Port Talbot and Baglan
Glan-y-môr Aberafan
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhannu'n ddau o amgylch Port Talbot. Mae'r llwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â Bae Abertawe wedi'i ddargyfeirio i mewn i'r tir yn rhannol, tra bo'r opsiwn arall yn golygu croesi'r bryniau uwchben y dref, gan fwynhau golygfeydd pell o'r arfordir. Mae cyfuno’r ddau lwybr yn creu taith gylchol ddiddorol.
Manylion y llwybr
Pellter: 10.9 milltir neu 17.6 cilmedr
Man cychwyn: Gorsaf Parcffordd Port Talbot
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 76745 89643
Pa 3 Gair: hylifog.pwyllaf.astudia
Cludiant i'r man cychwyn
Parcio
Mannau parcio ar ddwy ochr y rheilffordd yng Ngorsaf Parcffordd Port Talbot ac o amgylch y dref.
Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Orsaf Parcffordd Port Talbot o Abertawe, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr, ond mae'r rhain yn gyfyngedig iawn ar ddydd Sul.
Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol Prif Linell De Cymru yn cysylltu Gorsaf Parcffordd Port Talbot â Chaerdydd ac Abertawe.
Map a dolen GPX
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Port Talbt a Baglan
Disgrifiad Manwl o’r Llwybr
-
Mae gorsaf fysiau gyferbyn â Gorsaf Parcffordd Port Talbot ac mae meysydd parcio ar ddwy ochr y rheilffordd. Croeswch bont droed dan do dros yr orsaf reilffordd i gyfeiriad yr orsaf fysiau, gan anelu at ffordd o'r enw Cramic Way. Trowch i'r chwith, gan ddilyn y ffordd heibio i adeilad brics coch Harbour Court. Mae'r adeilad hwn yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac yma oedd lleoliad swyddfa gyffredinol Cwmni Dur Port Talbot. Ar un adeg, roedd wedi'i amgylchynu gan y gweithfeydd dur, ond mae bellach yn sefyll ar ei ben ei hun. Cafodd ei drawsnewid yn llys ynadon ym 1988.
-
Byddwch yn cyrraedd cylchfan ar ffordd ddeuol Ffordd yr Harbwr ymhen tipyn. Agorwyd y ffordd hon yn 2013, yn fuan ar ôl i Lwybr Arfordir Cymru gael ei agor. Gan i lwybr cerdded a beicio sylweddol gael ei adeiladu gyferbyn â'r ffordd, dargyfeiriwyd Llwybr Arfordir Cymru a'r llwybr beicio ar ei hyd ar unwaith er mwyn gwneud defnydd ohono. Dilynwch y llwybr beicio i gyfeiriad Castell-nedd. Wrth y gylchfan nesaf, croeswch y ffordd fel y nodir a dilynwch Ffordd yr Harbwr i gyfeiriad Abertawe a Glan Môr Aberafan. Ewch o dan bont droed las er mwyn cyrraedd cylchfan arall. Arferai Llwybr Arfordir Cymru ddilyn Heol Glanyrafon, ond roedd gwneud hynny yn golygu croesi hen bont reilffordd nad yw bellach ar gael i'w defnyddio. Yn hytrach, arhoswch ar y brif ffordd ar gyfer Abertawe a chroeswch Afon Afan.
-
Defnyddiwch groesfan i gerddwyr i groesi'r ffordd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau at bont droed las a chroeswch yn ôl dros yr un ffordd, gan ddilyn yr arwydd. Cerddwch yn syth yn eich blaen ar hyd Heol Victoria at oleuadau traffig a throwch i'r chwith ar hyd Newbridge Road, gan ddilyn yr arwyddbost ar gyfer Aberafan. Bydd y ffordd yn mynd heibio i dai ac yna'n troi i'r dde yn sydyn. Yn y fan hon, dilynwch lwybr tarmac ar hyd glan Afon Afan. Ewch heibio ychydig o dai er mwyn cyrraedd ardal fechan o dwyni tywod a throwch i'r dde, gan ddilyn promenâd wedi'i ffensio heibio mwy o dai. Ceir golygfeydd ar draws Bae Abertawe i gyfeiriad Abertawe a Phen y Mwmbwls.
