Port Talbot and Margam
Paddy Dillon
Mae’r gwaith dur enfawr ym Mhort Talbot a Margam yn gwthio Llwybr Arfordir Cymru yn nes at y tir, a hynny yn bennaf ar hyd y ffyrdd. Fodd bynnag, mae llwybr arall ar gael ychydig ymhellach i mewn i'r tir, sy'n rhedeg ar draws y llethrau ac yn edrych dros yr olygfa drefol a diwydiannol. Mae'r llwybr hwn yn cyfuno'r ddau lwybr a ellid dewis ohonynt, gan greu cylchdaith estynedig.
Manylion y llwybr
Pellter: 8.9 milltir neu 14.4 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Parcffordd Port Talbot
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 76745 89643
Disgrifiad what3words y man cychwyn: hylifog.pwyllaf.astudia
Trafnidiaeth i'r man cychwyn
Parcio
Mannau parcio ar ddwy ochr y rheilffordd yng Ngorsaf Parcffordd Port Talbot ac o amgylch y dref.
Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Orsaf Parcffordd Port Talbot o Abertawe, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr, ond mae'r rhain yn gyfyngedig iawn ar ddydd Sul.
Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol Prif Linell De Cymru yn cysylltu Gorsaf Parcffordd Port Talbot â Chaerdydd ac Abertawe.
Map a dolen GPX
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Port Talbot and Margam
Disgrifiad Manwl o’r Llwybr
-
Dechreuwch eich taith yng Ngorsaf Parcffordd Port Talbot, yr un ochr â'r orsaf fysiau. Gwelwch arwyddbost yn pwyntio tuag at ganol y dref, ar draws sgwâr llydan, palmantog. Parhewch yn syth yn eich blaen ar hyd y ffordd, gan ddefnyddio'r palmant ar yr ochr dde yn ddelfrydol. Yna cerddwch yn syth yn eich blaen ar hyd ffordd i gerddwyr, gan fynd heibio i siopau canol y dref. Pan fyddwch yn cyrraedd hen bont fwa o garreg sy’n croesi Afon Afan, peidiwch â’i chroesi. Yn hytrach, trowch i’r dde er mwyn dilyn llwybr palmantog ar hyd glan yr afon heibio i archfarchnad Tesco. Wrth i chi edrych ar draws yr afon, fe welwch fryn crwn Mynydd Dinas.
-
Trowch i'r chwith, gan ymuno â phont ffordd brysur sy'n croesi'r afon, a defnyddiwch y groesfan i gerddwyr yn ei chanol. Trowch i'r dde, yna i'r chwith, gan gadw golwg am arwyddion ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ar bostyn lamp, neu dilynwch yr arwyddbyst glas ar gyfer llwybr beicio Cwmafan. Bydd yr arwyddion hyn yn eich arwain at lwybr tarmac a fydd yn mynd â chi i fyny Afon Afan, y tu ôl i orsaf betrol Tesco. Ewch o dan draffordd yr M4, a gaiff ei chynnal gan bileri concrit. Bydd y llwybr yn troi i'r dde ac yn parhau i fyny'r afon. Dilynwch yr arwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, Cwmafan a Pharc Coedwig Afan. Cerddwch o dan draffordd yr M4 unwaith eto rhwng y pileri concrit, gan droi i’r chwith i groesi pont droed dros yr afon.
-
Trowch i'r dde, gan ddilyn stryd gefn ger glan yr afon o'r enw Stryd Reginald. Cadwch i'r dde pan fyddwch yn cyrraedd cyffordd ger Ysgol Hendrefelin, a chroeswch bont ffordd dros yr afon, gan ddilyn yr arwydd. Ar ôl croesi, trowch i'r chwith ar hyd ffordd o'r enw Ynys-y-gored. Croeswch y ffordd bron yn syth, gan ddringo 109 o risiau cerrig a choncrit i fyny llethr serth. Croeswch ffordd ar ben y grisiau a dilynwch yr arwydd i fyny 46 o risiau concrit unwaith eto er mwyn cyrraedd ffordd uwch fyth o’r enw Yr Uwchdiroedd. Trowch i'r dde er mwyn dilyn y ffordd i lawr yr allt yn raddol. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd diwedd y tai, byddwch yn mynd i lawr allt serth.
-
Cadwch lygad am giât fawr a bach ar y chwith ac ewch drwy'r un fach fel y'i nodir. Cerddwch i fyny llwybr glaswelltog ac ewch drwy giât arall. Mae’r llwybr yn dringo ar draws llethr o goed, rhedyn, llwyni eithin a mieri yn bennaf ac yn edrych allan dros Bort Talbot, Margam a’r gwaith dur. Mae’r llwybr yn dilyn y llethr am ychydig, cyn y gwelwch ddau bostyn marcio a fydd yn eich arwain i'r dde yn sydyn, cyn y byddwch yn mynd i lawr casgliad o risiau pren serth. Ewch drwy giât mochyn a pharhau i lawr mwy o risiau cyn cyrraedd pen ffordd wrth ymyl tai.
