Moelfre i Llugwy, Ynys Môn

Dysgwch am hanes morwrol yr ynys, sy'n llawn achubiadau dewr ar y môr, a'i chysylltiad ag Oes yr Haearn

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Canol pentref Moelfre i Llugwy

Pellter 

2 milltir neu 3 km

Taith cerdded estinedig 2 millitir neu 2.5 km

Ar hyd y ffordd

Dechreuwch yng Ngwylfan Moelfre, mae’n werth ymweld gan ei bod yn adrodd stori hanes morol Ynys Môn a phwysigrwydd y môr i ran hon yr ynys. Cewch hefyd wybod am Dic Evans a anwyd ym Moelfre. Llwyddodd y swyddog bad achub dewr hwn achub dros 200 o fywydau yn ystod 50 mlynedd o wasanaeth a derbyniodd ddwy fedal aur gan yr RNLI. Mae cerflun ohono wrth ei waith y tu allan i’r Wylfan, hyd yn oed. Yn ogystal â gorffennol morwrol Moelfre, gellir gweld ei bresennol yn yr orsaf bad achub, sy’n dal i achub bywydau ddwy ganrif yn ddiweddarach.
Yn ystod misoedd yr haf, gallwch fynd ar daith dywys i weld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.

Wrth i Lwybr Arfordir Cymru ymdroelli i’r gogledd o gwmpas penrhyn bychan, byddwch chi’n pasio rhes fach ddel o fythynnod pysgotwyr sy’n edrych dros draeth cerrig â golygfeydd dros Ynys Moelfre. Dewch â’ch binocwlars oherwydd mae’n lle gwych i weld adar y môr. Yn agos at y llwybr ym Mhorth Helaeth mae carreg goffa i’r  Royal Charter, llong a ddrylliwyd yma mewn tywydd gwael ar 25 Hydref 1859 gan golli tua 450 o fywydau.

O’r diwedd, byddwch chi’n cyrraedd Traeth Llugwy (er y caiff ei sillafu fel Lligwy hefyd), traeth euraidd hyfryd â digon o byllau cerrig i’w harchwilio. Wrth ddychwelyd, cerddwch ar hyd y llwybr neu dilynwch y ffordd i mewn tua’r tir o faes parcio Traeth Llugwy ac ar draws y groesffordd gyntaf. O’r fan hon gallwch chi ddilyn y ffyrdd gwledig neu’r llwybrau troed mewndirol yn ôl i ganol y pentref. Tua 850m ar hyd y ffordd hon, mae Capel Llugwy a ffordd fer at Din Llugwy, setliad hynafol sy’n dyddio’n ôl i Oes yr Haearn, a gafodd ei ddefnyddio’n ddiweddarach gan y Rhufeiniaid, sy’n werth ei weld.

Uchafbwyntiau'r daith 

Gruff Owen, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru
"Mae rhywbeth i bawb ar ran hon y Llwybr; mae rhywbeth diddorol yn llechu y tu ôl i bob cornel, a’r cyfan o fewn cyrraedd. Mae golygfeydd gwych o’r môr ac efallai y gwelwch chi ddolffin neu
lamhidydd ar hyd y ffordd, maen nhw’n eithaf cyffredin yn yr ardal hon".

Angen Gwybod

Mae dewis da o leoedd bwyta ac yfed ym Moelfre, yn ogystal â pharcio a chyfleusterau eraill. Mae maes parcio, siop a thoiledau yn Llugwy hefyd.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Moelfre i Llugwy (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Llun: Golygfa rhwng Moelfre i Llugwy gan Jonathon Yeardley 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig