Promenad Llanfairfechan, Conwy

Dyma daith gerdded hawdd a gwastad sy'n berffaith ar gyfer chwilio am fywyd gwyllt a mwynhau picnic mewn llecyn perffaith sydd â golygfa heb ei hail

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Maes parcio’r promenâd, Llanfairfechan

Pellter

1 milltir neu 2km

Taith estinedig 2 milltir neu 3 km

Ar hyd y ffordd

Aiff y daith gerdded hamddenol, wastad hon â chi ar hyd glan y môr i warchodfa natur Glan y Môr Elias. O’r maes parcio, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru ar hyd y promenâd tuag at Fangor ac Ynys Môn.

Byddwch chi’n pasio’r llyn cychod, sy’n gartref i elyrch sy’n nythu, a chewch fwynhau golygfeydd godidog o’r arfordir, Sir Fôn, y Gogarth a thuag at Fangor a’r Carneddau. Wrth i chi fynd yn eich blaen, mae’r promenâd yn troi’n llwybr glaswellt cyn mynd i mewn i Warchodfa Natur Glan y Môr Elias.

Mae cyfoeth o olygfeydd amrywiol, gyda morfa heli o’ch blaen, traeth i’r dde a’r  Carneddau i’r chwith. Cofiwch eich binocwlars, gan fod y warchodfa’n hafan i adar, felly mae’n ffordd wych i blant weld bywyd gwyllt yn ei gynefin naturiol.

Cadwch lygad am gornchwiglod, gylfinirod, yn ogystal â grwpiau o biod môr sydd â phlu nodweddiadol du a gwyn, a choesau a phigau coch.

Er mwyn gwneud y gorau o’r profiad, dewch i gael picnic teuluol ar un o’r meinciau picnic neu eisteddwch ar y traeth a gwylio’r byd yn mynd heibio. Unwaith i chi werthfawrogi’r awyrgylch, beth am fynd yn ôl i’r man cychwyn a chael paned neu hufen iâ yn y caffi?  Neu, gallwch chi ddilyn y llwybr o gwmpas y warchodfa ble mae rhagor o olygfeydd arfordirol a thaith gerdded gylchol bleserus.

Os hoffech chi gerdded ychydig yn bellach, ewch ymlaen i’r cuddfannau adar yng Ngwarchodfa Natur Morfa Madryn cyn mynd adre.

Uchafbwyntiau'r daith

Gruff Owen, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:

"Mae’r daith gerdded hamddenol wastad hon yn wych i wylio adar ac i weld amrywiaeth o olygfeydd ar hyd y ffordd. Mae’r golygfeydd eang o’r traeth, y morfeydd heli ffrwythlon a mynyddoedd y Carneddau’n cynnig y lle perffaith am bicnic ar un o’r meinciau sydd ar ran hon y llwybr".

Angen Gwybod

Mae lle parcio, caffi a thoiledau ym man cychwyn y daith gerdded. Mae bysus lleol yn stopio ym mynedfa’r maes parcio a gellir cerdded i’r orsaf drenau.

Mae un giât rhwng promenâd Llanfairfechan a gwarchodfa natur Glan y Môr Elias. Nid yw wedi'i gloi ac mae'n hygyrch i sgwteri symudedd o faint canolig. Gellir agor a chau’r giât hon o’r naill gyfeiriad a’r llall a rhaid iddi aros ar gau oherwydd bod da byw yn pori’r warchodfa natur arfordirol.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded promenâd Llanfairfechan (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig