Hysbysiad Preifatrwydd
Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi a sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd
Mae Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r polisi hwn yn esbonio pryd a pham y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol am ymwelwyr â’n gwefan neu bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, sut rydym yn ei defnyddio, o dan ba amgylchiadau y byddwn efallai yn ei datgelu i eraill, a sut y byddwn yn ei chadw’n ddiogel.
Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau rydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo i’r polisi hwn.
Gallwch gysylltu â Llwybr Arfordir Cymru yn wcp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 0300 065 3000 neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol: Tîm Llwybr Arfordir Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ.
Amdanom ni
Llwybr troed 870 milltir / 1,400 cilometr yw Llwybr Arfordir Cymru, sy’n dilyn arfordir cyfan Cymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli’r llwybr, ac mae tîm Llwybr Arfordir Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag 16 o awdurdodau arfordirol lleol, yn ogystal â dau barc cenedlaethol, ar gynnal a chadw a datblygu llwybrau. Mae yna swyddogion llwybrau rhanbarthol penodol sy’n cynnal a chadw’r llwybr ac sy’n cael eu cyflogi gan amryfal sefydliadau cyhoeddus. Daw’r cyllid ar gyfer cynnal a chadw, datblygu a marchnata’r llwybr oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae’r prif bartneriaid yn cynnwys Croeso Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, sy’n marchnata ac yn hyrwyddo’r llwybr i gynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Rheolydd data
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheolydd data, ac mae’n ymroddedig i warchod hawliau unigolion yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru swyddog diogelu data y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon neges e-bost i dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy ffonio 0300 065 3000.
Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae gweithgareddau Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr, newyddion rheolaidd a geir drwy fod ar ein rhestr e-bost mewnol, a’r e-gylchlythyr a geir ar blatfform Granicus (Polisi preifatrwydd | Granicus UK).
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn defnyddio’r platfformau cyfryngau cymdeithasol canlynol i hyrwyddo’r llwybr: Facebook, Instagram a TikTok.
Bydd unrhyw ddigwyddiadau a threfniadau wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu drwy Jotform (Polisi preifatrwydd Jotform) neu system archebu fewnol drwy e-bost.
Mae nwyddau swyddogol ar gael i’w prynu o siop Llwybr Arfordir Cymru https://www.walescoastpathshop.co.uk sy’n cael ei chynnal gan drydydd parti.
Gwefan Llwybr Arfordir Cymru
Mae gwefan Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei chynnal gan drydydd parti (Umbraco). Llwybr Arfordir Cymru sy’n rheoli’r holl gynnwys gwe ac ymholiadau a wneir drwy’r wefan.
Cwcis
Mae gwefan Llwybr Arfordir Cymru yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am nifer yr ymwelwyr a’r adrannau o’r wefan yr ymwelwyd â nhw. Darnau bach o wybodaeth sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau yw cwcis. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio eich dewisiadau, neu i olrhain eich hanes gwylio er mwyn targedu hysbysebion yn fwy effeithiol.
Mae’r wybodaeth ddienw yn cael ei chasglu a’i hadrodd trwy ddefnyddio Google Analytics i’n helpu ni i reoli’r wefan. Mae hyn yn ein hatal rhag gweld unrhyw gofnodion unigol: dim ond gwybodaeth crynodeb a thueddiadau y gallwn eu gweld.
Google Analytics
Pan fydd rhywun yn ymweld â https://www.walescoastpath.gov.uk rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â rhannau gwahanol o’r safle. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad yw’n adnabod neb. Nid ydym yn ceisio darganfod, nac yn caniatáu i Google geisio darganfod pwy sydd yn ymweld â’n gwefan.
Dolenni
Mae ein safle yn cynnwys dolenni i wefannau ein partneriaid a’n haelodau. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch y bydd gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau y gellir eu cyrchu trwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd ar gyfer y polisïau hyn, neu ar gyfer unrhyw ddata personol y gellid eu casglu trwy’r gwefannau neu wasanaethau hyn. Gofynnir i chi wirio’r polisïau hyn cyn ychwanegu unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn neu ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
• Darparu gwybodaeth
• Ymateb i ymholiadau
• Eich hysbysu am newidiadau i’n gwasanaeth
• Optimeiddio gwefan Llwybr Arfordir Cymru
Mae’r data yn cael eu prosesu yn fewnol ac nid ydynt yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i CNC gyflawni tasg er budd y cyhoedd.
Pwy sy’n cael eich gwybodaeth?
Staff Llwybr Arfordir Cymru yw’r prif broseswyr data at ddibenion cyflawni ein dyletswyddau sy’n cyd-fynd â dibenion cyffredinol Llwybr Arfordir Cymru. Gallwch gysylltu â Llwybr Arfordir Cymru yn wcp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 0300 065 3000, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.
Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac, o’r herwydd, gallwn rannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Y proseswyr trydydd parti yr ydym yn eu defnyddio:
- Gwasanaethau gwe Umbraco, sy’n cynnal gwefan Llwybr Arfordir Cymru
- Granicus ar gyfer gweinyddu ein gwasanaethau cylchlythyr
- Google Analytics i’n cynorthwyo i wella ac optimeiddio gwefan Llwybr Arfordir Cymru
Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?
Byddwn yn cadw eich data am gyfnod rhwng 6 a 12 mis. Ar gyfer ymholiadau cymhleth, ni fydd hyn yn hirach nag y mae’n angenrheidiol at ddibenion cyflawni gweithgareddau Llwybr Arfordir Cymru. Er mwyn cofrestru ar gyfer y cylchlythyr, bydd eich data yn aros yn y system nes i chi ofyn am gael eich datdanysgrifio.
Beth yw eich hawliau chi fel unigolyn?
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, ac i gywiro, dileu, cyfyngu a chludo eich gwybodaeth bersonol.
Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data CNC:
E-bost – dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Swyddog Diogelu Data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Diogelwch eich gwybodaeth
Mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni yn cael ei chadw ar ein gweinyddion diogel. Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data a drosglwyddir gennych chi i’n gwefan. Mae unrhyw drosglwyddiad yn digwydd ar eich menter eich hun. Unwaith yr ydym wedi cael eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb ei awdurdodi
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, phan fo’n briodol, byddwn yn eich hysbysu ohonynt drwy e-bost. Gwiriwch yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
Sut i wneud cwyn
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael eu prosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data CNC yn gyntaf gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
ico.org.uk