Drysfa Talacre
Llwybr cylchol gwych o Dalacre, ar draeth tywodlyd...
Taith gerdded fer a hawdd lle gallwch archwilio Castell y Fflint a chrwydro ar hyd glannau coediog
Paddy Dillon
Mwynhewch daith gerdded fer a hamddenol o'r Fflint, gan ddechrau gyda thaith o amgylch Castell y Fflint. Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn ymyl glan goediog, gan fynd heibio i hen ddoc. Mae llwybr coediog, sy’n mynd â chi trwy Gors y Fflint, yn arwain yn ôl at y Fflint. Ymhlith yr adeiladau nodedig yn y Fflint mae Neuadd y Dref, yr Hen Lys (sydd bellach yn gaffi) ac Eglwys y Santes Fair.
Pellter: 2.8 milltir neu 4.5 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Reilffordd y Fflint
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SJ 24527 73118
Disgrifiad what3words y man cychwyn: drymio.taeraf.ennyn
Parcio
Parcio yng Ngorsaf Reilffordd y Fflint, Castell y Fflint a lleoliadau eraill o amgylch y dref.
Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu'r Fflint â Chaer, Treffynnon, Prestatyn a'r Rhyl.
Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu'r Fflint â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r darn o fap OS 1:25,000 yn dangos bod y llwybr yn dechrau ac yn gorffen yng Ngorsaf Reilffordd y Fflint, ond, ar y daith yn ôl, gellir dewis rhwng llwybr byr ar hyd y brif ffordd neu droi'n ôl ar hyd y llwybr allanol. Dyna pam fod llwybr byr cysylltiol i'w weld yng nghanol y map.
Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Flint and Flint Marsh' (Y Fflint a Chors y Fflint).
1. Cychwynnwch yng Ngorsaf Reilffordd y Fflint, sy'n agos at ganol y dref. Croeswch y bont droed dros y rheilffordd i gyrraedd Castle Street a cherddwch yn syth ar ei hyd. Dilynwch lwybr tarmac i gyfeiriad Castell y Fflint, a gallwch unai groesi pont droed er mwyn archwilio'r castell neu droi i’r chwith cyn ei gyrraedd er mwyn parhau â’r daith. (Mae mynediad i'r castell yn rhad ac am ddim. Ceir hysbysfyrddau’n esbonio iddo gael ei adeiladu gan Edward I yn 1277, un o nifer o gestyll a greodd ‘gylch haearn’ o amgylch Cymru. Cafodd Richard II gyfarfod tyngedfennol yma yn 1399 gyda’r gŵr a aeth yn ei flaen i'w ddiorseddu, sef Henry Bolingbroke, a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel Harri IV.
2. Bydd llwybr Taith y Castell yn eich arwain i mewn i goetir. Byddwch yn cyrraedd postyn marcio yn fuan iawn ac arno ddisgiau marcio Llwybr Arfordir Cymru yn arwain i'r chwith ac i'r dde. Ewch i'r dde er mwyn dilyn llwybr arfordirol gyda golygfa ar draws y forfa heli tuag at Gastell y Fflint. Ewch heibio i gerflun o filwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn eistedd a mwynhewch olygfeydd ar draws aber afon Dyfrdwy, cyn i'r llwybr fynd â chi yn ôl i goetir. Pan gyrhaeddwch gyffordd ger ffordd, arhoswch ar y llwybr coetir a pheidiwch â mynd i lawr llwybr tuag at y forfa heli. Er bod coed yn rhwystro golygfeydd o'r aber i raddau helaeth, maent hefyd yn rhwystro golygfeydd o ystâd ddiwydiannol gyfagos.
3. Bydd y llwybr yn cyrraedd cilfach gul Doc y Fflint, sydd ag ymyl o garreg. Adeiladwyd y doc yn y 1800au cynnar er mwyn allforio plwm ac, yn ddiweddarach, glo a chemegion. Defnyddid cychod gwaelod gwastad, a oedd yn addas ar gyfer dyfroedd bas aber afon Dyfrdwy. Fe welwch hysbysfwrdd ar ben y doc sy'n darparu gwybodaeth. Yn syml, ewch yn eich blaen i'r ochr arall, gan ymuno â llwybr llydan sy'n mynd heibio i giât addurniadol er mwyn dychwelyd i aber afon Dyfrdwy. Cadwch olwg am arwyddbost sy'n pwyntio i'r chwith ac yn cynnig llwybr trwy goetir ar lanw uchel, ond anaml y bydd ei angen. Parhewch ar hyd y lan, lle mae’r coetir yn cyffwrdd â’r traeth am gyfnod, a dilynwch lwybr sy’n eich arwain yn sydyn at oleufa dân Flint Point, lle mae’r coetir wedi'i wneud o goed bedw a choed mêl yn bennaf. Mwynhewch olygfeydd ar draws aber afon Dyfrdwy tuag at Wirral. Byddwch unai yn edrych ar draws y dŵr ar lanw uchel, neu wastadeddau llaid eang pan fydd y dŵr ar drai. Bydd gwylwyr adar wrth eu boddau yn arsylwi'r llu o greaduriaid sydd i'w cael yma. Ceir yma hefyd hysbysfwrdd sy'n rhoi sylw i rai o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin.
4. Bydd y llwybr yn eich arwain yn ôl i goetir am ychydig cyn y byddwch yn cyrraedd cyffordd lle ceir arwyddbost yn eich arwain i'r dde tuag at Fagillt. Dilynwch y llwybrau clir sy’n rhedeg agosaf at yr arfordir, gan gael cipolwg ar arglawdd sy’n gwahanu'r tir amaethyddol a'r forfa heli ac yn ymestyn yr holl ffordd i bentref Bagillt. Bydd y llwybr yn disgyn ychydig ac yn mynd â chi drwy giât mochyn. Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn parhau i’r dde. Ond trowch chi i'r chwith drwy giât mochyn arall er mwyn dychwelyd i'r Fflint.
5. Bydd llwybr yn eich arwain tua'r tir, gyda choed o bobtu iddo, a byddwch yn cyrraedd postyn marcio wrth gyffordd llwybr arall. Trowch i'r chwith drwy giât a dilynwch lwybr llydan drwy'r coetir, sydd wedi'i godi ychydig uwchben gwlyptir coediog Cors y Fflint. Parhewch i fynd yn syth yn eich blaen hyd nes y byddwch yn cyrraedd giât bar, lle ceir dewis o lwybrau posibl. Gallwch unai droi i'r chwith i mewn i stad ddiwydiannol ger Doc y Fflint a dilyn y grisiau yn ôl i Gastell y Fflint, neu gallwch droi i'r dde a dilyn llwybr beicio sy'n mynd o dan y rheilffordd er mwyn cyrraedd ffordd brysur yr A548. Trowch i'r chwith er mwyn cerdded ar hyd y llain ymyl laswelltog, lydan, gan fynd heibio i safle bws. (Gellir defnyddio'r safle bws hwn ar gyfer bysiau i Gaer, neu'r un sydd ar draws y ffordd ar gyfer bysiau i Dreffynnon.) Bydd palmant yn mynd â chi yn ôl i'r Fflint ac yn eich arwain at adeilad bach a thrawiadol Neuadd y Dref. Mae’n werth gofyn am gael gweld Siambr y Cyngor, sy’n odidog. Ewch y tu ôl i Neuadd y Dref er mwyn darllen hysbysfwrdd sy'n darparu gwybodaeth am y dref, ac er mwyn dychwelyd i'r orsaf drenau.