Bae Caerdydd
Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti...
Hyfforddwch ar gyfer ur Ail Ryfel Byd yn y gêm realti estinnedig hon
Pen y Gogarth, Llandudno
Llwybr cerdded 4km / 2 filltir o gaffi Rest and Be Thankful i bromenâd Pen Morfa.
Taith gerdded estynedig 5km / 3 milltir (o bromenâd Pen Morfa drwy'r orsaf dramiau a theithiau tram yn ôl i gopa copa y Gogarth a thaith gerdded yn ôl i'r caffi Rest and Be Thankful.
"Darganfyddwch gyfrinachau Pen y Gogarth! Mae’r daith gerdded hygyrch hon yn darparu golygfeydd anhygoel tuag at Ynys Môn, mae wedi ei tharmacio ac mae digon o seddi ar gyfer ymwelwyr llai heini neu rai iau – sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer y teulu cyfan"
Cychwynnwch ar eich taith ym maes parcio caffi Rest and be Thankful lle gwelwch banel y profiad realiti estynedig. Defnyddiwch ap Llwybr Arfordir Cymru ar eich dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) i gwrdd â glöynnod byw prin a chwarae gêm hyfforddi’r Ail Ryfel Byd!
Dilynwch y llwybr gan droi i’r dde allan o faes parcio’r caffi. Mae’r llwybr yn dilyn palmant Cylchdro’r Gogarth o amylch Pen y Gogarth i bromenâd Pen Morfa – mae toiledau, caffis, lle chwarae a thraeth yno. Dychwelwch ar yr un llwybr.
I ymestyn eich taith, dilynwch lwybr ‘taith y cleifion’ y tu ôl i dref Llandudno. Dechreuwch gan yr hen doll-dŷ ym Mhen Morfa tuag at Draeth y Gogledd, prif draeth Llandudno gyda’i bier Fictorianaidd hir a’i bromenâd llydan. Mae’r daith hon yn dechrau trwy ddringo’n serth (anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn) ac yn mynd trwy Haulfre Gerddi, gan ddarparu golygfeydd panoramig tuag at Gonwy a dros Landudno. Ewch ar dram o Orsaf Pen y Gogarth nôl i fyny i gopa Pen y Gogarth lle mae llwybr i gaffi Rest and be Thankful.
Edrychwch am eifr, glöynnod byw ac nodweddion daearegol unigryw.
Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.
Lawrlwythwch y daflen deithio Pen y Gogarth - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.