Llansteffan
Cyfunwch y daith gerdded hon drwy'r goedwig gyda...
Mwynhewch y golygfeydd o draethau sy'n adnabyddus am dorri sawl Record Cyflymder Tir y Byd ac am laniadau D-Day
Paddy Dillon
Torrwyd recordiau cyflymder tir y byd yn y 1920au ar Draeth Pentywyn. Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru dros Bwynt Gilman i ddarganfod traeth lle bu milwyr yn ymarfer ar gyfer glaniadau D-Day yn Normandi. Ar ôl mynd i mewn i'r tir trwy gwm, mae dau opsiwn ar gael i gyrraedd rhan hŷn Pentywyn, lle mae adeiladau wedi'u gosod o amgylch Eglwys y Santes Farged. Mae taith gerdded i lawr Rhiw Pentywyn yn dychwelyd i dref glan môr Pentywyn.
Pellter: 2.5 neu 3.5 milltir neu 4 neu 5.7 cilomedr
Man cychwyn: Maes Parcio Pentywyn
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SN 23550 08116
Disgrifiad what3words y man cychwyn: soced.pelydru.hwylus
Parcio
Parcio ym Maes Parcio Pentywyn.
Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, yn cysylltu Pentywyn â Dinbych-y-pysgod, Lacharn, Sanclêr a Chaerfyrddin.
Trenau
Dim.
Mae’r llwybrau cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae dau drac GPX ar gyfer y llwybr hwn - 'Pendine Long' (Pentywyn Hir) yw'r opsiwn hirach a ‘Pendine Short (Pentywyn Byr) yw'r opsiwn byrraf. Mae'r ddau lwybr wedi'u nodi ar y map. Mae'r map yn cynnwys llwybr llygad yng nghanol y daith gerdded.
1. Dechreuwch ym Maes Parcio Pentywyn, neu wrth y safleoedd bysiau yn agos at fynedfa'r maes parcio. Cerddwch drwy'r maes parcio i gyrraedd y traeth, lle mae Gwesty'r Caban a'r Amgueddfa Cyflymder i'r chwith mewn adeiladau modern. Gosododd Malcolm Campbell a J. G. Parry Thomas recordiau cyflymder tir y byd ar Draeth Pentywyn. Cyflymder uchaf Campbell oedd 174.22 mya yn ‘Bluebird’ ym 1927. Ceisiodd Parry Thomas dorri’r record yn fuan wedyn, ond bu farw pan falodd ei gar ‘Babs’ yn yfflon. Ar ôl cael ei chladdu mewn twyni tywod am ddegawdau, cafodd ‘Babs’ ei chloddio a'i hadfer.
2. Trowch i'r dde i ddilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd y promenâd, gan gerdded am ychydig ar hyd ffordd ger Springwell Inn. Mae llwybr promenâd byr arall yn arwain at y Point Cafe. Dringwch risiau, rhai yn goncrit, rhai yn bren, a rhai wedi'u torri i mewn i'r creigwely calchfaen, sef cyfanswm o 234 i gyd. Dilynwch lwybr sy’n mynd i lan ac i lawr llethrau ysgafn ac yna dringwch 30 o risiau calchfaen crai eraill. Er bod llwyni yn aml wrth ymyl y llwybr dros Bwynt Gilman, mae golygfeydd yn ymestyn o Ynys Bŷr ger Dinbych-y-pysgod i Ben Pyrod oddi ar Benrhyn Gŵyr.
3. Ewch i lawr yn serth ar lwybr glaswelltog gyda llwyni eithin bob ochr iddo, gydag 20 o risiau pren wrth ddod i'r gwaelod. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn parhau i fyny ochr arall y dyffryn, ond nid yw’n cael ei ddilyn ymhellach ar y daith hon. Adeiladwyd dwy wal goncrit ar draws y dyffryn, yn debyg i amddiffynfeydd a adeiladwyd gan yr Almaen yn ystod y rhyfel yn Normandi. Bu milwyr Americanaidd yn ymarfer ysbeilio'r traeth, gan dorri un o'r waliau yn llwyddiannus, sydd ers hynny wedi'i malu’n rwbel. Trowch i'r chwith i ymweld â'r traeth cerrig mân ym Morfa Bychan, ond fel arall trowch i'r dde i ddilyn trac i mewn i'r tir trwy ddyffryn sy'n frith o redyn a mieri. Edrychwch am yr hen odynau calch.
4. Daw'r dyffryn yn fwy coediog ymhellach i mewn i'r tir a chyrhaeddir cyffordd ag arwyddbost. Mae’r llwybr llawn yn cadw i’r chwith yma, ond sylwch fod troi i’r dde yn cynnig llwybr llygad i fyny at Riw Pentywyn, gan arbed milltir o gerdded trwy ddefnyddio llwybr serth sydd wedi’i dreulio’n rhannol i’r creigwely mewn dyffryn cyfagos. Gan gadw i'r chwith i ddilyn y llwybr llawn, mae'r trac yn parhau i godi'n raddol drwy'r dyffryn, gan ddod allan o'r coed yn y pendraw i ymuno ag isffordd. Trowch i'r dde i fyny'r bryn a mynd heibio i'r Green Bridge Inn. Cerddwch yn syth ymlaen ar hyd y ffordd, gan ddilyn arwyddbost am Bentywyn a mynd heibio i faes carafanau.
5. Dilynwch y palmant yn raddol i lawr y bryn, gan fynd heibio i hen Ysgol Tremoilet. Ysgol Genedlaethol oedd hon, a adeiladwyd ym 1875 ar safle tŷ o'r bymthegfed ganrif o'r enw Tremoilet. Dilynwch lwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffordd, sy'n codi'n gyflym i arglawdd coediog uwchben y ffordd. Ailymunwch â’r ffordd a’i dilyn yn raddol i lawr y bryn i Eglwys y Santes Farged – adeiledd canoloesol a gafodd ei adfer ym 1869. Naill ai cadwch i'r chwith o'r fynwent a throwch i'r dde wrth gyffordd ffyrdd, gan ddilyn arwyddbost am Bentywyn, neu cadwch i'r dde o'r fynwent i ddilyn trac, yna cadwch i'r chwith o faes chwarae bach ac yn fuan wedyn trowch i'r dde ar hyd ffordd i adael y pentref. Y naill ffordd neu’r llall, ewch heibio i loches fysiau a nodwch ble mae’r llwybr llygad yn dringo o ddyffryn coediog i ymuno â’r un ffordd, sef y B4314.
6. Defnyddiwch y palmant ar ochr dde'r ffordd i gerdded i lawr Rhiw Pentywyn. Hanner ffordd i lawr mae cyffordd ffyrdd drionglog lle mae man gwyrdd yn gwasanaethu fel Gardd Heddwch, lle mae calchfaen obelisg yn coffáu coroniadau'r Brenin Edward VIII a'r Brenin Siarl III. Dilynwch weddill y ffordd i lawr i Bentywyn, gan edrych dros faes carafanau sydd ar safle gwersyll milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf. Gadewch y ffordd ar ôl mynd heibio i'r Springwell Inn i aildroedio'r un llwybr ar hyd y promenâd. Trowch i'r chwith i mewn i'r maes parcio i orffen neu, os oes gennych ychydig funudau sbâr, gadewch y maes parcio a throwch i'r dde ar hyd y ffordd i edrych ar Gapel Coffa Peter Williams. Ym 1770, cyhoeddodd Williams argraffiad o’r Beibl Cymraeg - y cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru - a ddaeth mor boblogaidd nes bod bron pob cartref yng Nghymru yn berchen ar gopi.