Gwyriadau Cyfredol

Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu. 

Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser.

Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr

Gwynedd

5 Gorffennaf 2022. Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau

Ynys Môn

16 Mis Mehefin 2021. Gwyriad Moelfre - Cerddwyr wedi'u cyfeirio trwy Ystâd Nant Bychan ac ar hyd ffordd yr A5108 i mewn i Moelfre. 

Sir Gaerfyrddin

3ed Ebrill 2024. Gwyriad Pen-bre - Mae llifogydd wedi effeithio ar ddwy ran o’r llwybr ger maes awyr Pen-bre. Mae'r gwyriad yn dilyn llwybr beicio rhif 4 Sustrans ym Mhorth Tywyn a Phen-bre. Dangosir y gwyriad cyfan ar 3 map ar wahân (ar ffurf PDF ac sydd rhwng 5.5 KB a 5.4 KB).
Map 1 yn dangos y gwyriad ger maes awyr Pen-bre
Map 2 yn dangos gwyriad drwy Borth Tywyn a Phen-bre
Map 3 yn dangos y rhannau o'r llwybr sydd dan ddŵr (mewn blychau glas solid)

Castell-nedd Port Talbot

12 Mai 2023 The Quays - Mae'r llwybr ar gau er diogelwch, oherwydd bod llyncdyllau dwfn yn parhau i ffurfio ar hyd y llwybr tarmac wrth ymyl Afon Nedd. Sylwch fod glan yr afon ar y gogledd yn creu rhwystr ar y llwybr, yn y cyfeirnod grid SS731931. Dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar y map a ddarperir yn y tabl isod.

Awdurdod Lleol Lleoliad Rheswm Map Gwyriad Dyddiad
Abertawe Cwm Ivy Erydiad cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Caerdydd Canolog Caerdydd Iechyd a Diolgelwch cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Casnewydd Y Bont Gludo Amddiffyn rhag llifogydd cy 30-06-2024
Castell-nedd Port Talbot The Quays Llyncdyllau cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ceredigion Aberarth Tirlithriad cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Conwy Promenad Hen Golwyn Gwaith Amddiffyn Arfordirol cy 31-03-2024
Conwy Llandulas Cynnal a chadw cy 28-03-2024
Ddinbych Prestatyn (o 9ed Mis Mai 2023) Gwaith Amddiffyn Arfordirol cy 22-08-2023
Fflint Rhwng Maes Glas a Bagillt Llifogydd cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Gaerfyrddin Maes awyr Pen-bre Llifogydd cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Gwynedd Porth Colmon i Draeth Penllech Tirlithriad cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Gwynedd Parc Gwyliau Hafan y Môr, Pwllheli Gwaith Amddiffyn Arfordirol cy 17-05-2024
Morgannwg Llanilltud Fawr llwybr troed rhif 3 a 58 Cliff fall cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro Amroth Tirlithriad cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro Coppet Hall i Wiseman's Bridge, Saundersfoot Tirlithriad cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon Moelfre Ansefydlogrwydd tir cy Hyd nes y ceir rhybudd pellach

Diweddarwyd ddiwethaf 10 Ebr 2024