Enwogion

Cafodd artistiaid, awduron a sêr ffilmiau a theledu eu hysbrydoli gan harddwch Cymru ac mae nifer fawr o lefydd ger Llwybr yr Arfordir sy’n gysylltiedig â llenyddiaeth, celfyddyd a ffilmiau. Cewch ddilyn yn ôl eu traed

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

‘And now for something completely different...’ Cafodd Terry Jones, un o griw Monty Python, ei eni ym Mae Colwyn ac ef yw noddwr Theatr Colwyn erbyn hyn. Mae nifer o ffilmiau Bollywood wedi’i ffilmio ar arfordir y gogledd hefyd am ryw reswm.

Ynys Môn

Cewch geisio gweld y byd drwy lygaid artist drwy ymweld â’r arfordir ger Niwbwrch lle cafodd yr artist Charles Tunnicliffe ei ysbrydoli. Mae llawer o’i luniau i’w gweld yn Oriel Môn yn Llangefni.  

O dan y bont i Ynys Lawd y tynnwyd y llun enwog a welir ar glawr albwm Roxy Music, Siren. Ynddo, mae’r fodel Jerry Hall yn gwneud gwahanol ystumiau. Mae’n werth mynd draw i fwynhau’r golygfeydd trawiadol o’r môr o’r clogwyni ithfaen serth uwchlaw’r goleudy.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Daeth Sean Connery a Pierce Brosnan, yn eu tro, i Barc Cenedlaethol Eryri i ffilmio From Russia with Love (1963) a The World is Not Enough (1991).

Ceredigion

Daeth Hollywood i Gymru pan gyrhaeddodd Keira Knightley, Sienna Miller, Matthew Rhys ac eraill i bentref glan môr Ceinewydd, Ceredigion i ffilmio The Edge of Love, y ffilm am fywyd Dylan Thomas. Dywedir i Dylan Thomas gael ei ysbrydoli gan Geinewydd (a Thalacharn) i ysgrifennu Under Milk Wood.

Sir Benfro

Daeth yr actor byd-enwog Russell Crowe i Sir Benfro yn 2009 i ffilmio golygfeydd ar glogwyni St Govan’s Head ar gyfer y frwydr ar ddiwedd ffilm fawr Ridley Scott, Robin Hood. Ffilmiwyd golygfeydd eraill ar draeth Freshwater West gerllaw. Yma y ffilmiwyd golygfeydd Shell Cottage yn ffilmiau Harri Potter hefyd. Gwnaed gwaith ffilmio ar gyfer Snow White and the Huntsman ar draeth Marloes.

Sir Gaerfyrddin

Cafodd traeth saith milltir Pentywyn Sir Gaerfyrddin ei ddefnyddio sawl gwaith dros y blynyddoedd ar gyfer profion cyflymder tir. Cysylltir y lle hyd heddiw â Malcolm Campbell a J.G. Parry-Thomas, a dorrodd record byd ar gyfer cyflymder ar dir bum gwaith rhwng 1924 a 1927.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Glan môr Aberafan a Dociau Port Talbot oedd y cefndir ar gyfer y ddrama awyr agored, The Passion, gyda Michael Sheen ym mis Mai 2011. Daeth miloedd o bobl i’r ardal i’w gwylio. Yn Abertawe y ganed Russell T Davies, awdur y gyfres deledu uchelgeisiol Torchwood ac mae wedi manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at ei hoff fannau lleol. Cafwyd golygfa ddramatig o Fae Rhosili yn y bedwaredd gyfres.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Un o’r bobl fwyaf annhebygol i gael cysylltiad â Chymru yw’r actor Peter O’Toole a ddaeth i dwyni tywod Merthyr Mawr i ffilmio rhai o’r golygfeydd dramatig ar gefn ceffylau ar gyfer y ffilm Lawrence of Arabia yn 1962.

‘Oh, what’s occurin’? Fyddai’r un ymweliad â Bro Morgannwg yn gyflawn heb gael golwg y tu ôl i’r llenni ar Ynys y Barri a ddaeth i sylw eang oherwydd y rhaglen deledu Gavin and Stacey gyda Ruth Jones, Rob Brydon, James Corden, Joanna Page ac ati.

Ffilmiwyd Dr Who a Torchwood yn y brifddinas. Gallech fynd ar daith i weld rhai o’r mannau ffilmio – gan gynnwys y man lle’r agorodd y crac! 

Yn Llandaf, Caerdydd y ganed yr awdur hynod boblogaidd i blant, Roald Dahl. Aeth i’r ysgol yno tan ei fod yn naw oed. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd – a welir ym Mae Caerdydd erbyn hyn.