Ar ôl penderfynu y buaswn yn ddigartref am sbel, ac ar ôl hyfforddi am saith mis, ar 8 Awst 2012 gadewais Blackpool gyda’r bwriad o godi arian ar gyfer ‘Help for Heroes’ trwy gerdded yr holl ffordd o amgylch arfordir tir mawr Prydain. Pellter y daith, meddan nhw, yw 6,824 milltir – ond gan fy mod yn cwblhau fy siwrnai heb ddefnyddio llongau fferi, mae’n debyg y bydd nifer y milltiroedd ar ddiwedd y daith yn llawer mwy!

Gan fy mod yn cerdded yn groes i’r cloc, Llwybr Arfordir Cymru oedd un o’r llwybrau mawr cyntaf imi ei gyrraedd. A hithau’n dymor gwyliau’r haf (ie, gwlyb!), buan iawn y cefais fy nghroesawu gan y twristiaid a’r trigolion lleol fel ei gilydd. Ac o dro i dro cefais fy ngwahodd i gartrefi, tafarndai a gwersyllfaoedd i rannu bwyd a pheint neu dri! Un ardal y teimlais gysylltiad gwirioneddol gryf â hi oedd Coedwig Niwbwrch, Traeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn. Hon fydd yr ardal y byddaf yn dychwelyd iddi’n ddi-os ryw ddiwrnod – ardal yr hoffwn yn ddistaw bach iddi fod yn ardd gefn imi! Rydw i’n falch iawn fy mod wedi cael y fraint o droedio’r llwybr hwn ac yntau newydd gael ei agor, a’m bod wedi dod ar draws cymaint o garedigrwydd a haelioni ar ei hyd! Yn ddi-os, mae trigolion Cymru ymhlith y rhai gorau ym Mhrydain!

Fel un a arferai fod yn droedfilwr fy hun, rydw i wedi gweld yr anawsterau y mae milwyr yn eu hwynebu ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’w bywydau bob dydd. Mae llawer yn cael trafferth i ymdoddi i fywyd teuluol, yn aml oherwydd diffyg cwnsela a diffyg cefnogaeth. Gall hyn arwain at broblemau eraill, fel anhwylder straen wedi trawma neu ddibyniaeth ar ddiod feddwol a chyffuriau – pethau a all rwygo teuluoedd. Oherwydd hyn i gyd, yn anffodus mae llawer o gyn-filwyr yn gorfod wynebu byw ar y strydoedd. Fy nod yw codi swm anferthol o arian ar gyfer ‘Help for Heroes’, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â milwyr digartref trwy gysgu fel y bydden nhw’n cysgu. Ar ôl cwblhau’r daith aruthrol hon, cyn belled ag y gwn i fi fydd y dyn cyntaf i fod wedi cerdded ar hyd arfordir Prydain i gyd heb ddefnyddio llongau fferis, a thrwy gysgu dan y sêr.

Wrth imi ysgrifennu’r pwt yma, rydw i oddeutu chwarter y ffordd drwy’r daith ac rydw i wedi tramwyo mwy na 2000 o filltiroedd gyda fy sach teithio Bergen 30kg a’m masgot Sebastian. Er mwyn gwneud yn siŵr y bydd modd imi oroesi’r nosweithiau, rhaid imi gyrraedd Yr Alban ddechrau’r gwanwyn, felly rydw i wedi amcangyfrif y gallai gymryd cymaint â thair blynedd imi gwblhau’r sialens. Ond nid wyf yn cynllunio mwy na ryw ddeuddydd neu dri ymlaen llaw – yn hytrach, fy mwriad yw mwynhau, profi, cofnodi a chnoi cil dros bopeth a ddaw i’m rhan bob diwrnod trwy gyfrwng fy mlog. Rydw i wedi dweud rhwng difrif a chwarae y bydd y profiad naill ai’n fy lladd neu’n rhoi asgwrn cefn imi – dilynwch fy siwrnai hyd at ei diwedd yn Blackpool ar Facebook (Christian around Britain).

 

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.