Taith Gerdded Gylchol Redwick

Mwynhewch y golygfeydd eang dros Aber Afon Hafren ar y daith gerdded hawdd hon

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Pentref bychan canoloesol ar Wastadeddau Gwent yw Redwick, wedi’i amgylchynu gan gaeau wedi’u cris-croesi gan ffosydd draenio, neu ‘reens’ yn Saesneg. Mae corstir helaeth ar bob ochr i aber afon Hafren wedi’i drawsnewid yn dir fferm, gyda’r môr yn cael ei gadw draw gan forglawdd hir wedi’i amddiffyn gan greigiau, y mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd ar ei hyd. Mae’r caeau isel yn weddol sych yn yr haf, ond gallant fod yn wlyb a mwdlyd iawn yn y gaeaf.

Manylion y llwybr

Pellter: 5 milltir neu 8.1 cilomedr
Man cychwyn: Eglwys Sant Tomos, Redwick
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 41247 84136
Disgrifiad what3words y man cychwyn: chwareus.heneiddio.rhoddwyd

Trafnidiaeth i’r man cychwyn

Parcio
Mae ychydig iawn o leoedd parcio yn Eglwys Sant Tomos a Neuadd Bentref Redwick.

Bysiau
Dim.

Trenau
Dim.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Redwick Circular Walk'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dechreuwch wrth y fynedfa i Eglwys Sant Tomos yn Redwick, sy’n agos at Neuadd Bentref Redwick a thafarn The Rose Inn. Sylwch ar adeilad carreg anarferol sy’n cynnwys meini melin, offer gwasgu seidr, a sawl eitem a achubwyd o hen adeiladau. Mae yna hefyd gyffion traed gerllaw. Cerddwch trwy’r fynwent, gan adael trwy’r giât gefn i gerdded trwy ardal fach o laswellt. Croeswch gamfa risiau wrth ymyl giât, a throwch i’r chwith ar hyd ffordd, gan fynd heibio i ffermdy. Trowch i’r dde gan ddilyn yr arwyddbost wrth giât fawr gyda giât mochyn wrth ei hochr, yn ogystal â saeth yn nodi Taith Gerdded Gylchol Redwick.

2. Cadwch i ochr chwith cae, gan ddilyn gwrych i gyrraedd giât gyda chamfa risiau wrth ei hochr. Cerddwch yn syth drwy gae, sy’n gallu bod yn wlyb ac yn fwdlyd. Mae dwy giât o’ch blaen, ond ychydig i’r dde mae pont droed â giât mewn bwlch mewn gwrych. Defnyddiwch y bont droed i gyrraedd y cae nesaf a chadwch i’r ochr chwith, gan ddilyn gwrych. Defnyddiwch bont droed arall â giât, ac yna cadwch i’r chwith i gerdded yn groeslinol drwy gae, gan anelu at y gornel bellaf. Ewch drwy ddwy giât fechan sydd wedi’u hadeiladu’n rhan o ddwy giât fawr, a chroeswch bont goncrit dros ffos ddraenio tebyg i gamlas, sef Windmill Reen. Trowch i’r chwith fel y nodir, trwy’r cae nesaf, gan anelu at giât fechan arall sydd wedi’i hadeiladu yn rhan o giât fawr. Mae hyn yn rhoi mynediad i arglawdd glaswelltog. Trowch i’r chwith i ddringo i fyny’r arglawdd, gan gyrraedd yr ochr wedi’i hamddiffyn gan greigiau â golygfa dros aber afon Hafren.

3. Trowch i’r dde i gerdded ar hyd brig y morglawdd, gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru. Ewch heibio i giât mochyn segur, yna yn ddiweddarach o lawer ewch drwy giât mochyn a heibio i bibell ddwbl sy’n arwain y llygad tua’r tir i safle gwaith dur Llan-wern. Ewch drwy giât mochyn arall a mynd yn eich blaen ar hyd y morglawdd. Yn ddiweddarach fyth, ewch trwy giât mochyn i fynd heibio i flaen adeilad pinc, sef Porton House. Yn syth ar ôl mynd trwy giât mochyn arall, trowch i’r dde i ddisgyn o’r morglawdd a chroesi pont droed dros ffos ddraenio.

