Bae Caerdydd
Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti...
Gosodwch eich record cyflymder tir eich hun yn ein gêm car rasio Blue Bird
Traeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin
Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer pramiau na bygis.
Maes parcio talu ac arddangos yng nghanol pentref Pentywyn i Gillman Point. Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.
Llwybr cerdded: 1 km / 0.75 filltir
Taith estynedig: 2km / 1 milltir o Gillman Point yn ôl i bentref Pentywyn ar y ffordd B4314.
"Mae Traeth Pentywyn yn syfrdanol gydag 8 milltir o dywod euraidd. Dyma gartref record cyflymder ar y tir, lle arbennig sydd wedi gweld hanes moduro sawl gwaith wrth i recordiau cyflymder ar y tir gael eu cyflawni a’u torri.
Ar y daith hon byddwch yn darganfod clogwyni ysblennydd a golygfeydd arfordirol dros Fae Caerfyrddin a golygfeydd helaeth draw i Benrhyn Gŵyr yn y pellter".
Cychwynnwch ar eich taith wrth y panel Realiti Estynedig o flaen caffi ‘Tea by the Sea’. Yma, defnyddiwch eich dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) gydag ap Llwybr Arfordir Cymru i yrru car rasio Blue Bird ac ymuno ag Amy Johnson ar ei hediad i America cyn mynd i’r gorllewin ar hyd lan y môr. Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru, gan fynd i fyny’r grisiau serth i ben y clogwyn ym Mhwynt Gillman. Mae’r golygfeydd ar draws Morfa Bychan werth yr ymdrech!
Gallwch ddychwelyd yr un ffordd neu gall y rhai mwy egnïol fynd ymlaen i’r traeth bach ym Morfa Bychan a throi i’r dde ar drac wedi’i arwyddo sy’n mynd i fyny rhiw. Ble mae fforch yn y trac, trowch i’r dde ac ewch tuag at y ffordd B4314 nôl i bentref Pentywyn.
Edrychwch am y nythfa fwyaf o adar môr yn Sir Gaerfyrddin a thynnwch luniau o olygfeydd agored godidog y traeth hwyaf ar Lwybr Arfordir Cymru, Traeth Pentywyn.
Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.