Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Sir Benfro

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Pen Caer, Sir Benfro - Visit Wales

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ein uchafbwyntiau

Blwyddyn Antur 2016 Capel Sant Gofan

Dychmygwch gapel bychan, digon mawr i un person, a adeiladwyd yng nghesail clogwyn creigiog sydd wedi gwrthsefyll rhaib amser ers y 14eg ganrif. Mae’r capel bychan calchfaen un siambr hwn sy’n llochesu yn y clogwyni ym Mhentir Gofan yn Ne Sir Benfro yn ddarganfyddiad bach digon hynod.

Mae yna nifer o straeon am Sant Gofan, mynach Gwyddelig oedd yn byw yn y 6ed ganrif a chanddo sawl cyswllt â Dewi Sant (nawddsant Cymru) ac un o Farchogion y Ford Gron oedd yn gwasanaethu’r Brenin Arthur.

Yn ôl y sôn, ymosodwyd ar Sant Gofan gan fôr-ladron o Iwerddon ac fe ffodd am loches i’r clogwyni yn y graig. Dyma’r graig yn agor gan adael hollt oedd ond yn ddigon mawr iddo guddio ynddi hyd nes i’r môr-ladron adael.

Roedd Sant Gofan mor ddiolchgar fel yr arhosodd yno i rybuddio’r trigolion lleol am unrhyw ymosodiadau posib eraill gan fôr-ladron pe baent yn digwydd dod yn eu hôl.

Bu farw yn 568 ac yn ôl y sôn claddwyd ei gorff dan yr allor yn y capel sy’n dwyn ei enw.

Mae’r capel a godwyd sawl canrif yn ddiweddarach wedi ei leoli yn agos iawn at y fan lle’r enciliodd Sant Gofan flynyddoedd ynghynt. Gwisgwch eich cap antur ac ewch am dro i lawr y rhes o risiau sy’n arwain i’r capel a chewch eich gwobrwyo gan olygfeydd syfrdanol o’r arfordir. Ond, yn ôl y chwedl, nid yw nifer y grisiau fyth yr un peth wrth fynd i lawr ag y maen nhw wrth ddod yn ôl i fyny!

Adnoddau

  • Ar faes tanio Castellmartin mae’r daith gerdded hon. Mae’r maes tanio ar gau pan fydd yn cael ei ddefnyddio. I gael gwybodaeth am amserau tanio byw, ffoniwch 01646 662367 (neges wedi ei recordio), os gwelwch yn dda, neu gweler wefan amserau tanio Castellmartin. 
  • I gael mwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y capel a chael disgrifiad o’r daith, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro 
  • I gael gwybod beth arall y gallwch chi ei wneud yn Sir Benfro, ewch i wefan Visit Pembrokeshire

Teithiau cerdded

Abereiddi i’r Merllyn Glas
300 llath

300 llath – taith addas i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n arwain i’r Merllyn Glas – chwarel ddofn sydd wedi’i llenwi â dŵr – lle ceir golygfa drawiadol. Darganfod mwy am y daith gerdded Abereiddi i’r Merllyn Glas.

Ceibwr i Bwll y Wrach
Llai na milltir / 1 km

’Slawer dydd, roedd bae Ceibwr yn borthladd prysur yn gwasanaethu Trewyddel. Mae Pwll y Wrach yn un o nodweddion daearyddol mwyaf nodedig y rhan hon o’r arfordir – ogof wedi dymchwel wrth i’r môr dreulio siâl a thywodfaen meddal ar hyd ffawtlin. Darganfod mwy am y daith gerdded Ceibwr i Bwll y Wrach.

Solfach
Llai na milltir / 1 km

Mae ’na ddarnau serth ar y llwybr hwn. Mae’r creigiau yng ngheg harbwr Solfach yn ei wneud yn un o’r llefydd mwyaf diogel i angori rhwng Aberdaugleddau ac Abergwaun. Mae dwy ran i’r pentref, Solfach Uchaf a Solfach Isaf.  Darganfod mwy am y daith gerdded Solfach.

