Conwy i Lanfairfechan, Conwy

Mwynhewch olygfeydd panoramig o arfordir gogledd Cymru ar hyd rhan fewndirol y llwybr hwn

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Cei Conwy i Lanfairfechan 

Pellter

11 milltir neu 18 km

Ar hyd y daith

Mae'r daith gerdded hon yn dilyn rhan fewndirol Llwybr Arfordir Cymru dros Fynydd y Dref, drwy dirwedd sy'n gyforiog o hanes a threftadaeth. Mae hwn yn ddewis amgen gwych i'r llwybr swyddogol gyda man ffafriol i weld golygfeydd panoramig draw i Ynys Môn a Môr Iwerddon.   

Gan ddechrau o Safle Treftadaeth y Byd Conwy, gyda'i chastell trawiadol o'r 12fed ganrif a’i muriau tref, mae'r llwybr yn mynd ar hyd y cei cyn troi oddi ar yr arfordir ac anelu i fyny. Yn ystod yr haf, mae'r mynydd wedi’i orchuddio â grug porffor gyda brychni o eithin melyn llachar. Beth bynnag yw'r tymor, byddwch yn mwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Gogledd Cymru.  

Edrychwch tua'r dwyrain ar hyd yr arfordir ac fe welwch bentir Pen y Gogarth uwchben Llandudno, tra bod Ynys Môn i'r gorllewin. Trowch i'r mewndir i gymryd golwg ar odre Dyffryn Conwy ar fryniau mynyddoedd y Carneddau (cadwch lygad allan am ferlod gwyllt y Carneddau). Mae gan y cerrig ar y daith gerdded hon lawer o straeon i'w hadrodd.  Mae taith fer o'r llwybr yn mynd â chi i adfeilion bryngaer trawiadol o Oes yr Haearn, un o’r nifer o safleoedd hynafol sydd i'w gweld yma.
  
Yn agos at y llwybr uwchben Penmaenmawr, byddwch yn gweld cylch o tua 30 o gerrig sydd wedi sefyll ar y llecyn hwn am tua 5,000 o flynyddoedd, ynghyd ag olion 'ffatri fwyeill' Oes y Cerrig lle’r arferai ein cyndeidiau greu arfau.   

Yn olaf, byddwch yn troi i lawr i gyrchfan Fictoraidd fach, Llanfairfechan, gan fwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Afon Menai wrth i chi fynd. Os hoffech barhau i gerdded pan fyddwch chi'n cyrraedd, ewch ar brif Lwybr Arfordir Cymru yn ôl i Gonwy. 

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Gruff Owen: 
"Mae'r daith gerdded hon yn gwbl wahanol i unrhyw un ar hyd adran Gogledd Cymru o Lwybr Arfordir Cymru, gwnewch amser i ryfeddu at y cylch Derwyddon a'r hen feini hirion sydd wedi sefyll ar y mynydd am fwy na phum mil o flynyddoedd"

Angen gwybod 

Mae gan Gonwy ddigon o lefydd i fwyta ac yfed, ynghyd â pharcio a thoiledau cyhoeddus. Mae caffi a thoiledau hefyd yn y maes parcio wrth y traeth yn Llanfairfechan.  I ddychwelyd i Gonwy, gallwch naill ai ddilyn prif Lwybr Arfordir Cymru yn ôl ar hyd y lan neu fynd ar y bws neu'r trên.  

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig