Beicio
Mae rhai rhan o'r llwybr wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer beicwyr
Mae sawl rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn rhannau o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
cyfle gwych i archwilio’r llwybr mewn ffordd sy’n llesol i’ch iechyd chi eich hun a’r amgylchedd. Llwybrau gwastad, heb draffig, gydag arwyneb caled yw’r rhain yn bennaf, ac maen nhw’n berffaith i unigolion, grwpiau a theuluoedd fel ei gilydd.
Cewch gyfleoedd lu i fentro i lawr oddi ar eich beic, ymweld ag atyniadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau glan môr. A chan fod y llwybrau’n eich tywys trwy drefi gwyliau glan môr (mae lluniaeth wrth law bob amser) ar hyd yr arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys:
- Prestatyn,
- Y Rhyl,
- Bae Colwyn,
- Llandudno,
- Caernarfon,
- Llanelli
- Abertawe.
Y tu hwnt i’r rhannau yma, mae’r rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Cymru ar Lwybrau Troed Cyhoeddus a llwybrau eraill lle caiff beicio ei ystyried fel tresmasu, oni bai bod y tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd arbennig.
Ond mae yna ddigon o lwybrau mewn ardaloedd arfordirol y gall beicwyr eu mwynhau, yn ogystal â llwybrau arbennig gerllaw ar gyfer beiciau mynydd. Darganfyddwch fwy am lwybrau beicio eraill yn agos i'r Llwybr Arfordir Cymru.
Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr ar hyd Arfordir y Gogledd ac yn ardal aber Afon Dyfrdwy.
Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr yn ardaloedd Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr.
Gan nad yw’r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir yn addas i feicwyr, dyma rai llwybrau beicio sy’n rhoi cyfle i feicwyr archwilio’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw.