Cylchtaith TyDdewi a St Non’s

Dilyn olion traed seintiau, tywysogion ac esgobion

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Cychwyn a gorffen yn Nhyddewi

Pellter

8 milltir / 13 cilometr ar gyfer y llwybr cyfan ond mae nifer o opsiynau i gwtogi ar y llwybr yn ystod y tymor twristiaeth drwy ddefnyddio gwasanaeth bws y Gwibiwr Celtaidd fel y'i disgrifir.

Mae'n 7 milltir/ 11 cilometr os ewch yn ôl mewn cylch i Dyddewi drwy ddewis y llwybr mewndirol o Borthclais, 6 milltir / 10 cilometr os daliwch y bws o Dyddewi i St Justinian’s i ddechrau'r daith gerdded, neu ddim ond 4 milltir / 6 cilometr os defnyddiwch y gwasanaeth bws yn nau ben y daith a cherdded o St Justinian's i Borthclais yn unig.

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith hon yn dilyn darnau bendigedig ar hyd clogwyni a lonydd gwledig tawel yn ôl traed seintiau'r Oes Dywyll a ddaeth yma fel pererinion, ac mae'n mynd heibio i ddyfroedd cythryblus a pheryglus Swnt Dewi. Gellir gweld cyfoeth o fywyd gwyllt, o ddolffiniaid a llamidyddion i hebogau tramor a brain coesgoch. A phan fyddwn ar yr arfordir, mae’n hawdd canfod ein ffordd – dim ond cadw'r môr ar ein hochr dde sydd ei angen.

Ond rydym yn dechrau yn ninas leiaf y DU, dinas dlos Tyddewi, a'i strydoedd henaidd, caffis, siopau bwtîg ac orielau. Am gyn lleied o le, mae'n cynnig cryn dipyn.

Eglwys gadeiriol ysblennydd

Bydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn amlwg ar frig rhestri llawer o ymwelwyr o bethau i'w gweld. Mae yma fan addoli ers y chweched ganrif, ac mae'r gadeirlan yn parhau i gynnal gwasanaethau dyddiol.

Dechreuwyd yr adeilad fel y saif heddiw ym 1181 a chafodd ei atgyweirio a’i estyn yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan esgob Cymru Henry Gower; mae sgrin Gothig wedi’i gerfio’n goeth yng nghanol yr eglwys yn gartref i lunddelw ei feddrod. Mae rhai o staff yr esgobion o'r cyfnod hwn, ac yn gynharach, hefyd yn cael eu harddangos yn nhrysorlys yr eglwys gadeiriol.

Mae'r eglwys gadeiriol yn cynnwys beddrodau llawer o ffigurau pwysig o hanes Cymru gan gynnwys bedd honedig tywysog Cymru, yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd. Yn ystod y Goncwest Normanaidd adferodd yntau deyrnas ganoloesol Deheubarth ac unodd feirdd a cherddorion o bob rhan o Gymru ar gyfer yr eisteddfod gyntaf erioed ym 1176. Mae ei feddrod wedi’i gerfio’n goeth yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, tua dau gan mlynedd ar ôl ei farwolaeth.

Palas moethus ar un adeg

A drws nesaf i'r gadeirlan mae adfail godidog Llys Esgob Tyddewi.

Dyfarnodd pab o'r ddeuddegfed ganrif fod dwy daith i Dyddewi yn hafal i un daith i Rufain a bod tair mor arwyddocaol ag un daith i Jerwsalem. Trodd y lle felly’n ganolfan bererindod i’r holl fyd gorllewinol a heidiodd miloedd i'r ardal.

Ond nid oedd cartref yr esgob ar y pryd yn gallu cystadlu â'r gadeirlan ysblennydd. Felly rhwng 1328 a 1347 trodd yr Esgob Henry Gower adeilad y credid gynt nad oedd ond yn addas i "weision ac anifeiliaid" yn balas enfawr, moethus lle byddai’n cynnal gwleddoedd, yn gweinyddu cyfiawnder ac yn croesawu pererinion nodedig.

Fodd bynnag, yn ystod cyfnod y Diwygiad, dirywiodd yr adeilad yn sylweddol ac mae'n ddigon posibl y bu Esgob protestannaidd cyntaf Tyddewi ei hun yn euog o dynnu'r plwm oddi ar y to.

Nawr mae'n bryd cefnu ar y ddinas ac mae'n llai na dwy filltir, drwy Rosson, i gyrraedd St Justinian's. Gallwn gwtogi ychydig ar y daith gerdded hon drwy gymryd bws mini rheolaidd o Dyddewi i St Justinian's yn ystod y tymor twristiaeth.

Chwedl Sant Iwstinian

Ganrifoedd lawer yn ôl, roedd hwn hefyd yn safle crefyddol pwysig. Mae'r capel yma ar dir preifat, ond gellir ei weld yn glir o'r ffordd. Dywedir mai yma mai man claddu Sant Iwstinian, cyffeswr Dewi Sant. Roedd yn byw ar Ynys Dewi ond, yn ôl y chwedl, ar ôl iddo gael ei ddienyddio gan ddilynwyr dig, cododd ei ben o’r llawr a cherdded yn ôl ar draws Swnt Dewi i'r tir mawr.

