Filkin’s Drift
Taith gerdded epig 870 milltir gan fand cerddoriaeth...
Roeddem eisoes wedi crwydro rhai o gopaon anhygoel Gogledd Cymru ac felly pan agorodd y llwybr roedd yn her nad oedd yn bosibl ei hanwybyddu.
Dyddiad dechrau: Ionawr 2012
Dyddiad gorffen: Gŵyl Fai 2019
Roedd Ynys Môn yn fendigedig ac yn sicr yn un o'r uchafbwyntiau. Pan wnaethon ni gyrraedd Trearddur roedd hi’n digwydd bod yn Ŵyl yr Wystrys ac ar ôl gorffen cerdded, wrth lwc cawsom le i eistedd mewn tafarn leol fyrlymus - roedd o'n deimlad gwych bod yng nghanol noson o fandiau byw, bwyd a diod a llawer o ymwelwyr hapus.
Doedd dim trefn ar ein taith gerdded i ddweud y gwir ac ar ôl cwblhau Gogledd Cymru roedden ni’n rhyw neidio o gwmpas. Roedd Pen Llŷn hefyd yn bleser pur ac ehangder Ceredigion hefyd yn fythgofiadwy â’r tynnu coes anhygoel gyda staff Gwesty'r Marine yn sicr yn ychwanegu at hynny.
Roedd cyrraedd Tremadog ar Ddiwrnod Carnifal yn brofiad a hanner! Mae llwyddo i gael lle i gael tamaid da bob amser yn anodd ôl diwrnod caled o gerdded, ond roeddem yn ddigon lwcus o fachu’r bwrdd olaf yn y Cnu Aur ar Ddiwrnod y Carnifal. Un o’r pethau nad oedden ni wedi’u rhagweld o gwbl fodd bynnag oedd yr awyrgylch ‘Rio’ oedd yno - roedd pawb mewn dipyn o stâd - a hithau mond yn amser te!
Un o'r pleserau mawr oedd cyrraedd tref neu bentref a dod o hyd i siop goffi. Ar ôl diwrnod o gerdded mae ansawdd y diodydd yn gwbl nefolaidd a’ch synhwyrau mor sensitif ag erioed.
I ddechrau fe wnaethon ni gerdded o Gaer - taith chwe milltir yn syth i mewn i flaenwynt cryf. Roedd o mor gryf fel nad oedden ni’n gallu cynnal sgwrs. Roedd y rhan yng Ngogledd Cymru yn hawdd o ran logisteg gyda'r rheilffordd yn glynu at yr arfordir. Ar ôl y blaenwynt cyntaf hwnnw fe ddechreuodd pethau wella ac erbyn i ni gyrraedd y Parlwr Du roeddem yn teimlo ein bod ni wedi cychwyn o ddifrif. Ildiodd ardal ddiwydiannol Gogledd Cymru i gyrchfan glan môr ac aethom heibio iddi y tu allan i'r tymor prysur.
Cawsom gryn gymysgedd o dywydd dros y blynyddoedd a gymerodd inni gwblhau'r llwybr. Roedd y glaw cyson a fu’n rhaid inni ei ddioddef wrth ymdrybaeddu drwy Gors Fochno yn llafurus i ddweud y lleiaf. Yna roedd yr adegau hynny ar ôl gorffen rhan, byddem yn chwilio am bryd o fwyd mewn gwestai/bwytai lleol ac yn cael gwybod nad oedd lle o gwbl. Wrth i amser fynd yn ei flaen, fe wellodd ein sgiliau logisteg.
Mae yna bwyntiau isel amlwg fel y cyfnodau maith o law didrugaredd, y gwres/yr oerfel, y pothelli, y gwyriadau, gwartheg bywiog, tirweddau diwydiannol, a safleoedd gwaith trin carthion. Fodd bynnag, mae’r rheini i gyd yn mynd yn angof ac yn cael eu disodli gan uchafbwyntiau o rif y gwlith. Mae mawredd y cyfan yn gwneud i Gors Fochno ddiflannu’n llwyr.
Roedd gorffen yn Solfach yn eithaf arbennig - mae'n fae bychan mor ddelfrydol. Daeth pwyllgor croeso o ffrindiau agos i'n gweld yn croesi'r llinell derfyn ac yna draw â ni i Siop Goffi Mamgu er mwyn cael cawl i ddathlu. Ac yn ddiweddarach cawsom dynnu coes gydag Elvis Preseli – swyddog y maes parcio - wel am gymeriad!
Un awgrym rhagorol yw cofio camu oddi ar y llwybr o bryd i’w gilydd. Aethom ni am sawl taith mewn cwch i weld yr arfordir o safbwynt gwahanol. Y llall yw anadlu – mewn gwirionedd defnyddio’r holl synhwyrau. Rydym yn falch ei fod wedi cymryd cymaint o amser i ni - a gallwn ddweud yn ddi-flewyn ar dafod ein bod wedi mwynhau pob un cam o’r ffordd.