Hwyl i'r teulu

Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru - delfrydol ar gyfer pob aelod o'r teulu!

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Mae gan drefi glan môr arfordir y gogledd lu o weithgareddau i’w cynnig i deuluoedd: sioeau Punch & Judy traddodiadol yn Llandudno; tramffordd a cheir cebl ar y Gogarth; y Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn; Theatr Bypedau Harlequin yn Llandrillo-yn-Rhos; a Chastell Conwy sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

Ynys Môn

Ym Mhlas Newydd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau difyr ar gyfer y teulu cyfan, yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol. Os ydych yn mwynhau darllen mapiau, gallech roi cynnig ar gyfeiriannu ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Dewch am dro i bentref Portmeirion yng Ngwynedd a gafodd ei ddylunio gan Syr Clough Williams-Ellis a’i adeiladu rhwng 1925 a 1975. Yma yn y 1960au y ffilmiwyd y gyfres deledu gwlt “The Prisoner”, gyda Patrick McGoohan.

Ceredigion

Ceir mwy o ddolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion nag yn unman arall yn y DU ac mae teithiau cwch yn cael eu trefnu i fynd i’w gweld. Mae hwyl i’w gael hefyd o ddal crancod yn harbwr Aberaeron.

Sir Benfro

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig rhaglen o weithgareddau i deuluoedd trwy gydol y flwyddyn. Mae llawer yn mwynhau dal crancod neu fynd am dro i weld ystlumod gyda’r nos.

Sir Gaerfyrddin

Mae lle braf i seiclo neu gerdded (neu hyd yn oed ganŵio yn yr haf) yn y ganolfan gwlyptiroedd ger Llanelli (CGGC/WWT - Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru). Cadwch eich llygaid yn agored am rai o’r 600 o rywogaethau o adar a welir yma, gan gynnwys fflamingos. Mae’r ganolfan hefyd yn gynefin gwych i lygod pengrwn y dŵr.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Dewch i ymuno yn yr hwyl yn yr LC, canolfan hamdden a pharc dŵr cyffrous Abertawe. Yna, beth am ddefnyddio offer modern i ddysgu am hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? Mae’n werth ymweld â Plantasia, canolfan drofannol egsotig dan do lle gallwch weld pryfetach, ymlusgiaid, pysgod a mwncïod, a chymryd rhan mewn digwyddiadau difyr.Atyniadau Abertawe.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae cenedlaethau wedi mwynhau ffair Coney Beach, Porthcawl ond nid hwn yw unig atyniad yr ardal. Mae’n hwyl mynd am dro i Warchodfa Natur Cynffig neu hwylio ar stemar olwyn y Waverley o Borthcawl i Ilfracombe hefyd. Atyniadau Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae dros 130 o eitemau rhyngweithiol i ddifyrru’r hen a’r ifanc yng nghanolfan wyddoniaeth Techniquest, Bae Caerdydd! Ar Forglawdd Bae Caerdydd, ceir maes sglefrolio concrit 1100 metr sgwâr. Atyniadau Caerdydd.

Cewch gamu ’nôl i’r Oesoedd Canol yng Nghastell Cas-gwent lle maent yn ail-greu sefyllfaoedd ’slawer dydd. Mae yno bobl yng ngwisgoedd y cyfnod, cyfle i weld adeiladau hanesyddol ac mae pysgotwyr rhwyd gafl yn dangos sut roedd yr hen Gymry’n dal eog yn aber afon Hafren.