-
Bydd llwybr y promenâd yn mynd i mewn i'r tir am gyfnod byr er mwyn mynd heibio maes parcio arfordirol bychan ar ddiwedd Heol Victoria, ger Bar Gallois. Mae croeso i chi gerdded ar Draeth Aberafan pan fydd y llanw allan, ond mae Llwybr Arfordir Cymru yn aros ar dir sych. Bydd llwybr promenâd lletach yn eich arwain yn eich blaen, gan fynd heibio i ardd arfordirol eang ble dewch o hyd i forfil concrit a cherfluniau o bengwiniaid. Ar ôl mynd heibio i erddi isel, fe welwch gerflun diddorol o gwlwm wedi'i wneud o ddur o'r enw Kitetail. Mae toiledau hefyd i'w cael o dan fryncyn glaswelltog. Byddwch yn mynd heibio sawl gwasanaeth brys, gan gynnwys Gorsaf Bad Achub yr RNLI, Tîm Achub Gwylwyr y Glannau a Chlwb Achub Bywyd Syrffio Aberafan. Ymlaen â chi heibio i Remo's, Pirate Cove a Franco's, ble gallech gymryd seibiant am damaid i'w fwyta.
-
Bydd ffordd yn rhedeg yn gyfochrog â'r promenâd am ychydig, a hynny cyn belled â chiosg Memo Beach. Yn dilyn hynny, bydd y promenâd yn parhau heibio i Ysbyty Rushcliffe, cyn dod i ben yn sydyn. Dilynwch lwybr i mewn i'r tir tuag at faes parcio Scarlet Avenue, gan gadw at yr un ochr a'r môr. Fe welwch lwybr graean yn rhedeg ar draws ardal laswelltog. Anelwch ymhellach i mewn i'r tir trwy ddwy giât mochyn er mwyn cyrraedd congl ar ffordd wrth ymyl Clwb Llynges Aberafan, sydd wedi'i beintio'n las.
-
Cerddwch yn syth yn eich blaen i gyfeiriad y tir ar hyd Purcell Avenue. Gallwch gerdded naill ai ar y palmant heibio'r tai, neu gerdded ar hyd llain fawr, laswelltog gyferbyn â'r ffordd nes y bydd y rhodfa yn gwyro i'r dde. Yn y fan hon, dilynwch yr arwyddbost ar hyd llwybr tarmac byr er mwyn cyrraedd cyffordd. Croeswch y ffordd, o'r enw Ffordd Solar, yna trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddbost ar hyd y palmant. Trowch i'r chwith wrth y gylchfan wrth ymyl parc chwarae er mwyn parhau ar hyd Seaway Parade. Ewch heibio'r meysydd chwaraeon sy’n perthyn i Ysgol Bae Baglan cyn cyrraedd cylchfan arall. Ewch yn syth ar draws y gylchfan, gan aros ar yr ochr chwith, cyn cerdded o dan bont droed las yn fuan iawn. Trowch i'r chwith wrth gylchfan, gan ddilyn yr arwyddbost i gyfeiriad Parc Ynni Baglan. Arferai'r safle hwn fod yn lleoliad i weithfeydd petrocemegol, ond fe'i hailddatblygwyd yn safle lle'r oedd busnesau amrywiol wedi'u cysylltu â gorsaf bŵer nwy breifat. Yn anffodus, daeth gweithrediadau'r orsaf bŵer i ben a chaiff y busnesau bellach eu pweru gan y Grid Cenedlaethol.