Trefdraeth
amryw

Dewch i archwilio tref ganoloesol hardd Trefdraeth. Gan ei bod wedi’i lleoli ar aber Afon Nyfer, mae digon o lwybrau gwastad yma sy’n gwbl addas mewn mannau i gadeiriau olwyn. Gallwch gerdded yn hamddenol a mwynhau gwylio’r bywyd gwyllt. (Bws)

Y Parc Ceirw i Farloes
2 milltir / 3.5 milltir

Dyma gyfle i grwydro’r Parc Ceirw a mwynhau’r golygfeydd tua’r Swnd Fain (Jack Sound) ac Ynys Sgomer ac ymlaen ar hyd yr arfordir trawiadol. Eisteddwch a gwyliwch ddyfroedd gwyllt y Swnd Fain yn gwibio heibio, yn y gobaith o weld huganod a llamhidyddion. Dyma le gwych ym mis Medi a mis Hydref i weld morloi bach ar y traethau islaw (ond cofiwch fod y clogwyni yma’n serth a bod angen gofal bob amser). Os ewch ymlaen ychydig yn bellach ar hyd y llwybr yma, byddwch yn cyrraedd traeth eithriadol o brydferth Marloes. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Y Parc Ceirw i Farloes.

Dinbych-y-pysgod
4.6 milltir / 7 km

Tro o gwmpas y dref glan môr brysur hon a’r ardal wledig gerllaw. Gallwch edrych draw at Ynys Bŷr sy’n gartref  i gymuned grefyddol ers y chweched ganrif. Darganfod mwy am y daith gerdded yma  Dinbych-y-pysgod.

Teithiau cerdded hir

Martin’s Haven i Dale
10 milltir / 16 km

Tro eithaf hawdd ar dir gwastad, gydag ambell i riw fer. Mae ’na olygfeydd gwrthgyferbyniol ar y tro hwn – mae’n  dechrau gyda phentir garw a golygfeydd gwych o’r môr ac yn dod i ben ar dir cysgodol, coediog ger dyfrffordd Aberdaugleddau. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Martin’s Haven i Dale.

De Aberllydan i Skrinkle Haven
11 milltir / 17.7 km

Mae’r llwybr trawiadol yma’n dangos yn glir pam mae llwybr yr arfordir yn haeddu statws Parc Cenedlaethol. Yma mae traeth Barafundle, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ac a ddewiswyd yn un o’r deg traeth gorau yn y byd) a’r Pyllau Lilïau yn Bosherston. (Bws). Darganfod mwy am y daith gerdded yma: De Aberllydan i Skrinkle Haven.

Trefdraeth i Abergwaun
12 milltir / 19.3 km

Mae rhai o’r bryniau ar y llwybr hwn yn serth ond mae llawer ohono’n eich tywys ar hyd pen y clogwyni lle ceir golygfeydd gwych tua’r môr. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Trefdraeth i Abergwaun.

Porth Mawr i Solfach
13 milltir / 20.9 km

O dywod euraid y Porth Mawr mae’r llwybr yn mynd heibio Tyddewi - dinas leiaf Prydain - ac yn dod i ben ym mhentref pert Solfach. Mae llamhidyddion i’w gweld yn y dŵr rhwng y tir mawr ac Ynys Dewi felly mae’n werth cael seibiant ar y ffordd. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Porth Mawr i Solfach.

Skrinkle i Amroth
14 milltir / 22.5 km

Mae hwn yn ddarn prysur o’r llwybr gan fod cynifer o draethau ardderchog a chyfleusterau i ymwelwyr yn ardal Dinbych-y-pysgod. Ceir golygfeydd hardd o Ynys Bŷr ac ar ddiwrnod clir gallwch weld cyn belled ag Exmoor.  Darganfod mwy am y daith gerdded yma o Skrinkle i Amroth.