Fflint i Treffynnon

O fan cyfarfod i frenhinoedd, drwy fynachlog ganoloesol i ffynnon iacháu hynafol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Dechreuwch yn un o'r meysydd parcio am ddim ger castell y Fflint a gorffen yn Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon.

Pellter

Cyfanswm y pellter yw 7 milltir / 12 cilomedr

3 milltir / 5 cilometr (i Fagillt),

6 milltir / 10 cilometr (i Faes-glas) neu

8 milltir / 13 cilometr (i Dreffynnon).

Taith gerdded wastad iawn tan y llethr ar y diwedd i fyny i Ffynnon Gwenfrewi.

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith hon yn dechrau mewn lleoliad ysblennydd ar lannau moryd Dyfrdwy wrth y mwyaf anarferol o gestyll Edward I yng Nghymru, Castell y Fflint.

Y cyntaf i gael ei sefydlu yn rhan o'i ymgyrch yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn y Llyw Olaf) yng Ngogledd Cymru, mae gan gastell y Fflint ddyluniad soffistigedig.

Fe’i hadeiladwyd â waliau eithriadol o drwchus a phopeth yr oedd ei angen i wrthsefyll gwarchae, ac mae hefyd yn enwog fel lleoliad cyfarfod tyngedfennol ym 1399 rhwng Richard II a'i gystadleuydd i'r goron, Henry Bolingbroke (Harri IV yn ddiweddarach) - digwyddiad a anfarwolwyd yn Richard II gan Shakespeare.

Wrth adael y castell, dilynwn yr arwyddion ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru i draethlin goediog ddeniadol. Y tu hwnt i'r fan hon mae'n hawdd dilyn y llwybr gwastad ar hyd glannau a morfeydd heli moryd Dyfrdwy.

Bedair canrif yn ôl roedd y foryd ymhlith y dyfrffyrdd prysuraf yn y byd gyda llongau di-rif yn hwylio i mewn o bedwar ban byd yn cludo llwythi o win, sbeisys a sidan. Ond heddiw mae'n lle gwych ar gyfer bywyd gwyllt ac mae'n un o safleoedd pwysicaf Ewrop ar gyfer adar hirgoes ac adar dŵr.

Os ydym am ddewis tro byr, gallwn ddefnyddio'r groesfan reilffordd ym Magillt i ddal bws yn ôl i'r Fflint.

Pyllau glo tanddwr

Yn fuan ar ôl hynny, mae'r llwybr yn ymrannu ychydig. Gallwn fynd yn syth ymlaen, neu fforchio i fyny bryn bach i ddraig ddur fawr wrth olygfan wych sy'n edrych dros fasn eang moryd Dyfrdwy. Mae'n anodd dychmygu heddiw ond, mewn gwirionedd, tomen rwbel yw’r bryn o waith glo Bettisfield sydd wedi hen gau, a arferai gyflogi mwy na 600 o ddynion a oedd yn cloddio gwythiennau glo islaw dyfroedd y foryd.

Wrth symud ymlaen, rydym yn dod allan yn y pen draw wrth borthladd hardd Maes-glas. Wedi'i adnewyddu yn 2010 mae’r lle hwn yn ganolfan i bysgotwyr a chasglwyr cocos lleol sy'n casglu eu cynhaeaf yn gynaliadwy ar lannau tywod y foryd yn yr haf a'r hydref.

Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn parhau ar hyd y traeth, ond mae ein llwybr ninnau’n troi i mewn tua'r tir tuag at Ddyffryn Maes-glas. Gallwn ddal bws yn ôl i'r Fflint o'r fan hon (ond bydd yr angen i newid bysiau yn Nhreffynnon yn ei gwneud yn daith hirach) ond trueni fyddai colli rhai o'r atyniadau sylweddol ym Maes-glas.

I wneud hynny, rydym yn croesi'r brif ffordd wrth y groesfan i gerddwyr ac yn mynd i'r chwith - yn fuan wedyn trowch i'r dde i Barc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas.

Naw canrif o hanes

Y tirnod cyntaf a welwn yn y parc yw olion Abaty Dinas Basing.

Roedd yn rhan o rwydwaith o aneddiadau Sistersaidd a arferai fod ar wasgar ledled Cymru, ac fe’i sefydlwyd ym 1131 cyn cael ei ailfodelu’n helaeth yn y drydedd ganrif ar ddeg. Er ei fod bellach wedi adfeilio, mae'n dal i roi cipolwg i ni ar fywydau'r mynaich a alwai’r lle'n gartref.
Gallwn alw heibio i'r ganolfan groeso gerllaw i ymgyfarwyddo â chynllun y parc. Mae amgueddfa hefyd (codir ffi) sy'n cofnodi treftadaeth ddiwydiannol ac amaethyddol gyfoethog y dyffryn.

Mae Bakehouse Café & Restaurant a The Hatch yma yn fannau da i orffwys ein traed a chael rhywbeth i'w fwyta neu ei yfed cyn cymal olaf ein taith.

Parhewch ar y llwybr tarmac i fyny'r parc, sy’n filltir o gymysgedd eclectig o goetiroedd, nentydd, cronfeydd dŵr, ac olion treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog a wnaeth yr ardal mor bwysig yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Ar ôl rhyw filltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion i Gapel a Ffynnon Sanctaidd Gwenfrewi.

Chwedlau hynafol a ffynnon iachusol

Dywedir bod y ffynnon, sy’n lle pererindod ers o leiaf 1115, yn tarddu o’r fan lle daeth yr abad Sant Beuno o'r 7fed ganrif â'i nith Gwenfrewi yn ôl o farw’n fyw.

Dywedir mai hwn yw’r safle pererindod hynaf ym Mhrydain yr ymwelir ag ef yn barhaus, a daw pobl o hyd i ymdrochi yn ei dyfroedd gyda'u priodweddau iachau honedig.

Mae'r capel atgofus yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif, gyda dŵr ffynnon yn byrlymu mewn basn siâp seren o dan nenfwd coeth cyn llifo allan i bwll awyr agored mwy diweddar.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Gruff Owen, swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir Gogledd Cymru: "Mae hwn yn ddiwrnod hyfryd o amrywiol ar foryd Dyfrdwy sy’n cynnwys safleoedd milwrol, crefyddol a diwydiannol hanesyddol bwysig - ac mae llawer o'r daith gerdded ochr yn ochr ag un o safleoedd gorau Ewrop ar gyfer adar."

Angen gwybod

Ceir meysydd parcio yng nghastell y Fflint, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas a Threffynnon. Bydd gwasanaethau bws rheolaidd rhwng y Rhyl a Chaer yn eich dychwelyd i’r Fflint. Fodd bynnag, er mwyn gorffen y daith ym Maes-glas, efallai y bydd gofyn newid bysiau yn Nhreffynnon i fynd yn ôl i'r Fflint. Gall parcio ym mhen draw’r llwybr a chael bws i'r man cychwyn arbed amser yn aros am fysiau ar ôl cwblhau'r daith gerdded.

Mae toiledau hygyrch ar gael ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas ac wrth Gapel Gwenfrewi yn Nhreffynnon. Ceir toiledau cyhoeddus yn y Fflint a Threffynnon.
Mae digon o opsiynau bwyd a diod yn y Fflint a Threffynnon. Mae Bakehouse Café & Restaurant a The Hatch ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas yn fannau gorffwys da.

Map

Lawrlwythwch taflen cerdded map taith cerdded Fflint i Treffynnon (JPEG, 2.57MB)