Cludiant cyhoeddus yng Nghymru

Defnyddiwch ein rhwydwaith o fysiau a threnau i grwydro Llwybr Arfordir Cymru

Gall cludiant cyhoeddus hwyluso eich taith mewn ffyrdd annisgwyl. Nid yn unig mae’n ffordd ddidrafferth o deithio i Gymru os ydych ar wyliau, ond mae hefyd yn ffordd wych o fynd at y llwybr ei hun – a gallwch adael y car gartref! Gydag 870 o filltiroedd i’w harchwilio, gallwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus i fynd a dod ar hyd yr arfordir fel y mynnwch, gan eich galluogi i gerdded eich hoff rannau’n unig (a rhoi rhywfaint o seibiant i’ch traed).

Mae ’na hyd yn oed deithiau cerdded sy’n cysylltu â chludiant cyhoeddus, felly ni fydd yn rhaid ichi gerdded yn ôl i’r man cychwyn. (Gan mai gwasanaethau cyfyngedig sydd i’w cael mewn ambell ardal, awgrymwn eich bod yn defnyddio cludiant cyhoeddus i fynd i’ch cyrchfan fel y gallwch wedyn ymlacio a mwynhau’r siwrnai yn hytrach na phoeni am gyrraedd erbyn rhyw amser arbennig.)

Traveline Cymru

Mae’n cynnig gwasanaeth defnyddiol o’r enw ‘Cynlluniwr Taith’. Cewch eich tywys o garreg eich drws at y Llwybr mewn ychydig eiliadau’n unig! Nodwch o ble/i ble yr hoffech fynd, ac mi wnân nhw drefnu llwybr addas ar eich cyfer ar gludiant cyhoeddus. Hefyd bydd y gwasanaeth yn rhoi gwybod ichi am unrhyw oedi, a gallwch argraffu amserlenni.  Gweler safle we Travelline Cymru am mwy o gwybodaeth.

Visit Wales

Gwefan sy’n cynnwys teithiau gwych. Cewch wybod sut i gyrraedd Cymru o weddill y DU neu o dramor, ar drên, ar fws, trwy’r awyr neu ar draws y môr. Hefyd ceir canllawiau gwych ar deithio o amgylch Cymru ar ôl ichi gyrraedd, yn cynnwys gwybodaeth am gardiau teithio. Mae’r wybodaeth yn berthnasol i gludiant cyhoeddus a theithio mewn car. Gweler safle we Visit Wales am mwy gwybodaeth.  (Mae’r wefan hefyd yn cynnwys ‘Cynlluniwr Taith’ Traveline Cymru.)

Trenau Arriva Cymru

Gwybodaeth am deithio trwy Gymru ar drên. Cewch fanylion am brisiau tocynnau, amserlenni, y diweddaraf am amodau teithio, cludo eich beic ar drên a theithiau golygfaol. Gweler safle we Trenau Arriva Cymru am mwy o gwybodaeth.

Rydym bob amser yn argymell y dylech gadarnhau eich trefniadau cludiant cyhoeddus ar y diwrnod.

Mynd â’ch ci gyda chi am dro? Os ydych yn bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru, cofiwch gadarnhau ymlaen llaw gyda’r darparwyr cludiant eu bod yn fodlon cario cŵn cyn ichi gychwyn ar eich taith.

 

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cerddwch 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio’r trên.

Mae cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar fws yn rhyfeddol o rwydd yn y mwyafrif o leoedd. Mae digon o fodd dewis, felly, cerdded y naill ffordd, a dal bws y ffordd arall.

Mwynhewch daith ar drên a gweld y llwybr drwy lygaid newydd.