Y Mwnt, Ceredigion

Teimlwch awel y môr gyda golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechra a Gorffen

Y Mwnt 

Pellter

Hanner milltir (0.5 milltir) neu 1 km

Ar hyd y ffordd

Dewch i ddarganfod y Mwnt sydd wedi’i enwi ar ôl y bryn pigfain (Foel y Mwnt) sy’n esgyn uwchben y traeth tywodlyd cysgodol a’i eglwys wyngalchog dlos. Mae’r daith gerdded hon yn defnyddio maes parcio’r Mwnt fel man cychwyn i archwilio copa Foel y Mwnt – yn sicr, mae’n werth yr ymdrech, a chewch fwynhau rhai o’r golygfeydd mwyaf godidog ac eang ar draws Bae Ceredigion. Ar ddiwrnod clir gallwch gael cip ar fynyddoedd Eryri tua’r gogledd, ac Ynys Aberteifi tua’r gorllewin.

Ymhellach, mae’r Mwnt yn un o’r lleoedd gorau i weld bywyd gwyllt fel morloi, brain coesgoch a dolffiniaid. Yn aml, gellir gweld y rhain yn chwarae yn y bae. Mae’r lle arbennig hwn yn safle sanctaidd hynafol hefyd. Mae’r eglwys hardd, Eglwys y Grog, yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg pan arferai fod yn gapel anwes i longwyr, ond mae modd olrhain ei hanes yn ôl ymhellach. Mae’r bedyddfaen o’r ddeuddegfed ganrif neu’r drydedd ganrif ar ddeg, sydd wedi’i wneud o gerrig y Preseli, yn deillio o adeiladwaith cynharach a arferai fod yn lloches i bererinion canoloesol a oedd ar eu ffordd i Dyddewi, Abaty Ystrad Fflur neu Ynys Enlli yng Ngogledd Cymru.

Bydd y gylchdaith yn eich tywys tua’r de heibio i odyn galch sydd wedi’i hadfer ac ar hyd clogwyni ysblennydd â golygfeydd godidog o’r Mwnt. I ddychwelyd, dilynwch y llwybr ceffylau tua’r tir neu aildroediwch yr un llwybr.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
Cewch fwynhau cylchdaith fer, teimlo awel y môr ar eich gruddiau a chwilio am ddolffiniaid a morloi, ynghyd â’r frân goesgoch brin. Cerddwch i ben y bryn i gael golygfeydd bendigedig o Ynys "Aberteifi ar fachlud haul; ymbaratowch ar gyfer golygfa anhygoel"

Gwybod Angen

Mae maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, toiledau cyhoeddus a chaban lluniaeth tymhorol i’w cael yn y Mwnt.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cylchdaith Mwnt (PDF) a map o taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig