Pasbort

Cofnodwch eich taith ar hyd y llwybr gyda'n hamrywiaeth o basbortau

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Gallwch gofnodi eich siwrnai ar lwybr arfordir gyda'n pasbortau pwrpasol er mwyn gallu cofio ymhle ydych chi wedi cerdded a phryd.

Pasbort ar gyfer pob rhanbarth o’r llwybr

Rydym wedi rhannu’r llwybr cyfan yn rhannau hwylus eu cerdded, a phob un yn oddeutu 4 neu 5 milltir o hyd. Lle bo modd, mae pob rhan yn dechrau ac yn gorffen ar hyd y llwybr yn rhywle sydd â chysylltiadau cludiant cyhoeddus a mannau sy’n darparu llety, bwyd a diod. Mae ambell rai o’r rhannau’n hwy na 5 milltir oherwydd eu lleoliad.

Ceir rhestr o’r mannau hyn ar gyfer pob rhanbarth o’r llwybr, yn ogystal â map i ddangos y ffordd. Mae pob pasbort yn cynnwys rhestr o fannau ar hyd y llwybr, i’ch helpu i gadw cofnod o’ch taith. Mae lle gwag ichi roi’r dyddiad pan rydych yn gorffen pob rhan, a gallwch roi tic wrth bob rhan o’r llwybr wrth ichi ei gwblhau.

Meddyliwch mor braf fydd gweld tic wrth ymyl pob rhan!

Sut i ddefnyddio’ch pasbortau

Mae modd ichi eu golygu’n electronig neu’u hargraffu i ysgrifennu arnynt. Os ydych chi’n argraffu un, beth am ei osod ar y wal fel atgof o adegau braf yn cerdded ar hyd y llwybr, neu’n well fyth i’ch helpu wrth gynllunio’ch taith nesaf.

Lawrlwytho’ch pasbortau

Gallwch lawrlwytho pob pasbort a’i gadw ar eich dyfais. Bydd arnoch angen cael Adobe Acrobat Reader DC i ddefnyddio’r ffeiliau hyn. Wedi ichi lawrlwytho Adobe Acrobat Reader DC byddwch yn medru agor ffeiliau PDF, eu darllen, eu hargraffu a’u llenwi.

Lawrlwytho pasbort Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy (PDF, 2.7KB) – o’r ffin â Swydd Caer i Fangor.
Lawrlwytho pasbort Ynys Môn (PDF, 2.3KB) – taith gylchol sy’n dechrau ym Mhorthaethwy.
Lawrlwytho pasbort Arfordir Llŷn ac Eryri (PDF, 2.1KB) – o Fangor i Fachynlleth.
Lawrlwytho pasbort Ceredigion (PDF, 2.6KB) o Fachynlleth i Draeth Poppit.
Lawrlwytho pasbort Llwybr Arfordir Cenedlaethol Sir Benfro (PDF, 1.8KB) – o Draeth Poppit i Amroth.
Lawrlwytho pasbort Sir Gâr (PDF, 2.6KB) – o Amroth i Fynea.
Lawrlwytho pasbort Penrhyn Gŵyr i Fae Abertawe (PDF, 2.3KB) – o Fynea i Forfa Margam.
Lawrlwytho pasbort Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren (PDF, 2.2KB) – o Forfa Margam i Gas-gwent

Cofio eich taith

Er mwyn cofio am eich holl waith caled, eich dyfalbarhad a’r ffaith eich bod wedi gorffen cerdded y llwybr cynllunio a’r ffaith eich bod wedi gorffen cerdded y llwybr, mae gennym dystysgrifau a bathodynnau cwblhau y gallwch eu dangos i'ch ffrindiau a'ch teulu gyda balchder.

Mae gennym dystysgrifau a bathodynnau ar gyfer pob un o ardaloedd y llwybr. Hefyd ceir fersiwn arbennig ar gyfer y rhai sydd wedi cerdded y llwybr cyfan - sef pellter o 870 milltir/1, 400km. Nid yw’n bwysig faint o amser a gymerodd neu pryd y gwnaethoch chi gwblhau’r daith. Mae'r rhain yn eitemau ardderchog er mwyn cofio am eich profiad unigryw.

Prynu’r tystysgrifau a’r bathodynnau

Mae'n bosibl prynu’r holl dystysgrifau a’r bathodynnau hyn ar lein am ffi fechan ar wefan The Trails Shop o Hydref 2020.