Bae Trecco i Farina Porthcawl, Pen y Bont ar Ogwr

Mwynhewch y daith cerdded ymlaciol hon ar gyfer ymwelwyr iau gydag ymweliad â pharc pleser glan môr Traeth Coney

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Parc Gwyliau Bae Trecco i marina Porthcawl

Pellter

2 milltir neu 3 km

Ar hyd y ffordd

Gyda thraethau euraidd, ffeiriau a pheiriannau traddodiadol glan y môr, mae’r tro bach hamddenol hwn yn berffaith i ymwelwyr ifanc.

Gan gychwyn ym Mharc Gwyliau Bae Trecco, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i’r gorllewin heibio Bae Trecco a Sandy Bay. Wedi ei wahanu gan bentir bychan, creigiog a thraethau euraidd mae man gorffwys delfrydol i chi gael ymdrochi neu adeiladu cestyll tywod cyn parhau â’ch taith.

Nesaf, ymlaen â chi i Draeth Coney, parc pleser glan y môr sy’n llawn reids, ffigar-êt, stondinau, gemau ac arcêds. Unwaith i’r plant wario eu harian poced, ewch ymlaen ar hyd y Promenâd Dwyreiniol at Farina Porthcawl sydd newydd gael ei adnewyddu. Bu’r harbwr unwaith yn borthladd glo prysur, ond mae bellach yn fan hyfryd i stopio am hufen iâ wrth wylio’r cychod pleser a’r cychod pysgota’n siglo i fyny ac i lawr yn y dŵr.

Efallai bod gorffennol diwydiannol y marina wedi hen ddiflannu, ond mae’n parhau i fod yn gartref i ddarnau diddorol o hanes morol. Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II Jennings ei adeiladu yn 1832, a dyma warws forol hynaf y DU sydd bellach yn gartref i fwytai a chaffis, a’r goleudy sydd yma, sydd bellach yn cael ei bweru gan fatri, oedd y goleudy olaf yn y wlad i gael ei bweru gan lo a nwy.

Unwaith i chi weld y cyfan, ewch yn ôl yr un ffordd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru at eich man cychwyn.

Uchafbwyntiau'r daith

Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma daith gerdded sy’n boblogaidd ymysg teuluoedd a phobl sydd ar eu gwyliau. Mae modd mynd i Fae Trecco a Thraeth Coney yn hawdd ac mae’n brofiad sydd oddi ar y llwybr i bobl sydd eisiau cael profiad glan môr go iawn. Fodd bynnag, mae’n werth ymweld â’r goleudy ac ardal y marina sydd wedi ei adnewyddu"

Angen Gwybod

Mae caffis a thoiledau cyhoeddus yn ogystal â lleoedd parcio ym Mae Trecco a Thraeth Coney.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Parc Gwyliau Bae Trecco i marina Porthcawl (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Llun - Traeth Coney o'r awyr gan Coney Beach Porthcawl ar Facebook