Gwylio bywyd gwyllt

Mae arfordir Cymru a’i ynysoedd alltraeth yn adnabyddus am eu cyfoeth o fywyd gwyllt

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn rheoli ac yn gwarchod amrywiaeth eang o warchodfeydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. I gael mwy o wybodaeth am y safleoedd yma a’r pethau rydych yn debygol o’u gweld, edrychwch ar tudalen Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Dyma ardal llawn amrywiaeth... Mae aber afon Dyfrdwy yn Wlyptir o Bwysigrwydd Rhyngwladol ac, yn y gaeaf, ceir yno 120,000 o adar y dŵr a rhydyddion (adar hirgoes). Mae rhan o Draeth Pen-sarn Conwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - a cheir cyfoeth o blanhigion prin ar y glannau graeanog. Ar dwyni tywod Gronant mae’r unig gymuned fagu yng Nghymru o forwenoliaid bychain - mae byddin o staff a gwirfoddolwyr yr RSPB yn gwarchod y safle ddydd a nos. Mae’r holl flodau amrywiol sydd ar y Gogarth yn fwyd i’r cymylau o loÿnnod byw a welir yno yn yr haf. Mae cymunedau mawr o adar y môr yn magu ar y clogwyni trawiadol.

Ynys Môn

Does dim rhaid crwydro oddi ar Lwybr yr Arfordir i weld amrywiaeth bywyd gwyllt Môn. Mae morloi llwyd yn gyffredin a gwelir dolffiniaid a llamhidyddion ger y glannau’n aml. Ceir nifer fawr o adar y môr ar Ynys Lawd ac mae rhydyddion ac adar y dŵr yn gyffredin mewn aberoedd, fel un Malltraeth. Oddi ar y glannau, mae Ynys Seiriol. Does neb yn byw yno ac mae’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig gan fod yno 750 pâr o fulfrain. Gwelir brain coesgoch yn aml yng ngorllewin a gogledd yr ynys. Ceir gweundiroedd arfordirol pwysig ar Ynys Môn, ac mae yno dwyni tywod helaeth ar arfordir y gorllewin sy’n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwningar Niwbwrch. Ceir tri math o forwenoliaid ar Ynys Môn, gan gynnwys y Forwennol Bigddu hardd (a ddefnyddir ar logo Llwybr Arfordir Ynys Môn).

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Yng Ngwynedd, ceir nifer o gynefinoedd bywyd gwyllt arfordirol gwych, o fflatiau llaid Traeth Lafan ger Bangor, i weundir arfordirol Llŷn ac aber afon Dyfi. Daw morloi llwyd i ymweld â thraethau Llŷn yn aml ac fe’u gwelir yn aml yn gorffwys ar y creigiau neu’n nofio mewn baeau unig. Mae dolffiniaid trwynbwl a chyffredin i’w gweld ar y Penrhyn. Mae’n werth ymweld hefyd â Phrosiect Gweilch y Pysgod yr RSPB ar afon Glaslyn ger Porthmadog.

Ceredigion

Mae Bae Ceredigion, sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig, yn lle gwych i wylio dolffiniaid ac yma y ceir un o’r poblogaethau parhaol a mwyaf o ddolffiniaid trwynbwl. Efallai y cewch gip ar yr ymwelwyr rheolaidd hefyd, fel dolffin Risso, dolffin cyffredin, morfil pigfain – a hyd yn oed lleiddiad, morfil asgellog llwyd a morfil cefngrwm o dro i dro!

Os gwelwch chi unrhyw un o’r creaduriaid rhyfeddol yma, cofiwch roi gwybod i’r Sea Watch Foundation ar eu gwefan. Elusen ymchwil amgylcheddol genedlaethol yn ymwneud â’r môr yw’r Sea Watch Foundation, ac mae’n gweithio i warchod morfilod, dolffiniaid a llamidyddion yn nyfroedd Prydain ac Iwerddon

Mae aber afon Dyfi, twyni tywod Ynys-las a Chors Fochno yn y Borth yn rhan o warchodfa ryngwladol Biosffer Dyfi. Yn wir, mae Cors Fochno yn un o’r enghreifftiau mwyaf a gorau ym Mhrydain o gyforgors. Os ydych chi’n hoffi gwylio adar, mae’n werth ymweld â gwarchodfa’r RSPB yn Ynys-hir (lle ffilmiwyd Springwatch y BBC), Corsydd Teifi a chanolfan gwalch y pysgod yn Eglwys-fach.

