Aberffraw i Rhosneigr

Tomenni claddu hynafol ac eglwys ganoloesol yn y môr

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Aberffraw i Rosneigr.

Pellter

8 milltir / 13 cilometr.

Ar hyd y ffordd

Mae'r llwybr hwn yn dechrau ym mhentref tlws Aberffraw sef pentrefan bach cysglyd a arferai fod yn brifddinas Gogledd Cymru. Heddiw, mae holl olion y palasoedd lle byddai’r brenhinoedd a’r tywysogion yn gweinyddu eu harglwyddiaeth wedi diflannu, ond am 800 mlynedd hwn oedd un o'r canolfannau grym pwysicaf yng Nghymru a sylfaen y Cymry ar gyfer gwthio’r Gwyddelod, y Sacsoniaid, y Llychlynwyr a'r Normaniaid yn eu holau.

Erbyn heddiw, mae ei draeth gwych yn boblogaidd gyda thwristiaid, a'i rwydwaith o dwyni tywod gwarchodedig yn bwysig i fyd natur. Mae gan y pentref ei hun fythynnod gwyngalch, tafarn, siop, swyddfa bost, caffi – a hyd yn oed oriel gelf.

Wrth adael y pentref i lawr yr aber, cawn ein taro gan y bae harddaf yng Nghymru, yn ôl rhai, wrth edrych ar draws yr afon i'r traeth, y môr a mynyddoedd Pen Llŷn ac Eryri.

Mae'r llwybr o'r fan hon yn hawdd i'w ddilyn ac, wrth i ni ddringo'r pentir, hawdd yw mynd heibio i olion tomen gladdu o ddechrau'r Oes Efydd heb sylwi arni. Gyda phatrwm dyrys o gerrig o’i chwmpas, a rhai i’w gweld o hyd yn ymddangos drwy'r glaswellt, fe'i hadeiladwyd ar safle anheddiad llawer hŷn y credir ei fod yn dyddio'n ôl i ryw 7,000CC.

Yr eglwys yn y môr

Wrth i ni gyrraedd Porth Cwyfan daw golygfa hudolus Eglwys Sant Cwyfan i'r golwg. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yn y seithfed ganrif ar benrhyn, mae erydiad yn golygu bod yr adeilad bellach, adeg penllanw, wedi'i ynysu’n llwyr, ond gallwn grwydro draw i gael golwg agosach pan fydd y llanw allan.

Codwyd yr eglwys garreg yn y ddeuddegfed ganrif ond mae'r rhan fwyaf o'r hyn a saif yma bellach yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r eglwys fach, syml hon yn dal i gynnal gwasanaethau achlysurol ar y Sul.

Oddi yma mae'r llwybr yn mynd tua’r tir am ychydig, o gwmpas Trac Môn cyn ail-ymuno â'r arfordir i gildraeth tywodlyd Porth Trecastell sy'n boblogaidd gyda syrffwyr a chaiacwyr. Yn aml mae fan byrbrydau yn y maes parcio yma.

Siambr gladdu hynafol

Ar ochr arall y cildraeth, awn allan i'r pentir i ddarganfod siambr gladdu Neolithig Barclodiad y Gawres. Wedi'i gosod mewn lleoliad ysblennydd, mae llawer o'r hyn a welwn yn ffrwyth "adfer" yn y 1950au ond roedd y gwaith hwn hefyd yn diogelu rhai o nodweddion gwreiddiol pwysicaf y siambr – nifer o gerrig gyda sbiralau, igam-ogamau a losennau, yn debyg i'r rhai a geir yn nyffryn Boyne yn Iwerddon. Mae'r unig safle arall yn y DU lle gellir dod o hyd i gerfiadau o'r fath hefyd ar Ynys Môn ym Mryn Celli Ddu, sef un o safleoedd archaeolegol mwyaf atgofus Prydain.

Yn wir, mae'r ardal gyfan yn frith o siambrau claddu cynhanesyddol, ac mae'r rhai yn Nhŷ Newydd, Din Dryfol, Bodowyr a Phresaddfed i gyd o fewn ychydig filltiroedd i'r fan hon. Ac, yn sefyll yn dyst i bwysigrwydd yr ardal yn y dyddiau hynny, mae safleoedd anheddiad hynafol fel Castell Bryn Gwyn a Chaer Lêb hefyd gerllaw.

Mae'r llwybr yn parhau ar hyd yr arfordir nawr cyn cyrraedd y twyni y tu ôl i'r cyntaf o draethau Rhosneigr, Traeth Llydan sy’n dawelach fel arfer. Mae bwyty Oystercatcher yn fan hwylus am luniaeth yn y fan hon. Neu gallwch fwrw ymlaen i bentref prysur Rhosneigr sydd â nifer o westai, caffis, bariau, siopau ac ail draeth Crigyll, sy’n brysurach fel arfer.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Gruff Owen, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae hon yn daith gerdded wirioneddol arbennig; pryd bynnag y byddaf yn cerdded ar hyd y rhan hon o lwybr Arfordir Cymru, rwy'n rhyfeddu at ei harddwch a'i llonyddwch. I’w mwynhau orau ar noson glir o haf."

Angen gwybod

Mae maes parcio ger y bont yn Aberffraw a maes parcio talu ac arddangos yn Rhosneigr. Ceir hefyd ychydig o feysydd parcio ar hyd y llwybr.

Dim ond ychydig o weithiau’r dydd y bydd bysiau uniongyrchol yn teithio'r llwybr hwn. Mae angen cynllunio’n ofalus er mwyn osgoi aros yn hir neu daith hir drwy Langefni. Mae'n debyg ei bod yn haws parcio yn Rhosneigr a dal bws i Aberffraw i ddechrau eich taith gerdded, neu ddefnyddio dau gar.

Nid oes toiledau cyhoeddus yn Aberffraw a Rhosneigr. 

Mae digonedd o fwyd a diod ar gael yn Rhosneigr, ac mae tafarn a siop fechan yn Aberffraw. Ar y llwybr, efallai bydd fan byrbrydau ym Mhorth Trecastell ac mae bar a bwyty Oystercatcher ger diwedd eich taith.

Map

Lawrlwythwch  map taith cerdded Aberffraw i Rosneigr (JPEG, 2.19MB)