Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith...
Cofiwch ddod â'ch ysbienddrych i fwynhau’r llu o fywyd gwyllt a golygfeydd rhyfeddol ar hyd yr arfordir
Pwllgwaelod - rhyw gilometr oddi ar yr A487 ger Dinas
8 milltir neu 13 km
Aiff y daith gylchol hon â chi o gwmpas clogwyni uchel Pen Dinas. Mae graddiannau serth i’r llwybr a byddwch chi’n cerdded ar ymyl clogwyni, felly rhaid goruchwylio cerddwyr ifanc. Caiff Pen Dinas weithiau ei alw’n Ynys Dinas, ond pentir a ffurfiwyd ar ddiwedd yr Oes Iâ olaf ydyw, sydd wedi ei wahanu ychydig oddi wrth y tir mawr. Wrth i chi ddringo’r llwybr serth i’r pentir, wedi eich amgylchynu gan ddwr ar dair ochr, byddwch chi bendant yn teimlo fel eich bod chi ar y môr.
Mae Dinas yn enwog am ei fywyd gwyllt helaeth, felly dewch â’ch binocwlars. Yn y gaeaf, cadwch lygad am gigfrain, brain coesgoch a phenwaig, gwylanod cefnddu mawr a bach, ac yn yr haf gwelir gweilch y penwaig yn bridio, gwylogod, adar drycin y graig a mulfrain yn nythu ar y clogwyni.
Un o’r lleoedd gorau i’w gweld yw Needle Rock ar ochr ddwyreiniol Pen Dinas, ble mae hefyd olygfeydd godidog ar draws y dwr i Draeth Trefdraeth a thua’r tir tuag at Fynyddoedd y Preseli.
Wrth i chi gerdded, cewch weld blodau gwyllt arfordirol, lliwgar fel tamaid y cythraul, teim, grug, clustog Fair, dail-ceiniog, bysedd y cwn a thegeirianau, gyda chlychau’r gog yn blaguro’n hwyr yn y gwanwyn ar lethrau dwyreiniol y pentir.
Aiff Llwybr Arfordir Cymru â chi o gwmpas i bentrefan hyfryd Cwm-yr Eglwys, ble gwelwch chi adfeilion yr eglwys leol a ddinistriwyd gan storm fawr 1859. O Gwm-yr-Eglwys, dilynwch y llwybr troed ar hyd crib y pentir er mwyn dychwelyd i Bwllgwaelod.
Theresa Nolan, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma daith gerdded gylchol hynod ddiddorol â golygfeydd gwych o glogwyni uchel Pen Dinas a digon o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd".
Lawrlwythwch taflen cerdded Pen Dinas (PDF) a map taith cerdded (JPEG)