Caldicot i Cas-gwent
Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth...
Clogwyni dramatig, bywyd adar ysblennydd, goleudy eiconig, cymunedau hynafol a chaerau Rhufeinig
Maes parcio ym Mharc Morglawdd Caergybi. Fodd bynnag, gellid dechrau’r cylch hwn hefyd yn unrhyw le yng Nghaergybi, ym Mhenrhyn Mawr neu yn Ynys Lawd.
9 milltir / 14 cilometr neu 10 milltir / 16 cilometr (os cymerir y ffordd osgoi fer i gopa Mynydd Tŵr).
Mae opsiynau i gwtogi'r daith gerdded hon i ryw 7 milltir / 11 cilometr drwy fynd â thacsi o Gaergybi i Benrhyn Mawr i ddechrau'r daith neu i 6 milltir / 10 cilometr drwy fynd â thacsi i Ynys Lawd.
Dechreuwn y daith gerdded hon yn hen chwarel Parc Gwledig Morglawdd Caergybi. Darparodd y creigiau i adeiladu Morglawdd Caergybi - y mwyaf yn Ewrop - ond mae bellach yn barc tawel a dymunol ar garreg drws Caergybi.
Drwy'r parc cyrhaeddwn gyrion Caergybi a'r morglawdd. Heibio i'r marina gwnawn ein ffordd i Gaeran Rufeinig Caer Gybi. Mae ei safle ar glogwyni isel sy'n edrych dros y môr yn awgrymu y bu’n rhan o rwydwaith arfordirol o amddiffynfeydd, ac o bosibl yn gysylltiedig â'r tŵr gwylio yng Nghaer y Tŵr ar gopa Mynydd Tŵr (mwy am hyn yn ddiweddarach).
Drwy ganol tref Caergybi rydym yn ymuno â Ffordd Plas. Mae'r lôn wledig ddymunol hon yn troelli am filltir neu ddwy nes inni gymryd amdaith fer i weld dirgelwch Meini Hir Penrhos Feilw. Yr henebion eraill tebyg gerllaw yw Maen Hir Tŷ Mawr a Siambr Gladdu Trefignath.
O Benrhos Feilw, mae'n rhyw filltir arall ar hyd lonydd gwledig dymunol i gyrraedd yr arfordir. Yma, mae'r daith gerdded yn cymryd dimensiwn newydd, rhyfeddol. Wrth gerdded allan o'r maes parcio ym Mhenrhyn Mawr RSPB i rostir morol mwyaf Gogledd Cymru, daw’r clogwyni ysblennydd tuag at Ynys Lawd a'i goleudy eiconig i'r golwg bron yn syth.
Mae'r rhostir yn gartref i blanhigion a gloÿnnod byw prin yn ogystal â gwiberod a madfallod, ac mae'n rhan o warchodfa natur Clogwyni Ynys Lawd sy'n cynnal brain coesgoch, palod, gwylogod, gweilch y penwaig, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, hebogau tramor a chigfrain.
Dilynwn y llwybr drwy'r rhostir, y caeau ac ar hyd lôn am ryw filltir tuag at ganolfan groeso RSPB a chaffi, gwarchodfa natur a'r goleudy.
Wrth i ni gyrraedd y maes parcio cyntaf, cymerwn wyriad byr ar lwybr drwy'r rhedyn i gyrraedd Cylchoedd Cytiau Mynydd Tŵr, a elwir yn Gytiau'r Gwyddelod. Olion cymuned ffermio hynafol, cyn-Rufeinig yw’r rhain, ac maent yn sicr yn rhagflaenu ymosodiadau’r Gwyddelod ar Ynys Môn a drechwyd o'r diwedd yn 470AD. Gydag ychydig o ddychymyg nid anodd yw gweld sut oedd bywyd (yn agor fel fideo YouTube) yma filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Yn ôl ar lwybr y clogwyni, buan y cawn ein hunain yn sefyll uwchlaw Goleudy Ynys Lawd. Fe’i cynigiwyd gyntaf ym 1665, ond ni thywynnodd y golau cyntaf oddi yma tan 1809. Mae 400 o risiau i lawr i’w weld yn agos – a 400 arall i fyny eto. Gellir trefnu teithiau tywys yng nghanolfan groeso’r RSPB.
Dringwn yn awr i olygfan wedi'i gadael gyda golygfeydd aruchel. Yr olygfan yw’r cyfan sy'n weddill o Orsaf Delegraff Caergybi, a adeiladwyd ym 1827. Er ei bod yn system anaeddfed, gallai neges fynd oddi yma i Lerpwl ymhen rhyw funud.
Awn yn awr tuag at Fynydd Tŵr drwy ardal sy'n cael ei chroesi droeon gan rwydwaith o lwybrau, ond mae arwyddion da ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac mae'r llwybrau o ansawdd da.
Wrth i'r mynydd amlygu ei hun o'n blaenau, mae arwydd i'r copa yn ein cyfeirio at y dde, oddi ar Lwybr Arfordir Cymru. Gallwn barhau ar hyd llwybr yr arfordir, ond mae'n werth yr ymdrech i gyrraedd y pwynt uchaf ar Ynys Môn sydd â golygfeydd godidog dros y rhan fwyaf o'r ynys i Eryri, a hyd yn oed i Iwerddon ar y dyddiau cliriaf.
Yma hefyd fe welwch olion anheddiad Caer y Tŵr o’r Oes Haearn, sef lloc mawr o ddwy erw ar bymtheg (7 hectar). Mae'r rhagfuriau’n dal i sefyll 10 troedfedd (tri metr) o uchder a 14 troedfedd (pedwar metr) o drwch mewn mannau, gan greu caer fawreddog. Gellir gweld gwaelod tŵr gwylio Rhufeinig hefyd wrth ymyl y piler triongli.
Wrth fynd dros y copa, trown i'r chwith wrth gyffordd o lwybrau i ail-ymuno â llwybr amlwg Arfordir Cymru islaw a pharhau i ddisgyn yn serth i Ynys Lawd. Gan droi i'r dde yma awn heibio i hen arfdy i gyrraedd chwarel a adawyd yn ôl ar gyrion Parc Gwledig y Morglawdd.
Meddai Gruff Owen, swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir Gogledd Cymru: "Mae llawer o bobl yn sôn mai rhan o'r llwybr hwn yw'r rhan fwyaf dramatig o Lwybr Arfordir Cymru i gyd. Mae'n cynnig cerdded gwych ar hyd lonydd gwledig, drwy rostir ac uwchben clogwyni garw, gan ddarparu golygfeydd dramatig a lleoliadau eiconig."
Mae maes parcio ar gael ym Mhenrhyn Mawr, Ynys Lawd ac yng Nghaergybi. Cofiwch, serch hynny, nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Os nad ydych yn cerdded y cylch cyfan, mae dal tacsi o Gaergybi i Benrhyn Mawr neu Ynys Lawd yn syniad da, neu ewch â dau gar a pharcio un ym Mharc Morglawdd Caergybi i yrru'n ôl i Ynys Lawd neu Benrhyn Mawr.
Mae toiledau yng nghanolfan groeso’r RSPB yn Ynys Lawd (10am-5pm) ac ym Mharc Gwledig y Morglawdd.
Mae nifer o siopau, caffis, bariau a bwytai yng Nghaergybi, caffi yng nghanolfan groeso’r RSPB yn Ynys Lawd ac un arall ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi.
Lawrlwythwch map taith cerdded Caergybi a cylchdaith Mynydd Tŵr (JPEG,3.35MB)