Treftadaeth a Diwylliant
Fyddwch chi fyth yn bell o ddiwylliant wrth grwydro Llwybr Arfordir Cymru
Arfordir Gogledd Cymru
Treftadaeth
Os mai cestyll sy’n mynd â’ch bryd, ceir clamp o gastell â 22 o dyrau, yn nhref gaerog Conwy. Codwyd y castell gan Edward I, Brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Mae’n Safle Treftadaeth y Byd ac “yn ddi-os, dyma gaer fwyaf mawreddog Edward I yng Nghymru”. Cewch ymweld â’r cyntaf o’i gestyll yng Nghymru yn y Fflint. Neu efallai yr hoffech fynd i un o eglwysi lleiaf Prydain yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Lle i ryw chwech o addolwyr sydd yng Nghapel Trillo Sant, a godwyd yn y 6ed ganrif. Adeiladwyd yr allor dros ffynnon gysegredig, gyn-Gristnogol.
Diwylliant
Yn ddiweddar, adnewyddwyd Theatr Colwyn sy’n 126 oed - y sinema weithredol hynaf yn y DU, y theatr ddinesig hynaf yng Nghymru a’r theatr weithredol hynaf yng Nghymru. Mae ei rhaglen o sioeau a ffilmiau i’w gweld yma.
Ynys Mon
Treftadaeth
Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd drwy dref hanesyddol Biwmares lle ceir llys, carchar a chastell (Safle Treftadaeth y Byd). Dywedir mai castell Biwmares yw’r perffeithiaf ym Mhrydain o safbwynt technegol. Roedd hwn hefyd yn rhan o raglen adeiladu enfawr Edward I yng Ngogledd Cymru ac mae’n hollol gymesur.
Os ewch i Oleudy Ynys Lawd, mae’n werth dilyn y daith arbennig i gael gwybod mwy am hanes diddorol y goleudy sy’n gymaint o ran o dreftadaeth forol Cymru.
Diwylliant
Ewch am dro i Ynys Llanddwyn ym mhen draw’r traeth ger Cwningar Niwbwrch ac fe welwch adfeilion eglwys Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.
Penrhyn Llyn
Treftadaeth
Mae Cymru’n lle da am Safleoedd Treftadaeth y Byd – mae dai ohonynt – cestyll mawreddog Caernarfon a Harlech – ar y rhan hon o’r Llwybr. Neu cewch fwynhau taith ar y trên o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog lle cewch ddysgu mwy am y diwydiant llechi. Mae’r daith yn mynd drwy wlad hardd ac fe ryfeddwch at gampwaith peirianyddol y rhai a greodd y rheilffordd arbennig hon.
Diwylliant
Os hoffech flas ar lenyddiaeth Gymraeg, piciwch i Gae’r Gors, lle magwyd Kate Roberts, ‘Brenhines Ein Llên’, yn Rhosgadfan ger Caernarfon. Ceir yno arddangosfa amlgyfrwng sy’n cyflwyno’n fyw iawn fyd awdur a aned yn 1891 ac a ddaeth yn un o brif awduron Cymru.
Yn yr haf, cewch ymlacio a mwynhau penwythnos o gerddoriaeth yn Wakestock yn Llŷn. Gŵyl donfyrddio yw hon ac mae sgiliau rhai o’r tonfyrddwyr yn ddigon i gymryd eich gwynt.
Arfordir Eryri a Cheredigion
Treftadaeth
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn lle eithriadol o braf yn edrych i lawr dros dref Aberystwyth. Yma, ceir stôr o wybodaeth am Gymru a’r byd – miliynau o lyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau, ffotograffau, ffilmiau a darnau o gerddoriaeth, a gwybodaeth electronig. Ac mae’r cyfan am ddim. Neu beth am ymweld â stad Llanerchaeron a’i phlasty bach hardd o’r 18fed ganrif a’i gardd furiog arbennig. Mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn.
Diwylliant
Ymunwch â’r 750,000 o bobl y flwyddyn sy’n ymweld â Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Mae canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru’n cynnig rhaglen amrywiol o ddrama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, celfyddydau cymwysedig, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol. Neu gallech bicio i Theatr Mwldan, Aberteifi.
Sir Benfro
Treftadaeth
Fe gewch weld olion diddorol a thystiolaeth o wahanol systemau amddiffyn wrth grwydro llwybr yr arfordir. Ceir yma fryngaerau o’r Oes Haearn, a chaerau o oes Napoleon ac Elisabeth I, ynghyd ag olion o’r ddau Ryfel Byd. Yng Nghastell Henllys ail-grewyd pentref o’r Oes Haearn - cewch gipolwg ar fywyd ymhell bell yn ôl a chyfle i ryddhau’r rhyfelwr fu’n cuddio y tu mewn i chi!
