Cyngor ynghylch Diogelwch Llwybr Arfordir Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael ymweliad difyr a didrafferth drwy fod yn ymwybodol o beryglon posibl

Trwy fod yn ofalus a thrwy ddefnyddio synnwyr cyffredin, mae Llwybr Arfordir Cymru yn amgylchedd diogel.

Trwy fod yn ymwybodol o’r peryglon posibl a ganlyn, bydd modd ichi gael ymweliad pleserus a didrafferth.  A wnewch chi hefyd ddilyn unrhyw gyngor pellach a roddir yn lleol.

Clogwyni

Ceir disgyniadau serth a gallant fod yn ansad. Peidiwch â mynd yn agos at ymylon na bargodion, a pheidiwch â’u dringo nac eistedd oddi tanynt

Y môr

Gall fod yn arw ac annarogan. Gwnewch yn siŵr na fydd y llanw’n eich rhwystro rhag dychwelyd a gofalwch na chewch eich llusgo gan y tonnau a’r cerrynt

Y Tywydd

Gall newid yn sydyn. Cofiwch gario dillad cynnes a dillad glaw gyda chi bob amser. Peidiwch â dioddef llosg haul a byddwch yn ofalus mewn gwyntoedd cryfion

Arwynebau

Gallant fod yn anwastad, yn wlyb ac yn fwdlyd. Gwisgwch esgidiau sy’n addas i’r tir

Traffig

Gall fod yn gyflym ac annisgwyl. Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd ffyrdd neu wrth groesi ffyrdd a rheilffyrdd. Cadwch olwg ar blant bob amser.

Cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol

Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol i sicrhau ei fod yn aros i ffwrdd o fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill oni bai ei fod yn cael ei wahodd.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.