Cambrian ar Droed ac mewn Trên
Mae sawl rhan o Lwybr Glannau Cymru’n agos at y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys y 109 milltir o’r Llwybr sy’n agos at lein y Cambrian rhwng Pwllheli ac Aberystwyth.
Mae cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar fws yn rhyfeddol o rwydd yn y mwyafrif o leoedd. Mae digon o fodd dewis, felly, cerdded y naill ffordd, a dal bws y ffordd arall
Yn gyffredinol, argymhellwn deithio allan ar fws, a cherdded yn ôl, gan fod hynny’n arbed i chi boeni am ddisgwyl am hydoedd ar ben eich taith.
Ar y llaw arall, golyga cerdded allan a dychwelyd ar fws nad oes rhaid i chi gyrraedd unrhyw fan penodol. Gallwch amrywio hyd eich taith yn ôl eich dymuniad ar y diwrnod.
Mae’r mapiau yn yr adran adnoddau isod yn dangos llwybrau bysiau sy’n cydgysylltu cymunedau’r glannau.
Mae’r union amserlenni ar gael ar wefan TravelineCymru.