Porthaethwy i Gaernarfon

Mae pontydd ysblennydd a llwybr coetir ar hyd afon brydferth Menai yn eich tywys i un o gestyll canoloesol gorau’r byd

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Porthaethwy i Gaernarfon.

Pellter

Mae dewisiadau lluosog ar gyfer mannau dechrau a gorffen yn golygu y gallai hwn fod yn llwybr o unrhyw beth rhwng 2 filltir / 3 cilometr ac 11 milltir / 18 cilometr.

Ar hyd y ffordd

Mae'r llwybr yn dechrau ac yn gorffen gyda rhai o'r rhyfeddodau pensaernïol mwyaf eiconig ac ysbrydoledig sydd i'w cael yng Nghymru, wedi'u cysylltu gan lwybr coetir gwych ar hyd glannau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol, sef Afon Menai.

O sgwâr tref Porthaethwy awn i lawr Stryd y Dŵr i Afon Menai ac yn syth bron dyma ffurf anferthol Pont Grog Menai yn codi'n drawiadol o'n blaenau. Cerddwch yn syth drwy un o'i bwâu enfawr – wedi'u hadeiladu'n ddigon uchel fel y gallai llongau hwylio oddi tani. Wedi'i hadeiladu gan Thomas Telford, trawsnewidiodd y bont hon y daith rhwng Llundain a Dulyn, yn ogystal â bywydau pobl leol, pan agorodd ym 1826.

Yna, trown i’r chwith i lawr i Bromenâd Gwlad Belg, a adeiladwyd gan ffoaduriaid o Wlad Belg i ddiolch i bobl Porthaethwy am ofalu amdanynt ar ôl iddynt ffoi o oresgyniad yr Almaen ym 1914. O'r fan hon ceir golygfeydd gwych o'r ddwy bont sy'n croesi Afon Menai.

Ym mhen draw’r promenâd, trown i'r chwith i ddarganfod eglwys Sant Tysilio sef eglwys fach dlws o’r bymthegfed ganrif sydd ar ynys, neu trown i'r dde i fyny'r allt drwy warchodfa natur Coed Cyrnol i dref Porthaethwy lle cawn ddysgu mwy am hanes pontydd Menai a Britannia drwy ymweld ag amgueddfa Treftadaeth Menai.

Nawr mae gennym benderfyniad i'w wneud - ar ba ochr i'r bont y dylem groesi? I’r chwith mae golygfeydd tuag at bier Bangor, Biwmares a Phen y Gogarth, ac ar yr ochr dde edrychir tuag at bont Britannia a'r coetiroedd y byddwn cyn hir yn cerdded drwyddynt.

Cerhyntau rhuog a thŷ ynys

Wrth gyrraedd y tir mawr trowch yn syth i'r dde ar hyd dreif drwy goetiroedd am hanner milltir i gyrraedd Gerddi Botaneg Treborth a throwch i'r dde. O'r fan hon rydym yn dilyn y llwybr drwy'r goedwig gydag Afon Menai bob amser ar ein hochr dde.

Y Swellies yw’r enw ar y cerhyntau llanw cryf iawn yma a gallant fod yn beryglus iawn gyda llifoedd cryfion a throbyllau’n cael eu creu gan y gwahaniaeth yn uchder y llanw yn nau ben yr afon. Mae strwythur y maglau pysgod dwy ganrif oed ar Ynys Gorad Goch i'w gweld o hyd heddiw.

Daw cipolygon o Bont Britannia drwy’r goedwig yn raddol fwy sylweddol ac yn fuan rydym yn cerdded o dan ail groesfan Afon Menai. Cafodd y bont ei hadeiladu gan Robert Stephenson ac fe'i hagorwyd ym 1850 i gario trenau yn unig; cafodd ei hailadeiladu ar ôl tân yn y 1970au ac erbyn hyn hi yw’r prif lwybr ar gyfer ceir, yn ogystal â threnau, yn ôl ac ymlaen i Ynys Môn.

Drwy'r goedwig

Oddi yma, mae'r llwybr ar hyd yr afon drwy goedwig Glan Faenol wedi'i farcio'n dda ac mae ganddo guddfannau, meinciau a llwyfannau gwylio achlysurol. Mae gan Ystâd y Faenol (neu’r Vaynol) hanes diddorol ac mewn un man mae gennym hefyd olygfa ysblennydd o Blas Newydd ar y lan gyferbyn.

