Rhedeg

Mae sawl rhan o’r llwybr yn ddelfrydol i redwyr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Pa un a ydych newydd ddechrau rhedeg, yn ymarfer ar gyfer eich marathon nesaf, neu’n syml wedi syrffedu ar eich llwybrau arferol, pam na thorrwch chi at yr arfordir i gadw’n heini a chael adfywiad. Cewch ddarganfod profiad mor iachusol yw rhedeg ar lan y môr.

Ymweld â rhannau o Gymru rydych wedi’u hesgeuluso’n rhy hir

Mae gan bob arfordir rannau anghofiedig a llai adnabyddus sy’n ysu am gael eu hailddarganfod. Bydd cynllunio llwybrau rhedeg newydd yn rhoi cyfle perffaith ichi archwilio mannau arbennig o Gymru sy’n anos eu cyrraedd neu’n cael llai o sylw, fel pwynt mwyaf gogleddol Ynys Môn lle mae’r caeau trwchus eu tyfiant yn ymdreiglo blith draphlith i’r môr; neu’r traeth hiraf yng Nghymru, Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin, sydd ag wyth milltir o dywod ac eangderau.

Cyfuno gwyliau ac ymarfer corff

Os ydych yn dod i Gymru ar eich gwyliau, cofiwch bacio eich dillad rhedeg ac ewch i wneud rhywfaint o ymarfer corff ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Ewch ati i redeg ar garlam ar hyd y lonydd tawel neu gerdded yn hamddenol ar hyd y traeth a’r llwybrau. Ac mae ’na ddigonedd o draethau lle gallwch loetran am y diwrnod – llefydd sydd hefyd yn fannau gwych ar gyfer rhedeg. Pa ffordd well o gadw pawb yn hapus!

Mentro oddi ar y ffordd

Does ryfedd fod rhedeg llwybrau’n dod yn fwyfwy poblogaidd – gall rhedeg oddi ar y ffordd am beth amser leihau’r pwysau ar eich fferau, eich crimogau, eich pengliniau a’ch cluniau, gan roi seibiant iddyn nhw am sbel tra byddwch chi’n parhau i redeg. Mae llwybrau’r arfordir yn berffaith ar gyfer rhedeg llwybrau; mae ganddyn nhw arwyddion da, mae ganddyn nhw olygfeydd godidog, ac mi allwch chi bob amser fynd i ymdrochi ar ôl ichi orffen.

Newydd ddechrau rhedeg

Mae cael llwybrau ysbrydoledig, heb ormod o fryniau, yn hollbwysig i bobl sydd newydd ddechrau rhedeg. Mae gweld golygfeydd o’r môr yn ffordd ddelfrydol o dynnu eich sylw oddi ar yr ymdrech, felly bydd cynnwys rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn eich arferion newydd yn siŵr o gyflawni gwyrthiau. Dechreuwch trwy gerdded bob yn ail â rhedeg, gan gynyddu faint ydych chi’n ei redeg yn raddol. Mae’r rhan fwyaf o redwyr yn rhoi’r ffidil yn y to gan eu bod yn ceisio gwneud gormod yn rhy fuan. Os ydych yn hollol newydd i redeg, beth am edrych ar y gwefan GIG Cymru Couch to 5K cynllun rheded i gael cyngor a syniadau ar sut i gychwyn.

Y cwbl ar unwaith

Arry Beresford-Webb yn 2012 oedd y gyntaf i redeg ar hyd yr 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yn ddi-dor. Ac fel pe na bai hynny’n ddigon, mi aeth ati i gysylltu’r llwybr yma â Llwybr Clawdd Offa (176 milltir) ar ei ffordd adref – a’r cwbl mewn 41 diwrnod (mae hyn yn cyfateb i farathon bob diwrnod). Camp wirioneddol ryfeddol. Gallwch ddarllen ei hynt a’i helynt ar ein tudalen Oriel yr Anfarwolion

Fesul tipyn ar y tro

Trwy redeg ar hyd y llwybr fesul tipyn ar y tro, cewch y gorau o’r ddau fyd – nod heb ei ail i ymgyrraedd ato, ond cyfle hefyd i oedi a chraffu. Ewch ati i hollti’r llwybr yn rhannau sy’n gweddu i’ch ffitrwydd a’ch amserlen. Rhedwch yn ôl a blaen i lefydd er mwyn ichi gael gweld y golygfeydd y naill ffordd a’r llall; ewch ati i greu cylchdeithiau trwy ddefnyddio lonydd cefn mewn modd creadigol; neu defnyddiwch gludiant cyhoeddus i redeg o A i B. Defnyddiwch y mapiau a’r cynlluniwr teithio ar gyfer eich ardal. Dyma rai enghreifftiau gwych:

Gwastad a Chyflym

Prestatyn i’r Rhyl, Gogledd Cymru

Gallwch gychwyn/gorffen yn y naill ben neu’r llall a theithio’n ôl a blaen ar hyd y promenâd hardd. 5km un ffordd.

Porth Neigwl, Llŷn

Dyma draeth 4 milltir o hyd sy’n enwog am ei syrffio. Troediwch i fyny ac i lawr y traeth i guriad cyson y tonnau.

Rhedeg ar hyd Traethau

Trwyn Rhoscolyn, Ynys Môn

Gallwch gychwyn a gorffen ar draeth tywodlyd Rhoscolyn (Borthwen), sy’n addas i’r holl deulu. Cylchdaith gyda’r cloc 5 milltir o hyd sy’n cynnwys golygfeydd o glogwyni môr ysgythrog, gan ddychwelyd heibio’r eglwys a thrwy’r pentref.

Trwyn Tyddewi

Sir Benfro: Taith ddramatig ar hyd penrhyn garw sy’n frith o greiriau hynafol. Cylchdaith oddi ar y ffordd 5 milltir o hyd, gan gychwyn a gorffen ym Mae Traeth Porth Mawr.

Cylchdeithiau Traddodiadol

Ffordd Y Gogarth, Gogledd Cymru

Mae’r daith o gwmpas Y Gogarth ar hyd y dollffordd unffordd yn gylchdaith olygfaol 9km. Pen Morfa (West Shore) yw’r lle gorau i barcio, felly gallwch ddechrau a gorffen yn y fan yma.

Marathon Ynys Gybi, Ynys Môn

Mae ynys oddi ar ynys yn cynnig cylchdaith naturiol o hyd marathon, gydag oddeutu 13km ar y ffordd a 38 oddi ar y ffordd. Gallwch ddechrau a gorffen yng Nghaergybi neu yn Nhrearddur os hoffech gael amwynderau wrth law, neu wrth un o’r tai bwyta, er enghraifft y ‘White Eagle’ yn Rhoscolyn, i lenwi’r bol ar ôl rhedeg.

Diolch am gynnwys yr adran redeg hon i Libby Peter, dringwraig, tywysyddes mynydd a rhedwraig frwdfrydig, sy’n byw yng ngogledd Cymru.

www.libbypeterclimbing.co.uk

Llun: Keith Sharples