-
Dilynwch y ffordd am ychydig, yna trowch i'r chwith wrth gyffordd er mwyn disgyn yn serth ar hyd ffordd o'r enw Broomhill. Wedi i chi gyrraedd cyffordd ar waelod y ffordd, trowch i'r chwith, yna trowch i'r chwith eto yn fuan wrth gylchfan fach, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Dilynwch y ffordd, o'r enw Tan y Groes Place, i’r gyffordd nesaf ag arwyddbost, a throwch i’r chwith i gerdded i fyny Dyffryn Road, gan fynd heibio’r tŷ olaf.
-
Trowch i'r dde yn sydyn, gan ddilyn yr arwydd i fyny llwybr concrit serth ar lethr coediog. Byddwch yn cyrraedd tair giât. Ewch drwy'r giât ganol fel y nodir. Dilynwch y llwybr glaswelltog, hamddenol, gyda choed ar y naill ochr, a fydd yn eich arwain at giât mochyn. Mae'r llwybr wedi'i ffensio ar y ddwy ochr i giât mochyn arall. Dringwch ar draws y llethr o redyn a mieri, yna parhewch i fynd yn syth yn eich blaen, gan godi ar draws llethr glaswelltog heb lwybr a chadw golwg am giât mochyn arall. Wedi i chi fynd drwy'r giât, bydd y llwybr yn haws i'w ddilyn, gyda llwyni eithin trwchus a mieri ar y naill ochr. Islaw gwelwch draffordd yr M4 a Margam, gyda'r gwaith dur a Môr Hafren y tu hwnt. Ar ddiwrnodau clir, ac os bydd y mwg o'r gwaith dur yn caniatáu, efallai y bydd modd gweld Exmoor yn y pellter.
-
Cerddwch drwy giât a pharhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd llwybr llydan, gwastad. Ymhen hir a hwyr, byddwch yn cyrraedd slab o goncrit sy'n croesi nant gudd yng Nghwm y Geifr, yna ewch drwy giât mochyn o dan ddau dyrbin gwynt sy’n sefyll ar ben Mynydd Brombil. Yn ddiweddarach, ar ôl darn llydan a hawdd o'r llwybr, ewch trwy giât. Pan gyrhaeddwch dro yn y trac graean, trowch i'r dde er mwyn cerdded i lawr yr allt. Ewch drwy giât fawr ar fferm ac yna mynd yn syth yn eich blaen i lawr llwybr byr, glaswelltog ac yna mynd drwy giât mochyn. Dilynwch yr arwydd ar hyd ffordd a fydd yn mynd â chi oddi wrth ffermdy Brombil. Trowch i'r chwith wrth gyffordd er mwyn mynd heibio i Brombil Cottage. (Sylwer, pe byddech yn troi i’r dde yma, byddech yn dilyn llwybr byr ar hyd y ffordd i Fargam ac yn ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn Rhodfa Toronto, gan arbed 3 milltir / 5km.)
-
Dilynwch yr arwydd i'r dde. Fe welwch ddwy ddreif breifat ar y chwith a'r dde, gyda llwybr yn dringo rhyngddynt tuag at goetir. Dringwch ychydig o risiau pren, croeswch bont droed fach, yna trowch i'r chwith wrth gyffordd fel y'i nodir, gan ddringo ymhellach i fyny'r afon. Wedi i chi ddringo 130 o risiau pren yn y coetir, bydd y llwybr yn gwastatáu ychydig. Dilynwch y llwybr heibio i dri adeilad concrit, lle bu gorsaf radar Chain Home Low yn gweithredu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yna ewch heibio i beilon trydan, sy'n edrych dros orsaf bŵer, cronfa ddŵr a chylchfan. Dringwch ymhellach os am fwynhau taith gerdded ar hyd crib y bryn, gan gyrraedd uchder o 170m ar Graig Fawr. Mwynhewch olygfeydd eang o Exmoor pell tuag at Benrhyn Gŵyr, ac o amgylch Bae Abertawe tuag at Bort Talbot, Margam a’r gwaith dur gerllaw.
-
Bydd y llwybr yn mynd â chi i lawr yr allt yn raddol drwy goedwig ffawydd, cyn disgyn yn serth i lawr grisiau pren a fydd yn eich arwain at ffordd gul yn y coetir. Trowch i'r dde, gan ddilyn y ffordd i lawr y rhiw. Trowch i'r dde eto i fyny trac sydd wedi'i nodi ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, gan fynd heibio i giât â bar. (Pe byddech yn dilyn y ffordd ymhellach i lawr yr allt, byddech yn cyrraedd Parc Gwledig Margam. Mae hwn yn eiddo sylweddol a diddorol iawn, a gwell fyddai dod yn ôl ar ddiwrnod arall er mwyn cael ei archwilio'n iawn. Gweler www.margamcountrypark.co.uk/?lang=cy-gb)
-
Mae’r llwybr yn esgyn ar draws llethr coediog ac, yma ac acw, bydd yn bosib cael cipolwg o Gastell Margam i’r chwith. Wrth gerdded yn eich blaen, byddwch yn cyrraedd adfeilion eglwys Capel Mair, sy'n dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ewch heibio i'r adfail, gan gadw i'r dde. Roedd yr eglwys yn perthyn i Abaty Margam gerllaw, yn bennaf at ddefnydd y gweithlu lleol yn hytrach na'r mynachod. Ewch i lawr 76 o risiau plastig ac yna parhau i lawr yr allt ar hyd y llethr coediog. Cadwch olwg ofalus ar y llwybr, neu ewch yn eich blaen i lawr yr allt hyd nes y byddwch wedi cyrraedd grisiau pren a fydd yn eich arwain at faes parcio bach.
