Rydym yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru
Cyrsiau ar-lein am ddim i ddysgu am nodweddion...
Mae’n cwmpasu’r rhan o’r llwybr ar hyd Penrhyn Llŷn, sy’n 110 milltir / 180km o hyd. Dyma un o’r rhannau hiraf o Lwybr Arfordir Cymru gyfan, ac mae’n ffefryn gan lawer. Mae’r llyfr hwn yn ddelfrydol i gerddwyr lleol a’r rhai sy ar deithiau hwy. Mae’r teithlyfr Cymraeg swyddogol ar gyfer y llwybr yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am y llwybr yn iaith frodorol Cymru. Mae hefyd yn ffordd wych i ddysgwyr wella’u sgiliau darllen Cymraeg mewn ffordd ymarferol.
Mae Aled Hughes, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, wedi cerdded rhan Llŷn ac arfordir Eryri o’r llwybr gan ddefnyddio’r teithlyfr ar hyd y daith. Er ei fod bellach yn byw ym Môn, mae gan Aled wreiddiau dwfn ym Mhen Llŷn, ac fe fu’n ymweld â llefydd cyfarwydd ac adnabyddus ar hyd y llwybr.
Bydd Aled yn rhoi sgwrs am ei daith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Gyda’i frwdfrydedd a’i egni diderfyn dros yr iaith Gymraeg a’i hanes, rydym yn sicr y cewch eich ysbrydoli i ddilyn yn ôl ei draed.
Gallwch wrando ar Aled yn siarad yn yr Eisteddfod eleni ym Moduan, ger Pwllheli ar 8 Awst 2023 am 1pm ym mhabell Ecoamgueddfa Llŷn. Ewch i wefan EcoAmgueddfa i weld y diweddaraf.
Mae Aled wedi cofnodi ei daith mewn 15 fideo o amgylch y rhan unigryw hon o’r llwybr yng ngogledd-orllewin Cymru. Gallwch ddisgwyl digonedd o straeon lleol ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal wrth iddo ddangos rhai o olygfeydd mwyaf eiconig Llwybr Arfordir Cymru gyfan. Mae ei angerdd am yr ardal hon o Gymru yn heintus a chewch eich ysbrydoli i roi eich esgidiau cerdded amdanoch a dilyn yn ôl ei draed cyn bo hir.
Gwyliwch fideos Aled ar ein sianel YouTube
Mae pob fideo tua 9 munud o hyd, wedi’u traethu yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg. Dyma’r adrannau y mae Aled yn eu dangos i ni:
1. Trefor hyd at Nant Gwrtheyrn
2. Nant Gwrtheyrn i Nefyn
3. Nefyn
4. Nefyn i Borth Colmon
5. Porth Colmon i Borth y Wrach
6. Porthor i Aberdaron
7. Aberdaron i Rhiw
8. Rhiw i Borth Neigwl
9. Porth Neigwl i Machroes
10. Machroes i Lanbedrog
11. Llanbedrog i Bwllheli
12. Pwllheli i Gricieth
13. Cricieth i Borthmadog
Yn rhedeg o Fangor i Borthmadog, gan gwmpasu Penrhyn Llŷn i gyd, mae'r llyfr yn rhoi trosolwg o hanes yr ardal, gwybodaeth am fywyd gwyllt, siartiau pellter, gwybodaeth ddefnyddiol am lety, gwybodaeth leol, a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae ar gael i'w brynu am £15.99 ym mhob siop lyfrau dda neu ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru
Ysgrifennwyd ‘Llwybr Arfordir Cymru – Penrhyn Llŷn: Bangor i Borthmadog’ gan Carl Rogers a Tony Bowerman yn y Saesneg gwreiddiol, ac mae wedi’i addasu i'r Gymraeg gan Elfed Gruffudd ar ran Atebol
Dyma'r canllaw Cymraeg swyddogol ar gyfer rhan Pen Llŷn o Lwybr Arfordir Cymru, gyda chymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Caiff teithlyfrau swyddogol y llwybr eu cyhoeddi gan lyfrau Northern Eye a’u diweddaru gyda thîm Llwybr Arfordir Cymru. Mae teithlyfrau eraill ar gael i’w prynu. Ewch i’r dudalen Cynllunio’ch Ymweliad i gael gwybodaeth am fwy o deithlyfrau
Fe gerddodd Aled Lwybr y Morwyr hefyd, sy’n cysylltu tref arfordirol Nefyn â phentref Abersoch. Mae’n dilyn llwybrau a ddefnyddiwyd yn fynych gan forwyr yn y 19eg ganrif. Mae’n 11 milltir / 17km o hyd ac mae arwyddbyst yn dangos Llwybr y Morwyr ar hyd y daith. Gallwch gysylltu â’r llwybr hwn ar Lwybr Arfordir Cymru yn Nefyn ac yn Abersoch.
Mae gwefan Ecoamgueddfa yn cynnwys canllaw Llwybr y Morwyr sy’n cynnwys map yn dangos mannau o ddiddordeb a ffeil GPX o’r llwybr i’w lawrlwytho a’i defnyddio ar ddyfais GPS (Global Position System).