Crwydrwch Benrhyn Llŷn gydag Aled Hughes

Taith bersonol ar hyd y rhan hiraf o Lwybr Arfordir Cymru

Mae un o’r teithlyfrau swyddogol ar gael yn y Gymraeg.

Mae’n cwmpasu’r rhan o’r llwybr ar hyd Penrhyn Llŷn, sy’n 110 milltir / 180km o hyd. Dyma un o’r rhannau hiraf o Lwybr Arfordir Cymru gyfan, ac mae’n ffefryn gan lawer. Mae’r llyfr hwn yn ddelfrydol i gerddwyr lleol a’r rhai sy ar deithiau hwy. Mae’r teithlyfr Cymraeg swyddogol ar gyfer y llwybr yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am y llwybr yn iaith frodorol Cymru. Mae hefyd yn ffordd wych i ddysgwyr wella’u sgiliau darllen Cymraeg mewn ffordd ymarferol. 

Dilynwch daith Aled ar hyd Penrhyn Llŷn

Mae Aled Hughes, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, wedi cerdded rhan Llŷn ac arfordir Eryri o’r llwybr gan ddefnyddio’r teithlyfr ar hyd y daith. Er ei fod bellach yn byw ym Môn, mae gan Aled wreiddiau dwfn ym Mhen Llŷn, ac fe fu’n ymweld â llefydd cyfarwydd ac adnabyddus ar hyd y llwybr.

Gwrandewch ar daith Aled

Bydd Aled yn rhoi sgwrs am ei daith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Gyda’i frwdfrydedd a’i egni diderfyn dros yr iaith Gymraeg a’i hanes, rydym yn sicr y cewch eich ysbrydoli i ddilyn yn ôl ei draed.

Gallwch wrando ar Aled yn siarad yn yr Eisteddfod eleni ym Moduan, ger Pwllheli ar 8 Awst 2023 am 1pm ym mhabell Ecoamgueddfa Llŷn. Ewch i wefan EcoAmgueddfa i weld y diweddaraf.

Gwyliwch daith Aled

Mae Aled wedi cofnodi ei daith mewn 15 fideo o amgylch y rhan unigryw hon o’r llwybr yng ngogledd-orllewin Cymru. Gallwch ddisgwyl digonedd o straeon lleol ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal wrth iddo ddangos rhai o olygfeydd mwyaf eiconig Llwybr Arfordir Cymru gyfan. Mae ei angerdd am yr ardal hon o Gymru yn heintus a chewch eich ysbrydoli i roi eich esgidiau cerdded amdanoch a dilyn yn ôl ei draed cyn bo hir.

Gwyliwch fideos Aled ar ein sianel YouTube

Mae pob fideo tua 9 munud o hyd, wedi’u traethu yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg. Dyma’r adrannau y mae Aled yn eu dangos i ni:

1. Trefor hyd at Nant Gwrtheyrn
2. Nant Gwrtheyrn i Nefyn
3. Nefyn
4. Nefyn i Borth Colmon
5. Porth Colmon i Borth y Wrach
6. Porthor i Aberdaron
7. Aberdaron i Rhiw
8. Rhiw i Borth Neigwl
9. Porth Neigwl i Machroes
10. Machroes i Lanbedrog
11. Llanbedrog i Bwllheli
12. Pwllheli i Gricieth
13. Cricieth i Borthmadog

Beth sydd yn y llyfr

Yn rhedeg o Fangor i Borthmadog, gan gwmpasu Penrhyn Llŷn i gyd, mae'r llyfr yn rhoi trosolwg o hanes yr ardal, gwybodaeth am fywyd gwyllt, siartiau pellter, gwybodaeth ddefnyddiol am lety, gwybodaeth leol, a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.cover of Penrhyn Llyn book

Mae ar gael i'w brynu am £15.99 ym mhob siop lyfrau dda neu ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru

Ysgrifennwyd ‘Llwybr Arfordir Cymru – Penrhyn Llŷn: Bangor i Borthmadog’ gan Carl Rogers a Tony Bowerman yn y Saesneg gwreiddiol, ac mae wedi’i addasu i'r Gymraeg gan Elfed Gruffudd ar ran Atebol

Dyma'r canllaw Cymraeg swyddogol ar gyfer rhan Pen Llŷn o Lwybr Arfordir Cymru, gyda chymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

  • ISBN: 9781914589072 (1914589076)
  • Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2022
  • £15.99
  • Caiff y llyfr ei ddosbarthu gan Gyngor Llyfrau Cymru

Caiff teithlyfrau swyddogol y llwybr eu cyhoeddi gan lyfrau Northern Eye a’u diweddaru gyda thîm Llwybr Arfordir Cymru. Mae teithlyfrau eraill ar gael i’w prynu. Ewch i’r dudalen Cynllunio’ch Ymweliad i gael gwybodaeth am fwy o deithlyfrau

Llwybr y Morwyr

Fe gerddodd Aled Lwybr y Morwyr hefyd, sy’n cysylltu tref arfordirol Nefyn â phentref Abersoch. Mae’n dilyn llwybrau a ddefnyddiwyd yn fynych gan forwyr yn y 19eg ganrif. Mae’n 11 milltir / 17km o hyd ac mae arwyddbyst yn dangos Llwybr y Morwyr ar hyd y daith. Gallwch gysylltu â’r llwybr hwn ar Lwybr Arfordir Cymru yn Nefyn ac yn Abersoch.

Mae gwefan Ecoamgueddfa yn cynnwys canllaw Llwybr y Morwyr sy’n cynnwys map yn dangos mannau o ddiddordeb a ffeil GPX o’r llwybr i’w lawrlwytho a’i defnyddio ar ddyfais GPS (Global Position System).

Archwilio mwy