Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd
Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar...
Beth am ddod â'r llwybr yn fyw gyda thechnoleg, realiti estynedig, ffilmiau 3D a gemau
Mae ap dwyieithog Llwybr Arfordir Cymru yn dod â’r elfennau unigryw hyn at ei gilydd gan ddefnyddio technoleg arloesol i’ch i'ch ysbrydoli chi a'ch teuluoedd i gael gwybod mwy am y llwybr arfordirol hwn, un o ychydig yn y byd sy’n dilyn morlin cenedl gyfan.
Mae’r ap hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gynllunio i weithio ar ddyfeisiau symudol, fel ffonau clyfar a thabledi. Hefyd mae yna weithgareddau hwyliog sy’n addas ar gyfer plant arno rydym yn sicr y byddant yn eu mwynhau, boed law neu hindda! Cynlluniwyd rhai agweddau o’r ap i weithio’n unswydd gyda byrddau gwybodaeth sydd wedi’u gosod yn arbennig yn y saith lleoliad.
Rydym hefyd wedi creu teithiau cerdded arbennig ar y llwybr gan ddefnyddio'r ap ar gyfer profiad arbennig ychwanegol lle mae'r llwybr yn cwrdd â thechnoleg - Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am ein "teithiau teulu gyda gwahaniaeth" yn ein tudalen Teithiau Cerdded.
Mae gan yr ap lawer o ffeithiau a nodweddion diddorol (ac weithiau annisgwyl) am y saith lleoliad.
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (CYTRh) sy’n derbyn cefnogaeth gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaeth Cymru ar gyfer Datblygiad Gwledig (CACagDG) a Chronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfanau cryfach drwy gydweithio.