-
Bydd y llwybr beicio gyferbyn â'r ffordd yn mynd heibio i gylchfan arall wrth ymyl caffi Aunty Ann’s yn fuan iawn, ac yna'n cyrraedd cylchfan arall bron yn syth. Parhewch yn syth yn eich blaen ar hyd Rhodfa Ganol. Fe welwch ardaloedd glaswelltog, trwchus a choediog yn aml rhwng y llwybr beicio a’r ffordd, a byddant yn aml yn cuddio adeiladau cyfagos o’r golwg. Mae arwyddbyst y llwybr beicio wedi'u labelu â disgiau marcio Llwybr Arfordir Cymru gydol y daith. Bydd y ffordd a'r llwybr beicio yn rhedeg yn agos at ei gilydd wrth groesi pont dros gangen rheilffordd, lle gellir gweld yr hen orsaf bŵer. Bydd y ffordd yn eich arwain at gylchfan, ble dylech ddilyn yr arwydd ar gyfer The Quays, gan groesi Nant Baglan, cyn mynd heibio i Fferyllfa a Chanolfan Iechyd Llansawel.
-
Byddwch yn cyrraedd tŵr uchel sydd â thyrbin gwynt bychan ar ei ben. Trowch i'r chwith yma ar hyd llwybr tarmac sy'n arwain at dŵr carreg gerllaw. Tŵr Brunel yw hwn, ac fel y gwelwch ar yr hysbysfyrddau, arferai'r tŵr fod yn gartref i gronadur hydrolig a oedd yn gysylltiedig â hen ddoc arnofiol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn parhau yn gyfochrog â Ffordd Brunel, gan godi’n raddol wrth basio o dan draffordd brysur yr M4, a gaiff ei chynnal gan bileri concrit. Byddwch yn cyrraedd cylchfan brysur, ac yma bydd Llwybr Arfordir Cymru yn hollti’n ddau. Fe welwch farcwyr glas ar yr arwyddbost sy'n nodi'r prif lwybr, sef y llwybr yr ydych wedi'i ddilyn hyd yma, a marcwyr coch ar gyfer y dewis amgen mewndirol i gyfeiriad yr ucheldir, a fydd yn eich arwain yn ôl i Bort Talbot.
-
Rhaid croesi'r gylchfan brysur, felly croeswch Ffordd Brunel yn gyntaf, yna defnyddiwch bont droed sy'n croesi'r gylchfan gyfan a dewch i lawr yr ochr arall i gyfeiriad bwyty McDonald's. Cerddwch i fyny Heol Hen, gan ddilyn y palmant hyd nes iddo ddod i ben, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd ar hyd ffordd o'r enw Penrhiwgoch. Fe welwch fod y ffordd hon yn troi i'r chwith yn sydyn, ond parhewch i fynd yn syth ymlaen ar hyd y llwybr fel y nodir. Bydd y llwybr hwn yn codi ar draws llethr coediog rhwng tai cyn ymuno â thrac yng Nghoedwig Llansawel. Trowch i'r dde er mwyn dilyn y trac yn raddol i lawr yr allt ar draws y llethr coediog, gan fynd trwy borth ar y gwaelod i ymuno â ffordd.
-
Trowch i'r chwith, ond dim ond i ddilyn y ffordd heibio Baglan House Lodge. Yna trowch i'r chwith eto i fyny ffordd serth iawn a nodir fel ‘105-110 Heol Thorney’. Mae'r golygfeydd yn ymestyn ar draws tref Port Talbot i gyfeiriad Môr Hafren, ac ar ddiwrnod clir efallai y bydd Exmoor i’w weld yn y pellter. Pan gyrhaeddwch Baglan Villa (rhif 110), trowch i'r chwith ac yna trowch i'r dde yn syth, gan ddilyn yr arwydd er mwyn mynd heibio'r tŷ. Bydd llwybr coedwig yn codi ac yn mynd heibio i erddi cefn nifer o dai maestrefol. Byddwch yn cyrraedd y man uchaf o 140m wrth gyffordd, lle gwelwch bostyn marcio yn eich arwain i'r dde. Ewch i lawr ychydig o risiau concrit a phasio rhwng tai er mwyn cyrraedd ffordd.
