Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Ynys Môn
Gruff Owen yn disgrifio ei hoff ran o Lwybr Arfordir...
Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o werthfawrogi arfordir Cymru ac mae dros 800 milltir o lwybrau i’w troedio, weithiau dros glogwyni uchel, dro arall ar hyd traethau godidog. Dyma rai o’n ffefrynnau ni, a’n hargymhellion ar sut i weld y gorau o’r arfordir
Visit Wales
Tro cylch ger pentref Rhosneigr. Mae’r rhan gyntaf yn mynd â chi ar hyd llwybr pren sy’n addas i bawb i lwyfan gwylio ar lan y llyn; mae cyrs yn tyfu o gwmpas yr ymylon ac mae’n hafan i adar. Yna, gallwch fynd yn eich blaen o gwmpas y llyn. Darganfod mwy am y cylchdaith gerdded Rhosneigr.
Taith fer drwy bentref Aberffro ac ar hyd aber hyfryd Afon Ffraw a’r traeth, cyn troi’n ôl drwy’r twyni.
Dyma daith gerdded heriol braidd sy’n cychwyn ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi. Mae’r llwybr yn mynd dros y mynydd ac ar hyd yr arfordir i safle eiconig Ynys Lawd. Mae’n bosib cerdded yn ôl i’r parc ar hyd y llwybrau amlwg ar yr ochr arall i’r mynydd.
Defnyddiwch y daith hyfryd yma gyda’i golygfeydd gwych draw at y tir mawr fel cyfle i ymarfer dweud enw’r pentref enwog! Bydd y llwybr yn mynd o dan y ddwy bont – Pont Britannia a godwyd gan Stephenson yn 1850, a Phont y Borth, y bont grog enwog a godwyd gan Thomas Telford yn 1826. (Bws)
Beth am grwydro strydoedd Biwmares i weld yr adeiladau hardd o gyfnod Brenin George cyn mentro ar hyd yr arfordir i fwynhau’r golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau’r ochr draw i Afon Menai? Byddwch yn gweld Ynys Seiriol yn Nhrwyn Penmon, cynefin sy’n cael ei ddiogelu ar sail y boblogaeth fawr o fulfrain (ond dim un pâl er gwaethaf ei enw Saesneg!) sydd yno.
Dyma lwybr sy’n cynnig golygfeydd ardderchog o’r ardal arfordirol. Mae’n golygu cerdded o bentref tlws Moelfre i draeth poblogaidd Traeth Llugwy a Thraeth yr Ora, sy’n cael llawer llai o ymwelwyr, cyn troi i mewn am y tir ar hyd aber Afon Dulas i dafarn y Pilot Boat Inn. Mae’r llwybr yn mynd heibio i’r gofeb i’r bobl a gollodd eu bywydau pan suddodd llongau’r Royal Charter yn 1859 a’r Hindlea yn 1959. (Bws)
Cylchdaith sy’n cychwyn ynghanol pentref Pentraeth. Mae’r llwybr yn eich arwain i lawr lôn goediog hardd i Draeth Coch (a enwyd ar ôl lliw’r tywod yno). Ewch ymlaen drwy goedwig gonwydd Pentraeth gan edrych i lawr dros y bae – efallai y gwelwch wiwer goch. Darganfod am y cylchdaith gerdded Pentraeth
Cylchdaith o ganol Llangoed, drwy gaeau ac ar hyd lonydd i Drwyn Penmon, gan edrych draw dros Ynys Seiriol (Puffin Island). Dyma’r man mwyaf dwyreiniol ar Ynys Môn. Ar y ffordd yn ôl, byddwch yn pasio Priordy Penmon a ffynnon Seiriol Sant.
Mae’r llwybr yma’n cychwyn ym mhorthladd hanesyddol a phrydferth Amlwch. Byddwch yn cerdded ymlaen at glogwyni caregog isel a baeau hyfryd Porth Llechog a Phorthwen, heibio i eglwys anghysbell Llanbadrig ac ymlaen i bentref arfordirol Cemaes. (Bws o ganol tref Amlwch i Gemaes, heblaw am ddydd Sul)
Mae’r llwybr yn cychwyn ar hyd y lan ac yna’n troi i mewn tua’r tir a thrwy goetir. Cyn hir, mae’n dilyn darn hardd ac amrywiol o’r arfordir lle ceir baeau creigiog, traethau bach tywodlyd a chlogwyni talsyth, cyn cyrraedd pentref Trearddur. Darganfod mwy am y daith gerdded Pontrhydybont i Fae Trearddur (rhan 11).
Mae’r llwybr yn mynd drwy Warchodfa Natur Genedlaethol a byddwch wrth eich bodd yn cerdded drwy’r twyni a’r goedwig gonwydd ac ar hyd y traeth eang sy’n arwain i draeth hyfryd Llanddwyn. Cyfuniad o dir ffermio a thwyni yw rhan olaf y daith. Darganfod mwy am y daith gerdded Llyn Rhos Ddu i Aberffraw (rhan 9).