4. Ewch heibio i adeilad a throwch i’r chwith, gan groesi camfa risiau dros ffens. Trowch i’r dde a cherdded yn groeslinol ar draws cae. Croeswch gamfeydd grisiau bob ochr i ffordd darmac ac ewch yn eich blaen yn groeslinol i’r chwith drwy gae arall. Croeswch bont droed â chamfeydd ar bob pen, yna cadwch i ochr chwith cae i ddilyn gwrych. Trowch i’r chwith i groesi pont droed arall â chamfeydd ar bob pen. Croeswch y ffordd darmac eto a gadewch hi ar unwaith drwy groesi camfa risiau. Cadwch ar ochr dde cae, gan ddilyn ffos sy’n llawn cyrs. Ewch heibio i fynedfa â giât ac ewch yn syth ymlaen fel y nodir.

5. Trowch i’r dde i groesi pont droed â chamfeydd ar bob pen. Anelwch ychydig i’r chwith i groesi cae gwlyb a garw yn frith o frwyn. Sylwch ar bont droed arall â chamfeydd ar bob pen a’i chroesi. Cadwch at ochr chwith cae, gan ddilyn gwrych, a chroeswch bont droed arall â chamfeydd ar bob pen. Trowch i’r dde fel y nodir ar hyd llwybr glaswelltog wedi’i amgáu gan wrychoedd a choed. Ewch drwy giât fawr a throwch i’r chwith i ddilyn ffordd darmac sy’n arwain i ffwrdd o’r fferm yn Great Porton.

6. Edrychwch allan am arwyddbost ar y dde ac ewch drwy giât fechan wrth ymyl giât fawr. Cerddwch yn syth ymlaen, gyda ffos ddraenio Hare’s Reen i’r chwith a rhes hir o goed i’r dde. Daliwch i gerdded yn syth ymlaen, gan fynd heibio i gae yn cynnwys paneli solar yn y pen draw. Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr glaswelltog â ffosydd ar y ddwy ochr, ac ewch heibio i gae arall sy’n cynnwys paneli solar.

7. Trowch i’r dde ar hyd ffordd drol, yna trowch i’r chwith i groesi pont droed fetel dros y bibell ddwbl a basiwyd yn gynharach ar y daith gerdded. Croeswch bont droed bren â giât a chamfa ac yna daliwch ati i gerdded yn syth ymlaen. Trowch i’r dde i groesi pont droed gul i fynd i mewn i gae arall. Naill ai anelwch yn groeslinol i’r chwith i groesi’r cae, neu os yw wedi’i aredig a bod cnwd yn tyfu yno, efallai y byddai’n haws cadw at ymyl chwith y cae, gan droi wrth y corneli yn lle hynny. Y naill ffordd neu’r llall, croeswch bont droed â chamfeydd ar bob pen i fynd i mewn i gae arall. Cerddwch yn groeslinol i’r dde i’r gornel bellaf a chroeswch gamfa risiau fetel. Cadwch at ochr dde’r cae nesaf, gan ddilyn gwrych. Croeswch bont droed arall â chamfeydd ar bob pen a throwch i’r dde. Mae darn byr o lwybr gwyllt a choediog â drysni o fieri yn rhedeg rhwng ffosydd cyfochrog. Trowch i’r chwith i groesi pont droed arall, sydd â giât ar un pen.

8. Cerddwch yn groeslinol i’r dde ar draws y cae nesaf, gan wylio am bont droed â chamfa ar bob pen sy’n arwain at gae arall eto. Eto, cerddwch yn groeslinol i’r dde ar draws cae mwy a chroeswch bont droed arall â chamfa ar bob pen. (Ar y pwynt hwn, os yw’r caeau’n arbennig o wlyb a mwdlyd, mae ffordd fferm yn rhedeg yn gyfochrog â’r llwybr a fyddai’n haws ei dilyn.) Cerddwch yn syth ymlaen i groesi pont droed â giât, yna cadwch at ochr dde cae, gan ddilyn y gwrych. Croeswch bont droed arall â giât, ac eto cadwch at ochr dde cae. Ewch drwy giât ar y dde i ymuno â’r ffordd fferm gyfagos, gan droi i’r chwith i’w dilyn ar draws pont dros ffos debyg i gamlas, sef Windmill Reen.

9. Cerddwch heibio i Mead Farm a sylwch sut mae’r ffos ddraenio ar hyd ei hen waliau cerrig yn edrych yn debyg i ffos amddiffynnol. Cerddwch ar hyd ffordd darmac o’r enw Mead Lane a throwch i’r dde wrth gyffordd i gerdded ar hyd South Row. Trowch i’r chwith i groesi camfa risiau wrth ymyl giât, a ddefnyddiwyd ar ddechrau’r daith. Mae hon yn arwain at ardal laswelltog, lle mae giât gefn yn arwain at fynwent Eglwys Sant Tomos i orffen y daith.