Traethau

Ymwelwch â'r traethau mwyaf prydferth a naturiol wrth gerdded y llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Mae golygfeydd eang i’w gweld o draeth Talacre sydd ar lan dyfroedd glân Môr Iwerddon. Mae lle parcio hwylus ar gyfer y traeth poblogaidd hwn sydd yng ngheg aber afon Dyfrdwy. Ar y traeth, mae goleudy’r Parlwr Du a godwyd yn 1776 ond sy’n segur er 1884. Mae’r twyni tywod o gwmpas y traeth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae gan y Rhyl a Phrestatyn chwe milltir o draethau diogel, tywodlyd y Faner Las i’w cynnig a digon o adloniant i gadw’r teulu’n hapus.

Ceir traethau maith, tywodlyd ar hyd arfordir y gogledd ym Mae Cinmel, Bae Colwyn, Llandudno, Morfa Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan. Mae glan môr Llandrillo-yn-Rhos, sydd rhwng Llandudno a Bae Colwyn, yn llawn cymeriad ac mae caffis ac arcêd ddiddanu ger traeth hir, graeanog Pen-sarn.

Ynys Môn

Ar ynys, dydych chi byth yn bell o’r môr ac mae digonedd o ddewis o draethau braf ar Ynys Môn. Beth am fynd am dro i draeth Llanddwyn, sy’n gysylltiedig â Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru?

Penrhyn Llŷn

Yng Ngwynedd, dydych chi byth yn bell o harddwch môr a mynydd a cheir traethau eang, braf a chilfachau cysgodol ar hyd 189 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yno. Mae 4.5 milltir o dywod euraid ar draeth Tywyn sy’n un o’r rhai harddaf yng Nghymru. Ar y llaw arall, cilgant cysgodol o dywod sydd ar draeth Porthdinllaen. Mae pobl yn tyrru i draethau Aberdaron, Aberdyfi ac Abermo hefyd.

Arfordir Eryri a Cheredigion

Yng Ngheredigion ceir arfordir hardd, naturiol gyda thraethau tywodlyd, creigiau talsyth, twyni tywod a phyllau dŵr. Ceir yma greaduriaid a phlanhigion o bob lliw a llun. Ar draeth Llangrannog, mae Carreg Bica – dant cawr oedd yn byw gerllaw ’slawer dydd, yn ôl y chwedl!

Sir Benfro

Dyma ardal sy’n enwog am ei thraethau - dros 50 ohonynt a llawer wedi ennill gwobrau. Ceir yma drefi glan môr prysur a chilfachau tawel, anghysbell ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – rhywbeth i bawb, yn deuluoedd a syrffwyr. MaeBarafundle ar Stad Ystangbwll yn cael llawer o sylw fel un o’r traethau harddaf yn y byd.

Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Yma y ceir y traethau euraid di-dor hiraf ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae traethau prydferth MarrosPentywyn a Chefn Sidan yn ymestyn am bron saith milltir a gallwch fynd atynt yn hwylus. O Barc Gwledig Pen-bre mae mynd i draeth Cefn Sidan.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae gan Abertawe gyfanswm o bum traeth Baner Las a phedwar traeth Arfordir Glas. Yno, ceir cildraethau bach tywodlyd a thraethau eang sy’n ymestyn hyd y gwelwch chi. Yn 2011, dewiswyd Bae Port Einon yn draeth gorau Prydain.

Mae nifer o draethau tywodlyd da ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Dyma rai o draethau mwyaf poblogaidd y darn hwn o’r arfordir: Southerndown, Ogwr, Newton, Bae Trecco, Rest Bay a’i byllau yn y creigiau, Pink Bay a’r Sger, sy’n lle da i badlo a physgota. Mae Bae Whitmore ger Ynys y Barri’n boblogaidd hefyd am ymweliad traddodiadol â glan y môr.

Archwilio mwy