-
Trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddbost i lawr Baglan Heights, yna trowch i'r dde i lawr ffordd o'r enw Darren Wen. Bydd y ffordd yn gwyro i'r chwith wrth iddi fynd i lawr, yna trowch i'r chwith i barhau i lawr yr allt ar hyd Ascot Drive. Trowch i'r chwith eto wrth gyffordd a cherddwch i fyny ffordd arall, Maes Tŷ Canol, gan fynd heibio i fynedfa Ysgol Gynradd Blaenbaglan. Trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd i lawr ffordd o'r enw Tyn y Twr. Bydd y ffordd yn gwyro i’r dde ym mhen tipyn, yna pan gyrhaeddwch gyffordd, trowch i’r chwith i fyny ffordd gul Heol y Bwlch, gan groesi pont dros raeadr mewn dyffryn coediog.
-
Pan fyddwch yn cyrraedd Fferm Blaenbaglan, gadewch y ffordd, gan fynd drwy giât fechan sydd wedi'i lleoli wrth giât fawr. Dilynwch drac amlwg i lawr yr allt, gan droi i'r dde wrth gyffordd er mwyn cerdded tuag at fryn coediog. Bydd y trac yn esgyn ac yn mynd trwy giât ar Fynydd Dinas, ym Mharc Coedwig Afan. Parhewch i gerdded yn syth yn eich blaen ar hyd y trac mwyaf amlwg, gan osgoi'r traciau eraill. Byddwch yn cyrraedd golygfa wych sy'n edrych allan dros ymlediad trefol a diwydiannol Port Talbot, ar draws Bae Abertawe tuag at Abertawe a Phen y Mwmbwls.
-
Trowch i'r chwith yn sydyn fel y nodir a cherddwch i fyny'r allt am ychydig cyn cyrraedd cyffordd arall. Trowch i'r dde fel y nodir a pharhewch i ddringo i fyny'r llwybr glaswelltog hwn, gan fwynhau'r golygfeydd eang. Pan gyrhaeddwch giât, trowch i'r dde ar hyd llwybr glaswelltog, a byddwch wedi cyrraedd uchder o 230m ar Fynydd Dinas. Mae'r golygfeydd bellach yn cynnwys gweithfeydd dur enfawr Port Talbot. Bydd y llwybr glaswelltog yn rhedeg i lawr yr allt yn raddol ac yna'n disgyn yn serth. Bydd bron yn agos i 200 o risiau pren yn eich arwain i lawr yr allt ac yn croesi dau lwybr arall ar lethr o lwyni a choed. Byddwch yn cyrraedd tŷ o'r enw Bay View yn Mountain Side. Cerddwch i lawr Mountain Road, sy’n serth ac yn gul, a phan gyrhaeddwch y gwaelod, ewch i lawr y grisiau a dilynwch lwybr o dan draffordd brysur yr M4.
-
Trowch i'r chwith i ddilyn ffordd i ffwrdd o’r gylchfan, gan gerdded gyferbyn â ffordd brysur. Ewch heibio i loches bws a byddwch yn cyrraedd croesfan i gerddwyr ar bont sy'n croesi Afon Afan. Croeswch y ffordd yma, yna dilynwch lwybr palmantog ar hyd glan yr afon heibio i archfarchnad Tesco er mwyn cyrraedd hen bont fwa o garreg. Trowch i'r chwith, gan adael y bont, a dilynwch ffordd i gerddwyr heibio i'r siopau yng nghanol y dref. Pan ddaw’r ffordd i gerddwyr i ben, ewch yn syth yn eich blaen, gan ddilyn y palmant ar ochr chwith y ffordd os oes modd. Byddwch yn cyrraedd sgwâr llydan, palmantog ac fe welwch Orsaf Parcffordd Port Talbot yr ochr arall iddo.