiau Android.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Hyfforddwch ar gyfer ur Ail Ryfel Byd yn y gêm realti estinnedig hon

Archwilich wely'r môr, Pwll Ceris a'r bywyd o dan y dŵr

Cwrdd â chrwbanod cefn lledr yn agos mewn 3D

Plymiwch i hanes Cei Newydd gyda ffilm 3D

Ewch ar daith yn ôl mewn amser i gychwyn y fan hon fel cyrchfan i dwristiaid mewn ffilm 3D

Gosodwch eich record cyflymder tir eich hun yn ein gêm car rasio Blue Bird

Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti estinedig hwn