Lleoedd i fynd iddyn nhw
Nid yn unig y mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd â chi drwy dirlun Cymru, y mae hefyd yn mynd â chi drwy ei threftadaeth a’i chymunedau
Mae arfordir Cymru’n llawn gwrthgyferbyniadau ac mae wir yn cynnig rhywbeth i bawb. O fynd am dro ar ben clogwyni i grwydriadau morydol, pentrefi pysgota pictiwrésg i ddinasoedd bywiog, treftadaeth ddiwydiannol i gestyll anorchfygol, traethau gwyntog i lannau môr prysur. Pa un ai a ydych chi yma am awr yn unig neu benwythnos cyfan, mae gan Lwybr Arfordir Cymru lawer i’w gynnig.
Mae'r rhan hygyrch hon yn ymfalchïo yn y traethau tywodlyd ac yn y cestyll, trefi a’r pentrefi hanesyddol sy'n frith ar hyd y ffordd.
Cerddwch o amgylch ynys gyfan - cyfle i ganfod yr anghysbell, golygfeydd dramatig a chyfoeth o hanes
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gefnlen naturiol syfrdanol i'r rhan unigryw hon o'r llwybr- sy’n ffefryn gan bawb!
O Borthmadog i Aberteifi, mwynhewch y dirwedd odidog, y bywyd gwyllt, y trefi prydferth a’r traethau
Yma ceir tirwedd eiconig fyd-enwog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac ynysoedd sy’n llawn bywyd gwyllt
Mwynhewch amrywiaeth o fflora a ffawna ar y darn hwn o arfordir, ac archwiliwch y trefi hanesyddol â’u golygfeydd godidog ar y ffordd.
Ewch heibio dair o ddinasoedd mwyaf Cymru a mwynhau golygfeydd ysblennydd o Aber Hafren ac arfordir treftadaeth Morgannwg