Erbyn heddiw, yma mae safle gorsaf bad achub sy’n destun ffotograffau lawer yn ei leoliad dramatig ac sy’n bwynt ymadael ar gyfer tripiau cwch i  Ynys Dewi yn ystod y gwanwyn a'r haf.

Hafan i adar a chaiacwyr

Os ewch ar gwch allan i'r ynys gallwch ddisgwyl gweld nythfeydd o adar môr ar rai o'r clogwyni môr uchaf yng Nghymru sy'n cynnig golygfa ysblennydd yn y Warchodfa Natur RSPB hon. Mae'r ynys hefyd yn gartref i un o lwythau mwyaf y DU o forloi llwyd a rhwng mis Medi a mis Rhagfyr mae lloi bach ar bob traeth.

Ond yn ôl ar Lwybr Arfordir Cymru, trown i'r chwith yn St Justinian's ac am ddwy filltir arall mae dyfroedd gwylltion a throlifau Swnt Dewi rhyngom ni a'r ynys. Mae caiacwyr wrth eu bodd yn cystadlu yn erbyn ffrydlifoedd y llanw yma, ond mae llongau mwy o faint yn osgoi'r ardal yn llwyr. Gwrandewch am y tonnau'n taranu yn erbyn y clogwyni wrth inni gerdded o amgylch y bae.

Golygfeydd gogoneddus o’r clogwyni

Erbyn hyn mae gennym bum milltir o gerdded gogoneddus o'n blaenau ar hyd y clogwyni, a llawer o'r tir yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ac wrth droi ein cefnau ar Ynys Dewi a mynd o gwmpas y pentir ym Mhen Dal-aderyn, mae dyfroedd agored enfawr Bae Sain Ffraid yn agor o'n blaenau. Dan ein traed yma ar Benrhyn Treginnis mae'r creigiau hynaf yn Sir Benfro, sy'n dyddio'n ôl 600 miliwn o flynyddoedd.

Yn y pen draw, cyrhaeddwn gilfach a harbwr bach hardd ym Mhorthclais; yn ôl pob sôn, hwn yw’r man lle cafodd Dewi Sant ei fedyddio ac mae yma borthladd gwaith ers o leiaf 1385.

Mae’r ciosg yma’n lle da i gael lluniaeth yn ystod y gwanwyn a'r haf. Gallwn gerdded yn ôl ar hyd y lôn i Dyddewi o'r fan hon os nad ydym am gwblhau'r llwybr cyfan.

Ymlaen i Gapel Santes Non

Gan symud o amgylch y pentir, yn fuan ar ôl mynd heibio i Drwyn Cynddeiriog, dyneswn at adeilad mawr llwyd ar y gorwel, sef Encilfa Santes Non. Wrth fynd yn nes, gadawn Lwybr Arfordir Cymru a dilynwn yr arwyddbost i'r chwith i fan geni honedig Dewi Sant, Capel Santes Non.

Gerllaw mae ffynnon sanctaidd, y dywedir iddi darddu pan gafodd Dewi Sant ei eni ac y cred rhai fod ei dyfroedd yn cynnwys rhinweddau iachau.

Adeiladwyd capel hynafol yr olwg ger yr encilfa ym 1934 mewn gwirionedd yn y modd lleol hanesyddol.

O'r fan hon mae ychydig dros hanner milltir ar hyd lôn wledig ddymunol yn ôl i Dyddewi

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Theresa Nolan, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae cymaint o hanes yn Nhyddewi nes ei bod yn hawdd treulio'r diwrnod cyfan a mwy yno. Ond mae'r ardal gyfagos hefyd yn llawn hanes, fel y gwelwn ar y daith gerdded hon. Yn ogystal â hynny, mae'r golygfeydd a'r bywyd gwyllt ar y rhan hon o'r arfordir yn wych."

Angen gwybod

Mae pob cyfleuster ar gael yn Nhyddewi.

Mae ciosg a thoiledau ym Mhorthclais. Y ciosg yw'r unig opsiwn ar gyfer lluniaeth ar y llwybr.

Mae ambell le parcio ar gael ym Mhorthclais a St Justinian's. Fodd bynnag, oherwydd y lonydd cul a phrinder y lleoedd parcio rydym yn argymell parcio yn canolfan ymwelwyr Oriel y Parc a dal bws o Dyddewi.

Mae’r Gwibiwr Celtaidd yn darparu gwasanaeth bws rheolaidd o amgylch Penrhyn Dewi yn ystod y tymor gan aros yn St Justinian's, Porthclais a Santes Non i gynnig nifer o opsiynau i gwtogi ar y daith gerdded.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Tyddewi i St Non's (JPEG,2.47MB)