Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith...
Gadewch i'r plantos fwynhau'r maes chwarae yn y parc cyn mynd am dro bach ar lan y môr
Parc Gwledig Porthceri / y Cnap
3 millir neu 5 km
Dyma daith gerdded ddifyr sydd â llawer o bethau i ymwelwyr iau eu gweld a’u gwneud. Cyn ichi gychwyn, treuliwch amser yn darganfod tir gwyrddlas Parc Gwledig Porthceri. Byddwch yn gweld y draphont eiconig sy’n torri ar draws y parc, ynghyd â lle chwarae antur ac amryw o lwybrau natur rhyngweithiol sy’n cyflwyno hanes a nodweddion byd natur y parc.
Pan fyddwch yn barod i symud ymlaen, ewch ar y llwybr i lawr tuag at y traeth cerrig mân, gan droi tua’r dwyrain i ddechrau’r daith ddringo hir i fyny’r clogwyn dwyreiniol drwy Cliffwood. Byddwch yn mynd i fyny cyfres o risiau - y Grisiau Aur - a elwir yn hynny oherwydd, yn ôl y chwedl, mae trysor môr-ladron wedi’i guddio oddi tanynt.
Ar ôl seibiant haeddiannol ar ben y grisiau, ewch yn eich blaen ar hyd y clogwyni cyn dechrau mynd i lawr tuag at y Cnap (sef cymydog heddychlon Ynys y Barri), heibio adfeilion adeilad Rhufeinig – sef gwesty (neu blasty) o’r drydedd ganrif a ddefnyddid ar un adeg gan ymwelwyr a gyrhaeddai’r hen harbwr.
Cyn bo hir, byddwch ar draeth cerrig mân sy’n ymestyn yr holl ffordd i bentir creigiog y Cnap Oer. Dilynwch y promenâd i’r pentir hwn, a’ch gwobr yno fydd golygfeydd gwych o Ynys Ronech, Ynys Echni, ac arfordir Gwlad yr Haf ar ochr draw Môr Hafren.
Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau’r Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam:
"Mae’r golygfeydd o Ynys Ronech ac Ynys Echni ar y daith gerdded hon yn werth eu gweld, hyd yn oed os oes rhywfaint o ddringo i fyny’r grisiau aur i mewn i Cliffwood. Mae’r traeth yn y fan yma hefyd yn lle gwych i ymweld ag ef. Pan fo’r llanw’n caniatáu, mae’n ymestyn o’r Cnap, i’r gorllewin o’r Barri, yn ôl i Barc Gwledig Porthceri, sy’n enwog yn bensaernïol am Draphont Porthceri â’i hun-ar-bymtheg o fwâu".