-
Cerddwch drwy'r maes parcio at ffordd a throwch i'r dde er mwyn ei dilyn. Trowch i'r dde eto wrth gyffordd drionglog, gan ddilyn y ffordd i lawr yr allt fel y'i nodir. Pan ddaw’r ffordd i ben, dilynwch lwybr tarmac wedi’i ffensio, a fydd yn cyrraedd cylchfan enfawr yn fuan iawn a adeiladwyd uwchben traffordd brysur yr M4. (Er mwyn osgoi cerdded gormod ar hyd y ffordd trwy Fargam i Bort Talbot, trowch i'r chwith yma a dilynwch yr arwydd i gyfeiriad y Pîl, ble dewch o hyd i arosfannau bysiau ar gyfer gwasanaethau i Ben-y-bont ar Ogwr, Margam, Port Talbot ac Abertawe.) Cadwch ar ochr dde y gylchfan, fel y nodir ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a'r llwybr beicio. Croeswch ffordd ddeuol, gan ddilyn yr arwydd er mwyn cyrraedd arwyddbost tair ffordd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r llwybr amgen mewndirol sydd wedi'i farcio'n goch yn dod i ben yma, ac mae'r prif lwybr, sydd wedi'i farcio'n las, yn rhedeg i'r chwith ac i'r dde. Trowch i'r dde er mwyn dychwelyd i Bort Talbot, ond peidiwch â disgwyl gweld yr arfordir ar eich ffordd gan fod y llwybr cyfan yn drefol a diwydiannol.
-
Cerddwch yn hamddenol i lawr yr allt ar hyd llwybr troed a beicio sy'n rhedeg gyferbyn â ffordd brysur. Cadwch ar ochr chwith y gylchfan fawr, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad Margam. Ar ôl mynd heibio cilfan, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i'r chwith oddi wrth y brif ffordd ac yn dilyn ffyrdd maestrefol. Trowch i'r chwith ar hyd Abbots Close a chadwch olwg am arwyddbyst pan fyddwch yn cyrraedd cyffyrdd. Mae ffordd breifat yn torri drwy’r maestrefi a bydd yr arwyddbyst ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru yn eich arwain yn syth ar ei thraws. Trowch i'r chwith i ddilyn Heol Brynhyfryd trwy stad o dai. Dilynwch yr arwydd, gan droi i'r dde ar ddiwedd y ffordd, yna trowch i'r chwith bron yn syth ar hyd Stryd Saltoun. Bydd enw'r ffordd yn newid i Knights Road a Rhodfa Toronto, ond parhewch i gerdded yn syth yn eich blaen.
-
Ar ddiwedd y ffordd, trowch i'r chwith ac yna i'r dde ar hyd llwybr tarmac ac yna ewch heibio cae chwaraeon. Parhewch i fynd yn syth yn eich blaen, gan ddilyn yr arwyddbyst. Fe welwch fan gwyrdd eang ar eich chwith ac yna tai ar bob ochr i Stryd y Tywysog. Pan fydd y ffordd yn troi i'r dde, dilynwch yr arwydd i'r chwith a cherddwch rhwng y garejys, gan ymuno â llwybr tarmac byr. Parhewch ar hyd Stryd yr Iarll yna dilynwch yr arwydd, gan droi i'r chwith ar hyd stryd gefn. Dilynwch yr arwydd i'r chwith drwy faes parcio bach, gan ddilyn llwybr tarmac byr arall. Dilynwch yr arwydd i'r chwith o dan bont reilffordd er mwyn cyrraedd Ffordd yr Harbwr.
-
Cadwch ar y dde er mwyn ymuno â llwybr beicio sy'n rhedeg yn gyfochrog â Ffordd yr Harbwr. Agorwyd y ffordd yn 2013, yn fuan ar ôl i Lwybr Arfordir Cymru gael ei agor, felly dargyfeiriwyd y llwybr i’r llwybr beicio. Mae'r gwaith dur enfawr ar draws y ffordd ac yn atal mynediad i'r arfordir i bob pwrpas. Sefydlwyd y gwaith dur ym 1901 ac mae'r safle wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd. Mae'n eiddo i Tata ar hyn o bryd. Cadwch i'r ochr dde ar y gylchfan, yna wrth y gylchfan nesaf, trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd am Bort Talbot. Bydd y ffordd yn eich arwain at Orsaf Parcffordd Port Talbot, ond bydd angen croesi'r bont droed dan do dros yr orsaf i gyrraedd yr orsaf fysiau a chanol y dref yr ochr arall.