Sir Benfro

Mae pob math o fywyd gwyllt i’w weld yn Sir Benfro ac oddi ar y glannau. Ar y gweundiroedd arfordirol y mae adar prin fel y frân goesgoch, yr ehedydd a chlochdar y cerrig yn dewis ymgartrefu. Daw ystlumod a llawer o fathau o adar i hela ar hyd y cloddiau troellog, llawn blodau gwylltion. Mae’r dyfroedd wedi’u hamddiffyn a gallech fod yn ddigon ffodus i weld heulgwn, orcas, morfilod asgellog glas, morgwn glas, pysgod haul, gwahanol fathau o slefrod môr, crwbanod môr a dolffiniaid Risso oddi ar lannau Sir Benfro. Cadwch eich llygaid yn agored hefyd am adar sy’n ymweld - yr hugan, gwahanol fathau o’r pâl, yr wylog a’r llurs ymhlith eraill.


Os hoffech brofiad ardderchog o fywyd gwyllt heb adael Llwybr yr Arfordir, ewch draw i’r Parc Ceirw ym Marloes. Cewch eistedd a gwylio dyfroedd gwyllt y Swnd Fain (Jack Sound) ac efallai y gwelwch huganod a llamhidyddion. Ym misoedd Medi a Hydref, mae’n lle gwych i weld morloi bach ar y traethau isod (ond cofiwch fod y clogwyni’n serth a bod angen gofal bob amser). Ar ynys Sgomer dros y swnt, mae miloedd o balod o wahanol fathau’n byw. Os hoffech gael golwg agos ar yr adar, cewch fynd ar gwch at yr ynys (yn yr haf) a hyd yn oed aros dros nos (mae’n well trefnu ymlaen llaw).

Sir Gaerfyrddin

Ceir golygfeydd o ehangder Bae Caerfyrddin o ddarnau helaeth o Lwybr yr Arfordir. Yma y ceir dwy o’r systemau twyni tywod ehangaf yn ne Cymru – Pen-bre a Phentywyn. Daw heidiau o adar y dŵr a rhydyddion, fel piod y môr, pibyddion yr aber a phibyddion y mawn i chwilota am fwyd ar y traethellau yma, ac yn fflatiau llaid aberoedd Tywi, Taf a Gwendraeth. Daw nifer fawr o fôr-hwyaid duon i aeafu ym Mae Caerfyrddin hefyd ac am hynny fe’i dynodwyd yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig forol gyntaf y Deyrnas Unedig.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Ar Benrhyn Gŵyr, mae llwybr yr arfordir yn pasio drwy lu o gynefinoedd sy’n cynnwys cant a mil o fathau o greaduriaid a phlanhigion. Oherwydd ei harddwch clasurol a’i amgylchedd naturiol arbennig, yn 1956, Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y DU i’w dewis yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar lannau’r de, cewch ryfeddu at greigiau calchfaen carbonifferaidd mawreddog Pen Pyrod a Bae Oxwich ac yn y gogledd mae’r morfeydd heli a’r twyni tywod yn werth eu gweld. O’r hydref i’r gwanwyn, mae llu o adar y dŵr a rhydyddion, o bibyddion mawn bach i hwyaid yr eithin mawr, yn byw yng Nghilfach Porth Tywyn, sy’n cael ei gwarchod fel safle Ramsar am ei bod yn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Gallech fynd ar drip i Ynys Echni ym Môr Hafren lle ceir cymunedau o adar môr a chreaduriaid eraill sydd wrth eu bodd â’r glaswelltiroedd morol. Lle arall sy’n denu bywyd gwyllt, yn cynnwys heidiau mawr o adar y dŵr, yw Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston. Mae’n werth ymweld â Chanolfan Heboga Cymru yn y Barri hefyd. Yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, mae tegeirianau gwyllt, a nifer fawr o wahanol bryfetach a bywyd gwyllt arall yn byw, ac maeCwningar Merthyr Mawr yn un o’r cynefinoedd cyfoethocaf ym Mhrydain i greaduriaid di-asgwrn-cefn.

Daw bron i 90,000 o rydyddion ac adar y dŵr i aber afon Hafren am ei fod yn lle ardderchog i aeafu, ac oherwydd yr amrediad llanw sy’n un o’r rhai mwyaf yn y byd. Mae gwarchodfa tir gwlyb Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd gerllaw hefyd, sy’n golygu bod rhywbeth i adarwyr ei weld yn yr ardal drwy’r flwyddyn.