Llwybrau beicio cyfagos
Gan nad yw’r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir yn addas i feicwyr, dyma rai llwybrau beicio sy’n rhoi cyfle i feicwyr archwilio’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw.
Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr yn ardaloedd Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
Mae’r rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru yn rhedeg o dref gastell Cydweli trwy Goedwig a Pharc Gwledig Pen-bre ac i Barc Arfordirol y Mileniwm, lle ceir golygfeydd gwych o aber Afon Llwchwr a Gŵyr. Mae’r Ganolfan Ddarganfod a Chanolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru o fewn tafliad carreg.
Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 4 – Y Lôn Geltaidd
Tir: Gwastad ar gymysgedd o lwybrau tarmac a llwybrau graean.
Taflenni a Mapiau i’w Llwytho i Lawr: Sustrans: Parc Arfordirol y Mileniwm
Yma mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Lôn Geltaidd yn cyfarfod wrth iddyn nhw ddilyn y promenâd o amgylch ardal ysblennydd Bae Abertawe. Mae’r tir yn wastad ac mae digon o luniaeth ar gael, gan wneud y rhan yma o’r Llwybr yn brysur iawn.
Distance: 6 miles / 9.5 kilometres
Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beidio Cenedlaethol: 4 Y Lôn Geltaidd
Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd.
Gwybodaeth Bellach: Sustrans