Borth y Gest

Cwrdd â chrwbanod cefn lledr yn agos mewn 3D

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw’r daith gerdded

Borth y Gest, Penrhyn Llŷn

Cyn gadael

Larlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig.

Dechrau/Diwedd

Dechreuwch eich taith yn maes parcio Borth y Gest a gorffennwch yn Ynys Cyngar.  Mae lleoliad y panel yn daith gerrded fer o'r faes parcio a sydd ar gael o Google Maps.

Pellter

Llwybr cerdded:  2 km / 1 filltir o’r faes parcio i Ynys Cyngar

Taith gerdded estynedig: 3km / 2 filltir O Ynys Gyngar i Traeth y Graid Ddu yn Morfa Bychan

Rhys Gwyn Roberts, Uchafbwynt Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

"Cewch fwynhau golygfeydd anhygoel, traethau prydferth a bywyd gwyllt amrywiol ar y daith gerdded hon. Cyn datblygiad Porthmadog, Borth y Gest oedd man croesi moryd llydan a pheryglus y Glaslyn, ac ‘roedd pobl leol yn ennill arian drwy arwain teithwyr ar draws tywod twyllodrus Traeth Mawr i Harlech. Edrychwch yn ofalus i’r môr; efallai y gwelwch chi grwban y môr cefn-lledr!"

Gwybodaeth am llwybr 

O’r maes parcio, dilynwch arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tua’r gorllewin heibio tai teras. Mwynhewch olygfeydd helaeth godidog oAfon Glaslyn, un o brif afonydd yr ardal.   Mae panel y profiad Realiti Estynedig ar yr ardal welltog. Defnyddiwch ap Llwybr Arfordir Cymru ar eich dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) i gwrdd â’r crwban môr cefn-lledr ac archwilio hanes cyfareddol Porthmadog.

Eisiau mynd ymhellach?

Ewch ymlaen ar y llwybr tan i chi gyrraedd Ynys Cyngar, pentir bach oedd arfer bod yn ynys lanwol. Gallwch ddychwelyd ar yr un llwybr neu os hoffech archwilio mwy, gallwch fentro ychydig ymhellach i Traeth y Graig Du yn Morfa Bychan - un o’r ardaloedd mwyaf o dywod yng Ngogledd Cymru. Cofiwch fynd â bwced a rhaw!

Ar y ffordd

Mae’r daith gerdded yn addas ar gyfer teuluoedd; mae rhan gyntaf y daith hyd at y panel realiti estynedig yn addas ar gyfer pramiau.

Cynllunio'ch ymweliad

Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.

Lawrlwythwch y daflen deithio

Lawrlwythwch y daflen deithio Pen y Gogarth - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r  llwybr a 'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.

Gwyliwch ein fideo byr i weld nodweddion yr ap

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig