Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-Bont ar Ogwr

Ewch am dro bach o gwmpas bywyd gwyllt anhygoel y warchodfa natur hon

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Canolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (ceir amrywiaeth o lwybrau i ddewis o’u plith)

Pellter

Amrywiol

Ar hyd y ffordd

Pa un a ydych awydd tro byr neu daith gerdded hirach, mae gan y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn bosibiliadau lu. Ewch wysg eich trwyn ar hyd y llwybrau tywod rhwng y twyni neu dilynwch gylchdaith Traeth Sger am siwrnai hirach, gan gyrraedd yr arfordir a’r traeth cyn dilyn yr arwyddbyst yn ôl tua’r tir at y Ganolfan Ymwelwyr.

Dylai gwylwyr adar anelu am y cuddfannau ym Mhwll Cynffig, y llyn dŵr croyw naturiol mwyaf ond un yn Ne Cymru. Mae’r llyn, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o adar dŵr, yn un o’r ychydig leoedd yn y DU lle gellir gweld adar y bwn yn ystod y gaeaf.

Os ewch i gyfeiriad y traeth, efallai hefyd y gwelwch adar fel huganod, sgiwennod, pedrynnod drycin a môr-wenoliaid gwridog. Os ydych awydd taith gerdded hirach, ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru wrth y traeth ac ewch i gyfeiriad Porthcawl neu i’r gorllewin i gyfeiriad Port Talbot. Dyma ran dawel o Lwybr yr Arfordir, lle cewch ddigon o le i ddianc rhag popeth.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Tricia Cottnam, swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Mae ehangder yr ardal hon yn anhygoel, yn enwedig os cerddwch ymhellach tua’r gorllewin i gyfeiriad Port Talbot. Bydd y twyni tywod neu’r traeth tawel yn gwneud i chi deimlo eich bod ymhell o bob man, ac er bod y gwaith dur i’w weld gerllaw, cewch ymdeimlad o dawelwch mawr wrth i chi ddilyn llwybrau treuliedig y warchodfa natur".

Angen Gwybod

Mae toiledau a mannau parcio i’w cael wrth y Ganolfan Ymwelwyr Kenffig, a cheir dwy dafarn gerllaw ar y ffordd i gyfeiriad Gogledd Corneli.

Wrth ddychwelyd gallwch aildroedio’r un llwybr neu mae gwasanaeth bysiau cyfyngedig i’w gael (rhif 265), sy’n mynd yn ôl a blaen i’r warchodfa natur. Gweler gwefan Bus Times i gael amseroedd a lleoliadau.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch deithlen Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (PDF) a map o'r llwybr (JPEG)