Taith y Ddwy Farina: Conwy i Ddeganwy, Conwy

Taith gerdded hawdd ag iddi olygfeydd rhyfeddol o afon Conwy ac un o gestyll canoloesol mwyaf mawreddog Cymru ar hyd y ffordd

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Marina Conwy i Farina Deganwy 

Mae dewis o un ai dechrau o faes parcio cyhoeddus y Beacons am ffi fach drwy'r dydd neu o dref Conwy ei hun gyda meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus.

Pellter

3 milltir neu 4 km

Ar hyd y ffordd

Gan ddechrau o faes parcio'r Beacons: crwydrwch drwy'r marina a stad o dai a chroesi dros bont, sydd â chefnffordd brysur yr A55 oddi tani.

Anghofiwch am synau'r ceir wrth i chi ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, gan fynd heibio Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb.

Mwynhewch y golygfeydd panoramig dros Afon Conwy i'r ochr arall tuag at Ddeganwy, tref fechan sy'n nythu rhwng Llandudno Fictoraidd a Chonwy canoloesol a Thŵr Vaerdre, bryn amlwg gyda dau gopa creigiog.

Mae'r llwybr yn ymlwybro tuag at Gei Conwy gyda digon o goed yn darparu mannau cysgodol a meinciau ar hyd y ffordd. Mae'r cei yn cynnig cyfleoedd i grwydro heibio'r tŷ lleiaf ym Mhrydain, atyniad twristaidd poblogaidd iawn a chaer ganoloesol ysblennydd Castell Conwy sy'n safle Treftadaeth y Byd. 

Gan adael y castell a'r cei y tu ôl i chi, cerddwch dros y bont tuag at Ddeganwy, gan wneud yn siŵr eich bod yn stopio ac yn edmygu golygfeydd panoramig Afon Conwy unwaith yn rhagor ond o'r ochr arall, yn edrych tuag at Gei a thref Conwy. Byddwch yn gweld lle rydych newydd gerdded – mae cael persbectif gwahanol wastad yn dda!  Mae'r llwybr yma hefyd yn addas i feicio, yn ddelfrydol ar gyfer taith hawdd rhwng y ddwy dref.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Gruff Owen: 

"Dyma daith gerdded wych i fwynhau rhai o'r golygfeydd gorau ar adran arfordir Gogledd Cymru o'r llwybr sy'n byrlymu â diwylliant a'r dreftadaeth sy'n rhan annatod o'r ardal hon. Byddwch eisiau archwilio mwy o'r hyn sydd gan yr adran hon o'r llwybr i'w gynnig". 

Angen gwybod

Ceir cyfleoedd ar gyfer lluniaeth ysgafn ac arosfannau toiledau yng Nghei Conwy a hefyd yn Neganwy. Gallwch ddal trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl i Gonwy o Ddeganwy ac os yn mynd ymhellach, o dref Llandudno.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded o Daith y Ddwy Farina o Conwy i Deganwy (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Eisiau mynd ymhellach?

Rhowch gynnig ar ein Teithiau teulu gwahanol o amgylch y Gogarth gerllaw gan ddefnyddio ap Llwybr Arfordir Cymru i ddatgloi gemau yn datgelu hanes yr Ail Ryfel Byd ar y tirnod eiconig hwn ar hyd morlin Gogledd Cymru.