Bae Caerdydd
Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti...
Archwilich wely'r môr, Pwll Ceris a'r bywyd o dan y dŵr
Y Fenai, Ynys Môn
Dechreuwch a gorffen eich taith yn y Gardd Fotanegol Treborth, Bangor. Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.
2 km / 1 filltir (llwybr cylchol)
"Mae’r Fenai yn ddarn twyllodrus o ddŵr. Mae’r llanwau gwahaniaethol ar y naill ben a’r llall yn achosi ceryntau cryf iawn i’r ddau gyfeiriad sydd, ynghyd â’r banciau tywod ansefydlog, yn ei gwneud yn un o’r darnau anoddaf o ddŵr i’w hwylio yn Ynysoedd Prydain. Edrychwch am amrywiaeth o adar môr a gwiwerod coch ar y ffordd".
Dechreuwch drwy archwilio Gardd Fotanegol Treborth ym Mangor ar ochr tir mawr Pont Menai – mae llwybrau ardderchog trwy’r coetir naturiol yno. Ewch allan o’r ardd ar hyd y rhodfa a dros Bont Menai. Wedi croesi’r bont i dref brysur Porthaethwy, trowch i’r chwith o flaen tafarn yr Anglesey Arms ac ewch tuag at y Fenai. Wrth i chi weld y dŵr, trowch i’r dde i Rodfa’r Belgiaid.
Yma, gallwch fwynhau profiad Realiti Estynedig gan ddefnyddio’ch dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) gydag ap Llwybr Arfordir Cymru a’r panel i archwilio gwely’r Fenai a gweld llong HMS Conway yn fyw! Ewch ymlaen lawr Rhodfa’r Belgiaid ac ewch i ymweld ag Ynys Tysilio drawiadol cyn bwrw nôl i fyny trwy Goed Cyrnol, hafan coetir Gwarchodfa Natur Leol ar gyfer gwiwerod coch, a cherddwch nôl dros Bont Menai.
Beth am ymestyn eich taith drwy ymweld â Chanolfan Treftadaeth Pont Menai i ddysgu am hanes y porth eiconig i Ynys Môn.
Mae nifer o leoedd i fwyta ac yfed yn y dref brysur hon, yn ogystal â golygfeydd helaeth o’r Fenai a Phont Britannia, pont (i gerbydau) eiconig arall sy’n cysylltu tir mawr Cymru ac Ynys Môn.
Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.
Lawrlwythwch y daflen deithio Y Fenai - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru