Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Eich ysbrydoliaeth

Dychwelais adref yn ddiweddar ar ôl treulio dwy flynedd a hanner yn Fiji. Roeddwn wedi bod yn gweithio ar raglenni addysg ac adeiladu gyda chymunedau brodorol, ac roeddwn eisiau codi digon o arian ar gyfer adeiladu canolfan alwedigaethol ar gyfer pobl ifanc.

Roedd hi braidd yn od ceisio esbonio hyn i bobl wrth imi gerdded o amgylch y llwybr, ond llwyddodd y syniad i danio’u dychymyg.

Cefais lawer o gefnogaeth gan gymunedau yn Fiji, ac rydw i’n meddwl bod y syniad o roi cyfle i bobl ifanc ddifreintiedig wedi canu cloch gyda thrigolion Cymru.

Hefyd, roeddwn i eisiau ychwanegu Clawdd Offa, fel y gallwn gerdded o amgylch Cymru i gyd. Rydw i’n byw ym mhentref Y Rhws (sydd ym mhen deheuol eithaf Cymru), felly bu modd imi gerdded o’m drws ffrynt fy hun yr holl ffordd o amgylch y wlad, ac yn ôl.

Roeddwn i hefyd wedi bod allan o’r wlad ers sbel ac wedi bod yn dilyn cynnydd y llwybr a straeon y rheini a oedd wedi cerdded ar ei hyd i gyd. Pan ddaeth hi’n fater o ddewis pa sialens i’w gwneud, roedd cerdded y llwybr yn gweddu i’r dim. Byddai’n rhoi cyfle imi ailgysylltu a deall yn well o ble rydw i’n dod, a byddai’n sialens ddigon mawr i gyfiawnhau ein targed codi arian.

Dyddiad cychwyn: 01.07.15 (o’r Rhws, tua’r gorllewin)

Dyddiad gorffen: 25/08/15 (dychwelyd i’r Rhws!)

Uchafbwyntiau

Cyrhaeddais Drwyn Dinas yn Sir Benfro wrth i’r cymylau glaw rwygo. Roedd pawb yn rhedeg i lawr o’r pentir wrth i mi gerdded i’w frig. Dyma’r llecyn arfordirol rydw i wedi ymweld ag ef amlaf yn ystod fy mywyd, mae’n debyg, ac erbyn i mi gyrraedd y brig roedd pawb arall wedi mynd. Roedd hi’n pistyllio bwrw ac roeddwn i’n gwrando ar “Won’t Get Fooled Again” gan The Who.

Dydw i ddim yn meddwl fod geiriau’r gân yn gweddu i’r sefyllfa, ond roedd neidio i fyny ac i lawr yn y glaw (mewn gwirionedd, colli ’mhen yn lân am rai munudau) yn un o blith nifer o bethau rhyfedd ac anarferol imi eu profi yn ystod fy nhaith.

 Ar y diwedd daeth fy ffrindiau a’m teulu i’m cyfarfod, yn ogystal â band efydd a chwaraewr bongo. Yn wir, y pethau rhyfedd ac anarferol yn ddieithriad oedd y rhannau gorau o’r daith. Wnes i ddim tynnu llawer o luniau na llunio rhestr i mi fy hun o bethau roeddwn i eisiau eu gweld na’u gwneud. Dilynais y llif a mwynhau’r amgylchedd a mympwyon y bobl y deuthum eu traws.

Iselbwyntiau

Rhyw 100 milltir cyn imi gyrraedd diwedd y daith datblygais ‘tendonitis’ yn fy nhroed dde. Gwyddwn mai gorffwys yn unig a fyddai’n ei wella, a gwnaeth imi gerdded braidd yn gloff. Ar wahân i hynny, dysgais sut i wirioni ar law.

Ennyd o oleuni

Dysgais lawer am ddyfalbarhad a pha mor bwysig yw’r meddwl mewn materion o’r fath. Hefyd, cefais ymdeimlad rhyfeddol o amser a lle, sy’n golygu fy mod erbyn hyn yn dychryn braidd bob tro rydw i’n gweld map tywydd BBC Cymru. Wnewch chi byth flino ar ddweud wrth ddieithriaid pa mor bell rydych wedi cerdded na faint o’r wlad rydych wedi ei weld.

I gloi, os ceisiwch gerdded y llwybr ar eich pen eich hun yn weddol gyflym, fe sylwch y byddwch weithiau’n dibynnu ar garedigrwydd dieithriaid llwyr i’ch helpu. Wnân nhw byth mo’ch siomi.

www.justgiving.com/owen-doel

twitter: @trekforfiji