Ymhen ychydig rydym ar gyrion y Felinheli. Gan ddod drwy'r marina, mae caffi Swellies, La Marina neu Garddfon Inn yma’n cynnig cyfleoedd da am luniaeth ac egwyl.

O'r fan hon dilynwn ffordd y traeth i fyny'r bryn, gan droi i'r dde i ddilyn y llwybr tarmac ar yr hen reilffordd yr holl ffordd i Gaernarfon ar hyd Lôn Las Menai, llwybr a rennir gyda beicwyr.

Awn heibio i ddatblygiad marina Doc Fictoria yng Nghaernarfon a chanolfan gelfyddydau Galeri cyn cyrraedd muriau'r dref, sef hanner milltir o flanced ddiogelwch a oedd yn rhan hanfodol o gynllun Edward I i gwblhau ei dref gaerog. Yna dilynwn y promenâd, wedi'i wasgu rhwng Afon Menai ogoneddus ar y dde a muriau mawreddog y dref ar y chwith.

Castell byd-enwog ysblennydd

Wrth droi'r gornel, bron ein bod yn baglu ar draws rhyfeddod Castell Caernarfon. Wedi'i gydnabod yn fyd-eang ymhlith yr enghreifftiau ceinaf o bensaernïaeth ganoloesol, mae'r palas caerog hwn wedi'i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Ond o ran drama bensaernïol a maint pur, saif Caernarfon ar ei ben ei hun.

Heb os, mae'r castell - a gymerodd 47 mlynedd i'w adeiladu, saith canrif yn ôl - yn deilwng o ddigon o amser i'w archwilio. Mae hefyd yn gartref i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sy'n adrodd hanes catrawd troedfilwyr hynaf Cymru dros dri chan mlynedd.

Mae'r olygfa orau o'r castell i'w chael drwy groesi'r bompren dros afon Seiont. O'r fan hon gallwch ei weld yn ei gyfanrwydd mewn lleoliad gwych ar lan yr afon.

Yn ei gysgod gallwn hefyd weld prosiect adfywio Cei Llechi sydd wedi trawsnewid adeilad Swyddfa'r Harbwr a'r adeiladau adfeiliedig y tu ôl iddo yn fannau ar gyfer crefftwyr a gweithgynhyrchwyr crefft leol. Ceir hefyd arddangosfa addysgiadol ar hanes cynhyrchu llechi yn yr ardal yn hen Swyddfa'r Harbwr.

Os oes gennym nerth o hyd ar ôl taith gerdded hir, cawn ddewis darganfod safle treftadaeth sy'n llawer hŷn na'r castell. Gan gerdded y tu ôl i Gei Llechi a heibio i derfynfa newydd sbon Rheilffordd Ucheldir Cymru, dilynwn y bompren dros y rheilffordd ac awn ar hyd llwybr troed. Ar ôl croesi'r brif ffordd, i fyny rhai strydoedd preswyl ac o fewn hanner milltir, rydym yn darganfod Caer Rufeinig Segontiwm.

Er bod llawer o'i cherrig wedi'u hysbeilio i adeiladu'r castell, bron i ddwy fil o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei hadeiladu gellir adnabod yn glir olion cysegrfa, ystafell ddiogel i gadw'r gist gyflog, a'r basilica lle byddai'r swyddog awdurdodol yn cyhoeddi gorchmynion ac yn cynnal llysoedd marsial.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Er ei bod yn eithaf hir, taith gerdded wastad yw hon yn bennaf, a llawer ohoni drwy goetiroedd ar hyd glannau hardd Afon Menai. Ac mae dau o drysorau pensaernïol mwyaf eiconig Cymru yn y naill ben a’r llall iddi."

Angen gwybod

Nid oes bysiau uniongyrchol rhwng Caernarfon a Phorthaethwy, ond mae gwasanaethau cyson o Gaernarfon i Fangor. Dim ond un newid sydd ei angen ar y rhan fwyaf ohonynt i gyrraedd Porthaethwy ac fel arfer mae'n cymryd llai nag awr. Neu ystyriwch ddefnyddio dau gar. Efallai bydd ap parcio Cyngor Gwynedd yn ddefnyddiol hefyd wrth drefnu ymweliad.

Mae digonedd o le parcio, siopau, toiledau, caffis ac archfarchnadoedd ym Mhorthaethwy a Chaernarfon. 

Mae gan y Felinheli doiledau cyhoeddus ar lan y môr wrth Garddfon Inn, dewis bach o fwytai, a siop gyfleustra

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Porthaethwy i Gaernarfon (JPEG,3.78MB)