Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Arfordir Gogledd Cymru

Gruff Owen yn disgrifio sut y mae gorffennol diwydiannol cyfoethog Cymru yn rhyngweithio â’r natur amrywiol ar hyd y rhan hon o arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Helo, fy enw i yw Gruff Owen, a fi yw Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir y gogledd ac Ynys Môn. Ces fy magu ger Treffynnon yn Sir y Fflint, a chan fod gen i deulu ar wasgaru hyd yr arfordir, mae’r ardal yn gyfarwydd iawn i mi. Rwyf ond wedi bod yn y swydd ers ychydig fisoedd, ond rwy’n cydweithio’n agos â swyddogion llwybr yr arfordir ynghyd â swyddogion hawliau tramwy’r awdurdodau lleol. Y bwriad yw cadw’r llwybr yn gyflawn fel bo modd i bawb ei fwynhau.

Beth â’ch denodd i’r swydd?

Rwyf wrth fy modd bod y tu allan! Rwyf hefyd yn frwd dros hybu pobl i fwynhau’r awyr iach. Mae’r buddion corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â bod yn yr awyr iach yn sylweddol, ac mae’n hynod bwysig i ni gyd ei wneud er mwyn deall ein lle o fewn natur. 

Pa ran o Lwybr Arfordir Cymru yw eich ffefryn?

Mae hi wedi bod yn hyfryd cael ailddarganfod hen fannau fy mhlentyndod o gwmpas Sir y Fflint - ac mae’n f’atgoffa fod pobl, a’r ffordd y maent yn cysylltu â byd natur, yn rhan hanfodol o’r dirwedd. Efallai na fyddwch i fyth yn gweld yr hen ardaloedd diwydiannol yma ar gerdyn post, ond maent yn rhan mor werthfawr o Lwybr Arfordir Cymru. Mae yna fannau lle gallwch weld rhai o rywogaethau adar prinnaf y DU, a chael yn gefndir iddynt olygfeydd annisgwyl o hen chwareli, gweithiau haearn, a gorsafoedd pŵer.

Ces fy syfrdanu gan drip diweddar i Lys Bedydd, ger Maes-glas. Dim ond ychydig pellach i lawr y lôn o’r fan lle ces fy magu, a chyda golygfeydd godidog o Aber Afon Dyfrdwy- ond doedd gen i ddim syniad ei fod yno!

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?

Byddwn yn dweud fod yr holl dimau llwybr arfordir yn gwneud gwaith gwych. Y nhw sydd yn cynnal trafodaethau gyda thirfeddianwyr a chymunedau er mwyn creu cytundebau llwybrau cerdded, a nhw hefyd sy’n sicrhau gosodiad y llwybr yn sgil hynny. Ni allaf gymryd y clod am hynny o gwbl, ond rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda thîm cystal.

Cysylltu â Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.