Gardd Fotaneg Treborth i Ystad y Faenol, Bangor (Photo Trails)
Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr...
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn Afon Menai
Llwybr llinol sy'n cynnig golygfeydd o'r Fenai ac arfordir Ynys Môn. Byddwch yn teithio ar hyd llwybr beicio 2.5 cilomedr neu 4 milltir Lôn Las Menai sy'n cysylltu tref brydferth Y Felinheli a thref hanesyddol Caernarfon. Sylwch fod y rhan gyntaf un o'r glannau yn Y Felinheli cynnwys dringfa serth a ddylai fod yn rhwydd i’r rhan fwyaf o offer symudedd modur. Os ydych chi'n defnyddio offer â llaw, efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch chi. Neu gellir cychwyn y llwybr ar ben y llethr hwn o feddygfa’r Felinheli.
Gallwch ymestyn y daith gerdded hon drwy ei chyfuno â thaith gerdded Gardd Fotaneg Treborth i Ystad y Faenol i’w gwneud yn daith gerdded 11 milltir neu 18 cilometr o hyd rhwng Gardd Fotaneg Treborth a Chaernarfon. Gallwch wneud hyn drwy gerdded ar hyd y llwybr o’r Felinheli tuag at Ystad y Faenol a pharhau i ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tuag at Ardd Fotaneg Treborth.
Mae'r llwybr rhwng Ystad y Faenol a'r Felinheli yn dilyn trac garw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynediad preifat i gerbydau a gall fynd yn fwdlyd ac anwastad mewn tywydd gwlyb.
Lawrlwythwch daflen wybodaeth er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich ymweliad. Sylwer – mae’r ddogfen hon ar gyfer dibenion esboniadol ac nid ar ar gyfer llywio yn unig.
Gweld y map ar-lein (yn agor gwefan Photo Trails). Mae Experience Community wedi mapio’r un llwybr ar-lein, ond wedi cyfnewid y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r map hwn ar-lein yn cynnwys ffotograffau mewn mannau arwyddocaol ar hyd y llwybr, ac yn cynnig disgrifiadau manwl o’r llwybr, gan gynnwys lleoliadau canllawiau, meinciau i orffwys arnynt, a graddiant y llwybr.
Rydym yn argymell fod gennych fap papur bob amser wrth gefn yn ogystal ag ap mapio ar eich ffôn symudol os nad ydych yn gyfarwydd â’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru.
Dechrau: Glan y Môr / Beach Road, Y Felinheli
Gorffen: Canolfan gelf a sinema Galeri, Caernarfon
Pellter: 10 cilomedr neu 8 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 2 i 3 awr.
Wyneb: Llwybr beicio wedi'i darmacio yn bennaf.
Llethrau: Rhai adrannau lle gallai fod angen cymorth ar ddefnyddwyr.
Proffil y llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Mae na 35 metr o waith dringo ar y mwyaf yma.
Lled y Llwybr: Cyfartaledd 1.8 medr.
Ar gyfer llywio â lloeren defnyddiwch: Ffordd y Traeth, Y Felinheli, LL56 4RQ
Ar gyfer defnyddwyr Cludiant Cyhoeddus: Ewch i Travellne Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael yn Y Felinheli ar Ffordd y Traeth a ger y feddygfa ar ddechrau'r llwybr beicio.
Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael ar ddechrau'r llwybr beicio yng Nghaernarfon.
Toiledau: Ceir toiledau hygyrch ar Ffordd y Traeth yn y Felinheli ac yng Nghaernarfon hefyd.
Amwynderau eraill: Mae lluniaeth ar gael yn Y Felinheli a Chaernarfon. Darllenwch fwy am ganolfan Galeri Caernarfon.
Wrth gyrraedd Caernarfon, mae’n bosib dewis dilyn y glannau ar hyd muriau castell y dref. Mae'r bont hanesyddol i gerddwyr y tu allan i sinema a chanolfan gelf Galeri yn gul. Os oes gennych offer symudedd, bydd angen i chi fynd o amgylch blaen adeilad Galeri i ail-ymuno â'r glannau.