Llanbedrog i Abersoch, Pen Llŷn
Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau pentref...
Mwynhewch y daith gerdded arfordirol hyfryd hon gyda chyfleoedd i weld gloÿnnod byw ar hyd y ffordd
Cwmtydu (cylchdaith)
2 milltir neu 3 km
Bydd y gylchdaith hon yn eich tywys o gildraeth cysgodol Cwmtydu a thros fryniau sy’n ferw o adar a glöynnod byw.
Ar ôl i chi archwilio ogofâu a thraeth cerrig Cwmtydu, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru gyda’r môr ar eich chwith, gan ddringo i fyny’r clogwyni. Byddwch yn mynd heibio i olion caer Castell Bach sy’n dyddio o’r Oes Haearn, cyn mynd i lawr i Gwm Silio wrth aber Afon Soden.
Cadwch olwg am forloi sy’n gorwedd o dro i dro ar y stormdraeth caregog hwn, ac yna cerddwch dros y glaswelltir arforol ar ben y clogwyni cyn dilyn y llwybr tua’r tir ar hyd ochr Cwm Soden.
Wrth i chi fynd yn eich blaen byddwch yn gweld brain coesgoch, huganod, gwylogod, a hyd yn oed hebogiaid tramor fry uwchben, ynghyd â myrdd o frithegion lliwgar yn ystod misoedd yr haf. Cerddwch ar hyd y llwybr trwy’r caeau, gan groesi dwy bont, cyn dilyn arwydd Cwmtydu i lawr lôn goediog nes cyrraedd dôl odidog yn llawn blodau gwyllt, a gaiff ei phori gan wartheg.
Byddwch yn mynd heibio i Dŷ Pen-y-Graig cyn cyrraedd y clogwyni uwchlaw Cwm Silio. O’r fan hon, dilynwch y llethr i lawr i gyfeiriad Castell Bach, cyn anelu’n ôl at Gwmtydu.
Uchafbwyntiau Nigel Nicholas, swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Mwyhewch droedio cylchdaith o’r cildraeth bendigedig hwn, gan ddianc rhag miri a mwstwr eich bywyd beunyddiol. Cadwch lygad am forloi, brain coesgoch a brithegion prin"
Ceir maes parcio, caffi a thoiledau tymhorol yng Nghwmtydu.
Lawrlwythwch taflen cerdded Cwmtydu a Cwm Soden (PDF) a map taith cerdded (JPEG)