Diwylliant
Cynhelir Gŵyl Gelfyddydau fywiog yn nhref glan môr hardd Dinbych-y-pysgod ym mis Medi gyda cherddoriaeth glasurol, llenyddiaeth – ffeithiol a ffuglen, barddoniaeth a jazz.
Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
Treftadaeth
Ar Draeth Pentywyn y ceisiodd y Cymro, John Parry-Thomas dorri record cyflymder ar dir ym mis Mawrth 1927. (Cafodd ei record wreiddiol o 170mya ei churo gan Syr Malcolm Campbell yn ei gar Blue Bird.) Ar gyflymder o tua 170mya, torrodd y gadwyn yrru ar gar John Parry-Thomas a chafodd anafiadau marwol. Mae ei gar, Babs, i’w weld yn yr Amgueddfa Cyflymder ym mhentref Pentywyn.
Diwylliant
Mae canmol mawr i’r ŵyl gelfyddydau a gynhelir yn Nhalacharn bob mis Ebrill. Mae’r cynulleidfaoedd yn gwasgu i glybiau bach, eglwysi a neuaddau i glywed perfformwyr sydd wedi cynnwys Patti Smith, Ray Davies o’r Kinks a Mick Jones o The Clash.
Arfordir de Cymru ac Aber Afon Hafren
Treftadaeth
Yn Abertawe, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sydd mewn hen warws rhestredig wedi’i gysylltu ag adeilad newydd modern, llechi a gwydr, yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, yn awr a dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae Goleudy Whiteford Point ar Benrhyn Gŵyr, a godwyd yn 1865, yn un o ddim ond dau oleudy haearn bwrw sydd â’i draed yn y dŵr yn yr holl fyd a’r unig un ym Mhrydain.
Roedd Pont Gludo Casnewydd, a godwyd yn 1906, yn un o ddim ond 20 o rai tebyg a godwyd yn y byd rhwng 1893 a 1916. Mae’n dal i weithio heddiw.
Mae Tŷ Tredegar, Casnewydd ar barcdir hardd 90 erw. Mae rhan o’r tŷ presennol yn dyddio nôl i ddechrau’r 1500au ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain o blasty yn arddull Siarl II o’r 17eg ganrif. Ceir teithiau tywys o gwmpas y tŷ ac fe gynhelir digwyddiadau arbennig yma’n rheolaidd.
Diwylliant
Yng Nghanolfan Dylan Thomas ar lan y dŵr yn Abertawe, ceir arddangosfa barhaol am y bardd ei hunan. Cynhelir digwyddiadau llenyddol drwy’r flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Dylan Thomas yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd.
Adeiladwyd Pafiliwn y Grand ar lan y môr ym Mhorthcawl yn 1932. Mae ganddo lawr dawnsio pwrpasol a llwyfan ac mae’n lle poblogaidd i gynnal sioeau comedi, dramâu, pantomeims a sioeau cerdd. Agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn 2004 ac mae eisoes wedi ennill ei phlwyf fel un o ganolfannau celfyddydau a diwylliant gorau’r byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw cael enw da yng Nghymru a'r tu hwnt fel cartref i'r celfyddydau perfformio, gan gynnig ysbrydoliaeth, rhagoriaeth ac arweiniad. Mae Canolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd yn lle trawiadol hefyd, ar dir castell canoloesol, yn edrych draw dros y môr.
Hanes ar eich ffôn wrth droedio Llwybr Arfordir Cymru!
Mae Cymru’n enwog am gestyll rif y gwlith, ond nid dyma’r unig enghraifft o dreftadaeth gyfoethog y wlad. Mae yma hefyd eglwysi a chapeli hynafol di-ri, oll yn disgwyl i chi eu darganfod a’u gwerthfawrogi.
Mae olion ein gorffennol wedi eu gwasgaru ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir o hyd. O dreftadaeth ddiwydiannol i eglwysi canoloesol a safleoedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, mae arfordir Cymru yn frith o leoedd godidog ac unigryw.
Bu crefftwyr balch a medrus yn chwarae rhan amlwg ym mywyd Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae rhai crefftau traddodiadol yn dal i ffynnu heddiw dan law pobl sy’n cael eu hysbrydoli gan harddwch a hanes y wlad a’r defnyddiau crai naturiol sydd ar gael iddynt.
Cafodd artistiaid, awduron a sêr ffilmiau a theledu eu hysbrydoli gan harddwch Cymru ac mae nifer fawr o lefydd ger Llwybr yr Arfordir sy’n gysylltiedig â llenyddiaeth, celfyddyd a ffilmiau. Cewch ddilyn yn ôl eu traed.